Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ceisiadau ar agor ar gyfer y cwrs hwn.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 20 Chwefror 2026 (ar gyfer dechrau ym mis Mawrth 2026).
Mae ein Diploma Ôl-radd newydd mewn Nyrsio Anableddau Dysgu Cymunedol yn Gymhwyster Ymarfer Arbenigol (SPQ) a gynlluniwyd ar gyfer nyrsys cofrestredig sydd am arbenigo mewn darparu gofal cynhwysol o ansawdd uchel ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion mewn lleoliadau cymunedol. Bydd yn cael ei gyflwyno trwy ddysgu hyblyg ar-lein ac mae'n cefnogi llwybrau astudio llawn amser a rhan amser; mae’n ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n cydbwyso ymarfer clinigol gyda datblygiad proffesiynol.
Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, ac fe'i cynlluniwyd i ddiwallu anghenion cymhleth ac esblygol pobl ag anableddau dysgu. Bydd yn cefnogi ymarferwyr i ddatblygu gwybodaeth uwch, ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a sgiliau arweinyddiaeth i weithio'n effeithiol mewn lleoliadau amlasiantaethol. Byddwch yn ennill yr arbenigedd i ddarparu gofal cynhwysol, gwella ansawdd bywyd, a hybu tegwch mewn gofal iechyd.
Pam astudio'r cwrs hwn?
- Datblygwch eich gyrfa mewn gofal anableddau dysgu o fewn lleoliadau cymunedol
- Cyfle i wella'ch sgiliau i arwain timau amlasiantaethol a darparu cefnogaeth gyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Cefnogi ymagweddau cynhwysol, seiliedig ar hawliau at ofal a datblygu gwasanaethau
- Darpariaeth hyblyg ar-lein wedi'i deilwra i gyd-fynd â'ch bywyd gwaith a'ch ymrwymiadau personol
- Gellwch astudio ochr yn ochr â chymheiriaid o bob rhan o Gymru a’r Deyrnas Unedig, gan rannu ymarfer gorau a meithrin rhwydweithiau proffesiynol
- Mae lleoedd wedi'u comisiynu ar gael i staff a gyflogir gan Fyrddau Iechyd Cymru, gan gefnogi datblygiad proffesiynol o fewn gweithlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol *
- Mae’r rhaglen hon yn arwain at gymhwyster mewn Ymarfer Arbenigol y gellir ei gofrestru gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus *
Mae’r rhaglen hon yn adlewyrchu tueddiadau cyfredol mewn gofal iechyd, lle mae’r pwyslais yn gynyddol ar alluogi pobl i fyw’n dda yn y gymuned a grymuso nyrsys i arwain y newid hwnnw.
Ydi’r cwrs yma’n addas i chi?
Mae'r rhaglen hon yn addas ar gyfer nyrsys cofrestredig sy'n ymarfer mewn lleoliadau cymunedol ar hyn o bryd. Efallai eich bod yn un o’r canlynol:
- Ceisio symud ymlaen yn eich gyrfa
- Diddordeb mewn gwella canlyniadau gofal a chefnogi integreiddio ar draws gwasanaethau
- Yn ceisio datblygu arweinyddiaeth ac arloesedd mewn Gwasanaethau anableddau dysgu.
Ffioedd a Chyllid
Mae’r SPQ mewn nyrsio cymunedol ar gyfer anableddau dysgu, iechyd meddwl a nyrsio meddygaeth teulu wedi’i gomisiynu a’i ariannu’n llawn gan HEIW fel Diploma Ôl-raddedig (rhan-amser). Mae’r rhaglen yn arwain at Gymhwyster Ymarferydd Arbenigol (SPQ) y gellir ei gofnodi gyda’r NMC.
Bydd ceisiadau am le a ariennir yn cael eu hasesu fel rhan o’r broses ymgeisio. Gweler y tab Gofynion Mynediad i weld a ydych yn bodloni’r gofynion.
Gofynion Mynediad
Gwiriwch yn ofalus eich bod yn bodloni’r gofynion mynediad. Rhaid i ymgeiswyr:
- Fod wedi’u cofrestru ar hyn o bryd gyda’r corff nyrsio statudol (NMC) ers o leiaf blwyddyn
- Fel arfer feddu ar radd israddedig 2:1 neu radd dosbarth cyntaf; bydd ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â dosbarthiad 2:2 yn cael eu hystyried fesul achos, yn seiliedig ar yr eirdaon a’r datganiad personol a ddarperir
- Allu darparu tystiolaeth o fynediad i leoliadau clinigol sy’n cyd-fynd â deilliannau dysgu’r rhaglen
- Feddu ar wiriad uwch cyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
- Ddarparu datganiad personol cryf a geirda proffesiynol
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ddysgwyr hŷn a’r rhai sy’n dychwelyd i addysg ar ôl seibiant gyrfa.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: Gan fod y cwrs hwn wedi’i ariannu gan HEIW, ac o ystyried y gofynion mynediad a nodir uchod, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r DU. Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr rhyngwladol sydd wedi’u cofrestru’n llawn gyda’r NMC, yn gweithio yn y DU, ac yn bodloni’r holl ofynion eraill a nodir uchod, i gysylltu â ni i drafod eu cymhwysedd.
Gwneud Cais
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 20 Chwefror 2026 (ar gyfer dechrau ym mis Mawrth 2026). Nodwch efallai na fyddwn yn gallu derbyn ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwn.
Sut i wneud cais: Rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn drwy ein Porth Ymgeiswyr ar-lein. Darllenwch y canllawiau ar sut i wneud cais isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â health.applications@bangor.ac.uk
Cam 1: Llenwi Ffurflen Gais Atodol
Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais atodol. Bydd angen i chi ei chadw a’i llwytho i fyny i’ch cais ar-lein (gweler Cam 3 isod).
Rydym yn argymell bod pob ymgeisydd yn llenwi’r ffurflen cyn dechrau’r cais ar-lein.
Cam 2: Creu Cyfrif
I wneud cais am y cwrs, bydd angen i chi greu cyfrif yn y Porth Ymgeiswyr.
Bydd y system yn anfon e-bost dilysu at y cyfeiriad e-bost a ddarperir. Sicrhewch fod gennych fynediad at y cyfeiriad hwn er mwyn cwblhau’r cam dilysu.
Unwaith y bydd y cyfrif wedi’i ddilysu, gallwch fewngofnodi i’r porth drwy nodi’ch cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair i barhau â’r cais. Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gallu dychwelyd at eich cais ar unrhyw adeg a gweld statws y cais ar ôl iddo gael ei gyflwyno.
Cam 3: Cais
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda nifer o adrannau:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cysylltwch
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Rhaid i chi lenwi pob adran cyn cyflwyno eich cais. Pan fydd adran wedi’i chwblhau, bydd symbol ‘tic’ yn ymddangos wrth ei hymyl yn y tab Menu, neu bydd yr adran wedi’i thanlinellu mewn gwyrdd.
Cam 4: Dewis y cwrs
Mae’r cwrs hwn wedi’i restru o dan Distance Learning ac yn ymddangos fel a ganlyn: CLD Nursing SPQ
Nodwch y bydd y dull cyflwyno’n cael ei boblogi’n awtomatig ar ôl dewis eich cwrs, gan fod y cyrsiau hyn ar gael ar sail rhan-amser yn unig drwy ddysgu o bell.
Dewiswch ddyddiad dechrau Mawrth 2026 o’r gwymplen.
Yna cliciwch ‘Cadw a Pharhau’.
Yna bydd angen i chi lwytho dogfennau ategol. Dylech lwytho eich ffurflen gais atodol (Cam 1 uchod) yn lle Datganiad Personol. Yn yr adran ‘Personal Statement’, cliciwch ‘choose file’, dewiswch eich dogfen, ac yna cliciwch ‘Cadw a Pharhau’.
Cam 5: Cwblhau’r adrannau sy’n weddill
Cwblhewch yr adrannau sy’n weddill, gan sicrhau eich bod yn dewis ‘Save and Continue’ pan ofynnir i chi wneud hynny.
Yn yr adran ‘Cyllid’, os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer lle a ariennir gan HEIW, llenwch y meysydd fel a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Wedi’i noddi’n llawn
- Union enw'r awdurdod cyllido: HEIW
- Gwlad: United Kingdom
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad: Yn rhannol
- Bydd nawdd yn cynnwys: Ffioedd dysgu
- Gwerth ysgoloriaeth yn GBP: gadewch hwn fel 0.00
- A ydych wedi derbyn y cyllid hwn? Nac ydw*
- A oes angen cynnig mynediad gan Brifysgol Bangor arnoch i wneud cais am yr arian? Nac ydw*
*Nodyn: Bydd Prifysgol Bangor yn asesu a ydych yn gymwys ar gyfer cyllid fel rhan o’ch cais. Nid oes angen cyflwyno cais ar wahân.
Cam 6: Cyflwyno eich cais
Unwaith y bydd pob adran wedi’i gwblhau, bydd cadarnhad yn ymddangos ar y sgrin. Adolygwch fanylion y cais drwy ddewis ‘View Summary’.
Os byddwch yn sylwi ar unrhyw wallau, gallwch ddiwygio’r manylion drwy ddewis yr adran berthnasol yn y bar uchaf.
Os yw’r holl fanylion yn gywir, cyflwynwch eich cais.
PWYSIG: SICRHEWCH EICH BOD YN DEWIS AC YN CLICIO 'CYFLWYNWCH EICH CAIS'
Ar ôl cyflwyno eich cais, byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau, gan gynnwys Rhif Adnabod Ymgeisydd, o fewn 5–10 munud. Bydd diweddariadau pellach ynghylch eich cais ar gael drwy’r porth.
Os cewch eich dewis, cewch wahoddiad i fynychu cyfweliad:
Dyddiadau cyfweld: 02 Mawrth 2026 a 03 Mawrth 2026.