Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r MSc mewn Methodoleg Ymchwil wedi'i fwriadu ar gyfer unigolion sydd am ddilyn gyrfa ymchwil yn y sector academaidd, y sector fasnachol neu'r sector di-elw. Mae'r MSc yn rhoi hyfforddiant arloesol a hynod ddatblygedig mewn dulliau a theori ymchwil ansoddol a meintiol o fewn cyd-destun busnes o'ch dewis. Mae ein MSc mewn Methodoleg Ymchwil yn eich tywys trwy'r holl broses o ymgymryd ag ymchwil busnes a rheolaeth o ddatblygu eich syniadau ymchwil cychwynnol i ymgymryd â darn sylweddol o ymchwil wreiddiol ac adrodd yn ei gylch.
Byddwch yn cael eich cyflwyno i amrywiaeth o fethodolegau ymchwil ac yn datblygu'r gallu i'w hystyried yn feirniadol ac asesu i ba raddau y gellir eu defnyddio gyda phroblemau ymchwil yn y byd go iawn. Byddwch yn gweithio gyda data go iawn (ansoddol a meintiol) er mwyn deall problemau ymchwil arwyddocaol a darparu atebion posibl.
Hyd y Cwrs
Blwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan amser. Derbynnir myfyrwyr i'r cwrs hwn ym mis Medi yn unig.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Methodoleg Ymchwil MSc.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd Baglor (2:1 neu 1af) neu gymhwyster cyfatebol mewn disgyblaeth berthnasol gan brifysgol neu gorff cymeradwy arall sy'n dyfarnu graddau. Fel arall, gellir eich derbyn os ydych yn meddu ar gymhwyster proffesiynol addas a phrofiad ymarferol perthnasol.
Mae angen i ymgeiswyr nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt fod â sgôr IELTS (neu gymhwyster cyfatebol) o 6.5 o leiaf.