Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn yn dechrau ym Mawrth 2025 (Mynediad 2024/25) ac ym Medi 2025 (Mynediad 2025/26).
Mae nyrsys oedolion yn asesu, gwneud diagnosis, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal sy'n cefnogi adferiad y claf neu eu gallu i fyw cystal â phosibl gyda'u cyflwr. Ar y cwrs BN Nyrsio Oedolion yma, bydd modiwlau damcaniaethol yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau clinigol i chi ddilyn lleoliadau clinigol yn y gymuned ac mewn ysbytai, ac ennill profiad mewn nifer o wahanol feysydd sy'n gysylltiedig ag oedolion. Mae cyfleoedd gyrfa yn bodoli mewn meysydd gan gynnwys damweiniau ac achosion brys, meysydd meddygol a llawfeddygol arbenigol, gofal dwys, gofal lliniarol a lleoliadau gofal cychwynnol.
Amrywiaeth yw’r gair allweddol i ddisgrifio rôl nyrsys cofrestredig ym maes oedolion – mae disgwyl i nyrsys cofrestredig ym maes oedolion (ac efallai fod ganddynt gymwysterau cofrestradwy ychwanegol, er enghraifft rhagnodi neu ddysgu) ofalu am bobl ar hyd eu hoes, gan gynnwys diogelu iechyd mamau a babanod. Cewch brofi’r amrywiaeth honno ar leoliadau yn y meysydd clinigol y bydd nyrsys oeolion yn gweithio ynddynt.
- Nyrsio meddygol a llawfeddygol cyffredinol ac arbenigol yn y sector aciwt
- Nyrsio gofal critigol (gofal dwys, adrannau brys, theatrau ac adferiad)
- Nyrsio cymunedol yn y cartref a gofal sylfaenol
Mae gan Nyrsys Oedolion gyfle i ddatblygu eu hymarfer ar ôl cymhwyso. Gall hynny arwain at yrfaoedd fel; Uwch Ymarferwyr Nyrsio, Nyrsio Arbenigol Clinigol, Nyrsio Ymgynghorol, Wardiau (ITU, CCU ac HDU) yn ogystal ag amrywiol arbenigeddau Cymunedol, Nyrsio Ymarfer a Nyrsio Ymchwil. Mae'r cyfleoedd a'r dewis yn ddiddiwedd ac maent yn cynnig gyrfaoedd gwerth chweil i chi a sawl opsiwn ar gyfer datblygu â chymorth.
Mae Bangor yn derbyn ceisiadau am gyrsiau nyrsio drwy gydol y flwyddyn, tra bo llefydd ar gael. Oherwydd bod rhai llwybrau’n tueddu i lenwi, mae’n well cyflwyno cais cyn gynted â phosibl.
Bydd elfennau o'r cwrs ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ac mi gewch gefnogaeth i gael mynediad at fentrau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd cyfleoedd hefyd i brofi ymarfer dwyieithog mewn rhannau o'r rhanbarth. I gael mwy o wybodaeth am ddarpariaeth ddwyieithog yr Ysgol cliciwch yma.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Cyllid ar gael gan y GIG ar hyn o bryd i dalu ffioedd a chyfraniad at gostau byw.
- Cynhelir y cwrs ar gampws Bangor ac mae pob lleoliad clinigol yn cael ei ddarparu yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae hybiau dysgu rhanbarthol yn cael eu sefydlu i roi gwir hyblygrwydd o ran sut a ble byddwch yn dysgu.
Dim Angen Talu Ffioedd Dysgu
Os ystyrir chi’n fyfyriwr cartref o’r Deyrnas Unedig mewn perthynas â ffioedd dysgu, a all ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi'u talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru ynghyd â gwneud cais am gyfraniad bwrsariaeth o £1,000 tuag at gostau byw. Cewch wneud cais hefyd am y fwrsariaeth yn seiliedig ar brawf modd sy'n ddibynnol ar incwm y cartref ac unrhyw gyllid arall y mae iddo feini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynnydd a lwfans i rieni sy’n dysgu. Gallwch hefyd wneud cais am gyllid cynhaliaeth ar sail incwm ac am fenthyciad cyfradd llog isel gan Gyllid Myfyrwyr. Oherwydd bod y cwrs yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor ac eithrio myfyrwyr o Ganada sy'n gallu gwneud cais trwy Wasanaethau Addysgol Barclays.
Mae manylion llawn ar gael: Tudalen Gyllid y GIG.
Lleoliad a’r Dyddiadau Dechrau
Cewch ddewis astudio'r cwrs ar gampws Bangor neu Wrecsam pan fyddwch chi'n gwneud eich cais trwy UCAS. Cewch hefyd ddewis dechrau ym mis Medi neu ym mis Chwefror bob blwyddyn ar y naill gampws neu'r llall.
Cyfweld a dewis ymgeiswyr BN Nyrsio
I gael gwybodaeth am drefn ddewis y cwrs, cliciwch ar y tab Gofynion Mynediad uchod.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- 1af ar gyfer Rhagolygon Graddedig (Complete University Guide 2022).
- Y 10 uchaf ar gyfer Ymchwil (Complete University Guide 2022).
- Y 15 Uchaf ar y cyfan (Times Good University Guide 2022).
- Cyllid ar gael gan y GIG ar hyn o bryd i dalu ffioedd a chyfraniad at gostau byw.
- Gall campysau Bangor a Wrecsam gynnig ychydig o hyblygrwydd o ran ble y byddwch yn astudio, ac mae lleoliadau clinigol ar gael ar draws gogledd orllewin Cymru.
Cynnwys y Cwrs
Bydd astudiaethau damcaniaethol gorfodol a lleoliadau clinigol mewn ysbytai, lleoliadau cymunedol a/neu leoliadau preswyl yn y gogledd. Ar leoliadau o dan oruchwyliaeth glos cewch arsylwi staff proffesiynol wrth eu gwaith a chyfranogi o ofal nyrsio gan ddechrau’n gynnar yn y cwrs.Bydd cefnogaeth gan diwtor personol sy'n nyrs gofrestredig ac aelod academaidd o’r staff a goruchwyliaeth fentora gan nyrs gofrestredig profiadol ar leoliad. Caiff gwaith damcaniaethol ac ymarferol ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau, cyflwyniadau a phortffolio Asesu Ymarfer Clinigol Cymru gyfan.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r cwrs wedi ei rannu'n gyfartal yn theori ac ymarfer - mae 50% yn ymwneud ag astudiaethau damcaniaethol a 50% mewn ymarfer clinigol yn datblygu'r medrusrwydd sydd ei angen i gofrestru â'r NMC. Byddwch yn datblygu sgiliau ac ymddygiadau proffesiynol, y gwerthoedd a'r agweddau a ddisgwylir gan nyrs, i sicrhau diogelwch pobl o bob oed, eu gofalwyr a'u teuluoedd. Mae cyfleoedd i astudio gyda myfyrwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ac mae gan yr Ysgol strategaeth ar gyfer dysgu rhyngbroffesiynol sy'n rhoi golwg manwl ac amhrisiadwy i chi sut mae'r amrywiaeth eang o broffesiynau gofal iechyd yn rhyngweithio i ddarparu gofal o safon uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Yn y rhaglen radd mae cyfleoedd i ddysgu ar y cyd ymhob maes (Oedolion, Plant, Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu) i ddysgu gyda’i gilydd am elfennau cyffredin neu generig megis anatomi a ffisioleg, seicoleg, cymdeithaseg, cyfathrebu, adfyfyrio, y gyfraith a moeseg. Mae dysgu rhyngbroffesiynol yn galluogi rhywun i weithio’n amlddisgyblaethol o'r cychwyn cyntaf ac yn cynnig gwerthfawrogiad o sut mae elfennau gofal iechyd yn cydblethu yn ystod taith y claf. Mae gennym ddull cyfun o ddysgu ar y campws ac ar-lein gyda chefnogaeth y Tîm Nyrsio Oedolion pwrpasol. Mae lleoliadau ar gyfer myfyrwyr nyrsio yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd sy'n cynnig amrywiaeth eang o leoliadau sy’n cynnig dealltwriaeth dda o wahanol amgylcheddau gwaith.
At ddibenion mynediad yn 2022 cafodd rhaglen Baglor mewn Nyrsio y pedwar maes ei llunio’n unol â Safonau Hyfedredd i Nyrsys Cofrestredig y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a Nyrs y Dyfodol 2018: Safonau cymhwysedd Mae'r rhaglen newydd yn sicrhau bod gan nyrsys well dealltwriaeth o anghenion cleifion/cleientiaid ymhob un o bedwar maes ymarfer nyrsio, ond mae’n dal i ganolbwyntio ar faes penodol. Mae'r rhaglen yn paratoi nyrsys cofrestredig y dyfodol gyda sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau arweinyddiaeth a gyda rhagor o wybodaeth am faes iechyd y cyhoedd, sydd ei angen i ddarparu gofal mewn gwahanol leoliadau i gefnogi iechyd a lles cleientiaid a chleifion.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Nyrsio (Nyrsio Oedolion) BN (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Nyrsio
- Mae gan y Brifysgol gyfleusterau sgiliau clinigol sydd newydd eu hadnewyddu sy'n cynnwys ystafell gywair-bur dau wely, ward saith bae a mannau sgiliau clinigol hyblyg ychwanegol sy'n caniatáu i ystod o sgiliau clinigol gael eu dysgu i fyfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth mewn amgylchedd efelychiadol sy'n helpu eich paratoi ar gyfer lleoliadau clinigol.
- Mae Efelychu Cywair-bur yn cynnwys defnyddio delwau soffistigedig naturiol mewn amgylcheddau cleifion realistig, gyda’r delwau hyn yn gallu dynwared yn fanwl iawn ystod eang o ystumiau’r corff dynol. Bydd y dysgu trochi hwn yn cynnwys defnyddio efelychiad i gyflwyno myfyrwyr i sefyllfaoedd cymhwysol (trwy brofiad rhithwir), gan roi'r cyfle i chi ymarfer sgiliau a rhyngweithio â'r cyd-destun penodol.
- Mae efelychiadau fel hyn yn cynnig profiad sy'n dynwared sefyllfa yn y byd go iawn lle gall y myfyriwr, mewn amser real, ymarfer gwahanol gamau gweithredu a ffyrdd o ymateb.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw £1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Proses Mynediad ar gyfer Cyrsiau Proffesiynol
Rhaid i bob ymgeisydd fodloni ystod o feini prawf mynediad - edrychwch ar Safonau'r NMC. Mae gofynion mynediad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cynnwys dangos iechyd da a chymeriad da. Mae'r Ysgol yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd gael gwiriad cofnod troseddol a gofynion eraill ar gyfer dangos cymeriad da; bydd y Bwrdd Iechyd lleol yn gyfrifol am osod y gofyniad am iechyd da. Gallwch hefyd gysylltu ag admissions.health@bangor.ac.uk i gael cyngor/gwybodaeth bellach. Bydd rhaid i ymgeiswyr gyda chymwysterau mynediad hyn na 5 oed ddangos tystiolaeth o astudiaeth ddiweddar ar lefel briodol.
Gofynion academaidd:
TGAU: fel arfer rhaid bod gennych, neu rhaid eich bod yn gweithio tuag at, o leiaf pum TGAU gradd A*-C/9-4 gan gynnwys TGAU Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf a Mathemateg/Rhifedd (neu gymhwyster amgen cydnabyddedig*), ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 120 pwynt tariff ar gyfer y rhaglenni Baglor Nyrsio o gymwysterau lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): cysylltwch â ni - Diploma Bagloriaeth Rhyngwladol
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
- Mynediad: i gynnwys Rhagoriaeth neu Deilyngdod (lleifaswm o 9 farc llwyddo)
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Irish Leaving Certificate: 104 - 120 pwynt mewn o leiaf 4 pwnc uwch
- Tystysgrif Lefel 5 FETAC QETI mewn Astudiaethau Nyrsio: Proffil Rhagoriaeth
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cwblhau Diploma Mynediad AU neu sydd â thystiolaeth o astudio diweddar ar Lefel 3 neu'n uwch yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf sy'n bodloni'n gofynion mynediad; sylwer nad ydym yn derbyn NVQ Lefel 3 / QCF Lefel 3 fel cymhwyster sy’n bodloni ein gofynion mynediad.
I weld rhestr lawn o'r cymwysterau lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
*Cymwysterau amgen cydnabyddedig ar gyfer Cymraeg/Saesneg a/neu Fathemateg fyddai Sgiliau Hanfodol Lefel Dau mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, neu Sgiliau Gweithredol Lefel Dau mewn Saesneg a Mathemateg (rhaid bod wedi eu cyflawni o fewn y 3 blynedd ddiwethaf). Mae'r isafswm gradd o O4 gyda Thystysgrif Ymadael Iwerddon yn cyfateb i radd C/4 TGAU.
Cyfweld a dewis ymgeiswyr ar gyfer BN Nyrsio
Gofynnir i bob ymgeisydd sy'n cyflawni'r gofynion mynediad academaidd fynd i gyfweliad unigol, ac ar ôl hynny bydd ymgeiswyr yn cael gwybod os ydynt ar y rhestr fer a bydd angen rhagor o wybodaeth cyn y gellir eu derbyn yn derfynol ar y cwrs. Ewch i'r dudalen Cyfweld a Dewis Ymgeiswyr ar gyfer BN Nyrsio os gwelwch yn dda.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.

Gyrfaoedd
Mae nyrsio’n broffesiwn arloesol sy'n tyfu'n barhaus ac mae nyrsys yn gweithio mewn timau aml-broffesiynol mewn lleoliadau iechyd a gofal. Mae nyrsys mewn sefyllfa wych i ddarparu gofal ar y cyd â phobl a gofalwyr, ble bynnag y mae angen gofal. Yn y system iechyd a gofal mae pwyslais cynyddol ar atal afiechyd, galluogi pobl i ofalu amdanynt eu hunain, bod yn bartneriaid yn eu gofal a gwell ansawdd bywyd. Mae chwimder datblygiadau’r maes gofal, triniaeth a thechnoleg feddygol a nyrsio’n creu cyfleoedd am yrfaoedd newydd i nyrsys a datblygiadau mewn gwahanol agweddau ar wasanaethau a gwahanol ffyrdd o weithio. Mae’r cyfleoedd a'r rolau’n cynnwys opsiynau amrywiol iawn fel swyddi’r rheng flaen a swyddi arweinyddiaeth neu swyddi nyrsys arbenigol neu nyrsys ymgynghorol.
Mae llawer o wahanol agweddau ar nyrsio yn y pedwar maes a nifer o wahanol gyfleoedd i ddatblygu gyrfa a gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae sawl math o swyddi ar gael i nyrsys a gallwch ddatblygu yn eich gyfra o fod yn nyrs staff i fod yn nyrs arbenigol, rheolwr ward, metron, arweinydd, ymchwilydd, addysgwr a nyrs ymgynghorol. Caiff swyddi nyrsio eu rhannu'n wahanol fandiau ac iddynt gyflogau gwahanol.
Mae'r cyfleoedd i nyrsys oedolion yn amrywio o ofalu am gleifion hyd at fynd yn arbenigwyr. Mae gyrfa i raddedigion mewn nyrsio oedolion yn cynnwys gofalu am agweddau corfforol oedolion a datblygu eich sgiliau a'ch datblygiad, rheoli pobl ynghyd ag adnoddau. Mae hynny’n cynnwys monitro ac asesu pobl ac ymateb yn gyflym i newidiadau.
Yn y GIG mae strwythur gyrfa clir yn cefnogi nyrsys yn eu datblygiad o nyrs staff sy'n gweithio ar ward, er enghraifft, i nyrsys ymgynghorol annibynnol sy'n rheoli llwyth achosion o gleifion yn y gymuned. Mae nifer helaeth o gyfleoedd i nyrsys oedolion gan gynnwys swyddi arbenigwyr ar hybu iechyd, gofalu am gleifion sy’n fregus iawn ac yn gwella o salwch difrifol neu lawdriniaeth. Mae'r lleoliadau'n amrywiol, gan gynnwys unedau gofal dwys a chartref y claf ei hun. Yn gyffredinol, bydd nyrsys sydd newydd gymhwyso sy'n gweithio mewn ysbyty ar ward yn gofalu am grŵp o gleifion fel rhan o’u dyletswyddau. Byddant yn gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol sy'n gweithredu fel prif bwynt cyswllt y claf ac yn cydlynu cyfraniadau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.