Nyrs gofal iechyd yn darparu cefnogaeth a gofal i ŵr oedrannus

Nyrsio

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Nyrsio

Pam Astudio Nyrsio?

Mae nyrsio yn broffesiwn cynyddol gystadleuol, ac er y bydd galw mawr am nyrsys bob amser, mae'n bwysicach nag erioed i wneud i chi'ch hun sefyll allan a gosod eich hun ar wahân i ymgeiswyr eraill. Ochr yn ochr â phrofiad gwaith, ennill gradd ôl-raddedig yw un o'r ffyrdd gorau y gallwch wneud hyn, ac er nad yw'n ofyniad ffurfiol ar gyfer eich swydd nyrsio arferol, maent yn dod yn fwy a mwy dymunol gan gyflogwyr a byddant yn rhoi hwb aruthrol i'ch cyflogadwyedd.

Bydd yr hyn a ddysgwch ar ein cyrsiau ôl-raddedig yn berthnasol ar unwaith i'ch ymarfer proffesiynol. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio'r dystiolaeth ddiweddaraf i lywio eich penderfyniadau clinigol, gan roi'r hyder i chi weithio fel arweinydd mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd. Byddwch yn dysgu datblygu ymholi beirniadol, defnyddio tystiolaeth ar waith a helpu i feithrin hunanhyder wrth wneud ymchwil. Yn broffesiynol, bydd dysgwyr yn adeiladu ac yn datblygu eu sgiliau meddwl beirniadol, myfyrio, arwain, cysyniadol a gwneud penderfyniadau.

Mae eich cymhwyster ôl-raddedig mewn Nyrsio yn agor ystod o gyfleoedd datblygu gyrfa yn eich dewis ddisgyblaeth, gan gynnwys ymchwil, addysg, a rolau arweinyddiaeth uwch.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae'r myfyrwyr sy'n gadael ein rhaglenni ôl-raddedig a addysgir wedi'u harfogi i gymryd uwch swyddi clinigol/rheoli yn y GIG. Ar ôl cwblhau'r cwrs efallai y bydd dysgwyr am ystyried datblygiad proffesiynol parhaus pellach (DPP) neu gael eu cefnogi i fynd â'u hastudiaethau i'r lefel nesaf trwy gwblhau naill ai doethuriaeth broffesiynol neu PhD.

Ein Hymchwil

Mae ein darpariaeth addysgu eithriadol yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf i arfer (sy’n ffocws allweddol i weithgarwch ymchwil uchel ei barch yr ysgol) ac wedi’i seilio ar arfer clinigol modern. Mae ymchwil arloesol Prifysgol Bangor sy’n cael ei gyrru gan effaith yn mynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau mwyaf sy’n wynebu’r byd heddiw.

Mae’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021, a gyhoeddwyd yn 2022, yn cydnabod bod 85% o ymchwil Prifysgol Bangor naill ai gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Rydym hefyd yn y 30 Uchaf yn y DU am effaith ymchwil, gan ddangos cyfraniad byd go iawn ein hymchwil.

Ein huchelgais yw gwneud cyfraniad cadarnhaol at iechyd a lles yng Nghymru, a datrys heriau iechyd a gofal cenedlaethol a byd-eang. Rydym yn gwneud hyn drwy:

  • cynnal ymchwil o'r ansawdd uchaf sy'n cynhyrchu atebion newydd mewn gwasanaethau iechyd a gofal
  • hwyluso mentrau gwella gwasanaethau
  • darparu’r addysgu a’r dysgu gorau yn seiliedig ar ymchwil gyfoes i ddatblygu’r gweithlu iechyd a gofal presennol ac yn y dyfodol
  • gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod popeth a wnawn o'r safon, yr ansawdd a'r gwerth uchaf posibl i ddefnyddwyr gwasanaethau, myfyrwyr, ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill.
  • cydnabod ein treftadaeth ddwyieithog yng Ngogledd Cymru
  • cynnal cymhwysedd ieithyddol a diwylliannol sy’n berthnasol i bartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?