Lleoliad labordy

Gwyddorau Iechyd

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Gwyddorau Iechyd
Grŵp o fyfyrwyr yn astudio a siarad yn y llyfrgell

Pam Astudio Gwyddorau Iechyd?

Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau meistr ôl-raddedig ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, gan gynnwys nyrsys, bydwragedd, parafeddygon a'r rhai sy'n ymwneud â rheoli gwasanaethau clinigol, iechyd cyhoeddus a gwaith cymdeithasol. Mae gennym bortffolio cynyddol o fodiwlau a llwybrau dysgu o bell ar-lein sy'n galluogi i'n harbenigedd fod ar gael i rai sydd y tu allan i Ogledd Cymru.

Cyfleoedd Gyrfa mewn Gwyddorau Iechyd

Mae ein cyrsiau gwyddor iechyd ôl-raddedig ym Mangor wedi'u cynllunio i ymateb i'r newidiadau sy'n digwydd yn y gweithle a byddant yn cynyddu eich gwybodaeth ac yn gwella'ch rhagolygon gyrfa ym maes gofal iechyd yn y dyfodol, gan eich helpu i wireddu'ch potensial llawn.

Ceir cyrsiau hyfforddiant proffesiynol ôl-raddedig carlam i raddedigion gwyddor bywyd sy'n arwain at yrfaoedd mewn Nyrsio neu Ffisiotherapi.

Mae ein cyrsiau'n galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol presennol i ddatblygu eu gyrfaoedd mewn meysydd gan gynnwys Nyrsio; Bydwreigiaeth; Parafeddygaeth; Gwaith cymdeithasol; Proffesiynau perthynol i iechyd; Ymchwil i ofal iechyd; Heneiddio a dementia; Iechyd Cyhoeddus; Rheoli gwasanaethau iechyd; Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Iechyd Galwedigaethol; Fferylliaeth; Ffisioleg Glinigol.

Ein Hymchwil o fewn Gwyddorau Iechyd

Mae ein grwpiau ymchwil i gyd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR). Rydym yn adeiladu ar lwyddiant BIHMR yn REF 2014 i gynnal a chynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd, meddygol a gofal cymdeithasol. Rydym yn cynnal ymchwil o'r safon uchaf sy'n cyfrannu at welliannau mewn iechyd a gofal iechyd lleol, yn ogystal â chael effaith ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Ein huchelgais yw gwneud cyfraniad cadarnhaol i iechyd a lles yng Nghymru, a datrys heriau'n ymwneud ag iechyd a gofal yn genedlaethol a byd-eang. Rydym yn gwneud hyn trwy:

  • gyflawni ymchwil o'r ansawdd uchaf sy'n cynhyrchu atebion newydd mewn gwasanaethau iechyd a gofal
  • hwyluso cynlluniau newydd i wella gwasanaethau
  • ddarparu'r addysgu a'r dysgu gorau yn seiliedig ar ymchwil gyfoes er mwyn datblygu'r gweithlu iechyd a gofal ar hyn o bryd ac yn y dyfodol
  • weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod popeth a wnawn o'r safon, ansawdd a gwerth uchaf posibl i ddefnyddwyr gwasanaethau, myfyrwyr, ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill
  • gydnabod ein treftadaeth ddwyieithog yng Ngogledd Cymru
  • gynnal medrusrwydd o ran iaith a diwylliant sy'n berthnasol i bartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?