Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cyflwynir y cwrs meistr rhan-amser tair blynedd hwn yn gyfan gwbl ar-lein. Fe'i cynlluniwyd ar gyfer pobl sydd eisiau meithrin sgiliau cryf wrth ddysgu ymwybyddiaeth ofalgar gyda hyder, ac sydd eisiau defnyddio’r hyn a ddysgir mewn ffyrdd ystyrlon yn eu gwaith.
Mae'r cwrs yn ddefnyddiol ar gyfer sawl maes, gan gynnwys:
- addysg
- gofal iechyd
- llesiant
- gwaith cymunedol
- y gweithle
Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau i chi ddysgu dulliau myfyriol mewn ffyrdd sy'n ystyriol o drawma, sy’n ddiogel, yn gynhwysol, ac yn addas ar gyfer sefyllfaoedd bywyd go iawn.
Mae'r cwrs yn cyfuno:
- dysgu academaidd
- eich ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar eich hun
- profiad dysgu dan gyfarwyddyd
Byddwch yn meithrin sgiliau mewn:
- arwain grwpiau
- dysgu drwy fyfyrio a thrafod
- cyfathrebu clir
- ymarfer sy'n sensitif i drawma
- dysgu dulliau ymwybyddiaeth ofalgar mewn sefyllfaoedd cymhleth yn y byd go iawn
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn barod i ddysgu ymwybyddiaeth ofalgar mewn ffordd broffesiynol a chyfrifol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r cwrs yn gyfan gwbl ar-lein, felly gallwch astudio o amgylch eich gwaith ac ymrwymiadau eraill.
Byddwch chi'n dysgu drwy:
- sesiynau ar-lein byw
- darlithoedd wedi’u recordio
- gweithdai
- trafodaethau grŵp
- sesiynau dysgu ymarferol (dysgu’n ôl)
- tiwtorialau un-i-un
Beth fyddwch yn ei astudio:
Blwyddyn 1:
- Sylfeini Ymarfer
- Hanfodion Addysgu
Blwyddyn 2:
- Addysgu Cymhwysol
Blwyddyn 3:
- Project Addysgu (yn cynnwys encil hyfforddi athrawon ar-lein 8 diwrnod)
Bob blwyddyn, gallwch hefyd ddewis mynychu encil myfyrdod sawl diwrnod o hyd ym Mhrifysgol Bangor, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein – ffordd wych o ddyfnhau eich ymarfer.
Nid oes arholiadau traddodiadol ar y cwrs hwn gan fod pwyslais y cwrs ar feithrin sgiliau go iawn y gallwch eu defnyddio. Cewch eich asesu drwy gyfuniad o draethodau academaidd ac adfyfyriol, cyflwyniadau, a thrwy ac arddangos eich arferion dysgu ymwybyddiaeth ofalgar.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Dulliau Myfyriol Cymhwysol: Ymwybyddiaeth Ofalgar a Thosturi.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cost y Cwrs
Additional costs may also be charged as follows: Enhanced DBS check (approx. £65).
Gofynion Mynediad
- Fel arfer mae angen gradd israddedig neu ôl-radd. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan y rhai sydd â phrofiad proffesiynol, ymarferol neu brofiad bywyd perthnasol, a ystyrir yn unigol.
- Wedi cwblhau cwrs ymwybyddiaeth ofalgar dan gyfarwyddyd, lle dysgir arferion myfyrdod dros gyfnod o 6-8 wythnos. Derbynnir cyrsiau dwys (e.e., dros gyfnod o sawl diwrnod) hefyd.
- Ymarfer myfyrdod rheolaidd am o leiaf chwe mis cyn dechrau'r rhaglen.
Gofynion TG: rhaid i fyfyrwyr gael cyfrifiadur sy’n gweithio’n dda a mynediad at gysylltiad rhyngrwyd cryf a'r sgiliau TG sydd eu hangen i ddefnyddio'r systemau hyn.
Mae croeso mawr i fyfyrwyr rhyngwladol wneud cais, a gofynnwn am sgôr IELTS o 6.0
Gyrfaoedd
Mae galw cynyddol am arferion myfyriol fel ymwybyddiaeth ofalgar mewn sawl maes.
Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi i weithio yn y meysydd canlynol:
- addysg
- gofal iechyd
- y gweithle
- sefydliadau cymunedol
Byddwch yn graddio gyda:
- profiad addysgu gwirioneddol
- hunanymwybyddiaeth gref
- sgiliau ymarferol, y mae galw mawr amdanynt
Yn bwysicaf oll, byddwch yn gadael yn barod i gyflwyno dulliau ymwybyddiaeth ofalgar sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac yn gallu cyfrannu at y maes llesiant ac ymarfer myfyriol, sy’n tyfu’n gyflym.
Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn sefydliad hyfforddi athrawon cysylltiedig gyda’r British Association of Mindfulness-Based Approaches (BAMBA). Mae'r cwrs yn dilyn safonau cenedlaethol BAMBA
Gwneud Cais
Our system is open all year round to apply.
If we fill the course for a particular year we will then close applications for that year and make that clear on our website.
We start interviewing around January each year.
Please note that this course is part-time and so will not enable students to get a student visa to the UK. International students who apply will have to independently arrange visas to allow them to attend the teaching days over a 3-5 year period.