Os ydych yn ystyried dechrau cwrs ôl-raddedig, efallai y gallwch wneud cais am gyllid gan y Llywodraeth i’ch helpu gyda’ch costau byw a ffioedd dysgu.
Bydd eich hawl am gyllid ôl-raddedig sydd yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw fel arfer cyn i chi ddechrau eich cwrs ôl-raddedig.
Sylwch NAD yw myfyrwyr ôl-raddedig yn cael Benthyciad Ffioedd Dysgu ar wahân. Eich cyfrifoldeb chi felly fydd talu eich ffioedd dysgu, y gellir eu talu mewn un taliad neu mewn rhandaliadau yn ystod y flwyddyn academaidd. Cliciwch ar y ddolen hon am fanylion ein dulliau talu. https://www.bangor.ac.uk/cy/cyllidmyfyrwyr/ol-radd/talu
Os ydych yn ystyried cwrs TAR cliciwch yma am wybodaeth gyllid: https://www.bangor.ac.uk/studentservices/moneyadvice/pgce.php.cy
I ddarganfod a ydych yn gymwys ar gyfer cyllid ôl-raddedig, cliciwch ar y rhanbarth yr ydych yn byw ynddo fel arfer:
- O 1 Awst 2023, gallai myfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru (a’r rheini o’r UE sy’n astudio mewn sefydliad yng Nghymru) gael yr hawl i gyfuniad o fenthyciad a grant fel cyfraniad at gostau tra’n astudio cwrs gradd meistr ôl-radd.
- Cyfanswm y cymorth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys yw £18,770. Mae grant o hyd at £6,885 ar gael, yn dibynnu ar incwm yr cartref. Cynigir gweddill y cymorth ar ffurf benthyciad.
- Cyrsiau rhan-amser – dyrennir y cymorth dros nifer y blynyddoedd y dilynir y cwrs. Caiff lefel y cymorth ei gapio ar gyfer pob blwyddyn academaidd; er enghraifft, £18,770 ar gyfer cwrs blwyddyn, £9,385 y flwyddyn ar gyfer cwrs dwy flynedd, a £4,692.50 y flwyddyn ar gyfer cwrs pedair blynedd. Mae cyrsiau amser llawn sy’n para blwyddyn a dwy flynedd yn gymwys i gael cymorth. Mae cyrsiau rhanamser sy’n para hyd at bedair blynedd yn gymwys i gael cymorth.
- Dyma elfennau’r cymorth:
- Mae grant sylfaenol o £1,000 ar gael i bob myfyriwr cymwys nad yw’n seiliedig ar brawf modd i gyfrannu at eu costau.
- Mae grant ychwanegol o £6,885 ar gael i fyfyrwyr cymwys o aelwyd sydd ag incwm o hyd at £18,370 y flwyddyn, sy’n seiliedig ar brawf modd, i gyfrannu at eu costau.
- Mae grant rhannol ar gael i fyfyrwyr sydd ag incwm rhwng £18,371 a £59,200.
- Mae'r porth gais ar agor: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/myfyrwyr-ol-raddedig.aspx
Tabl hawl grant a benthyciad cyrsiau ôl-radd 2023/24
Incwm Trethadwy Eich Cartref |
Grant |
Benthyciad |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
£18,370 neu lai |
£6,885 |
£11,885 |
£18,770 |
£25,000 |
£5,930 |
£12,840 |
£18,770 |
£35,000 |
£4,488 |
£14,282 |
£18,770 |
£45,000 |
£3,047 |
£15,723 |
£18,770 |
£59,200 neu fwy |
£1,000 |
£17,770 |
£18,770 |
- O 1 Awst 2023, gallai myfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, a’r rheini o’r UE sy’n astudio mewn sefydliad yng Nghymru, gael yr hawl i gymorth. Bydd modd i fyfyrwyr cymwys gael benthyg hyd at £28,394, fel cyfraniad at eu costau, dros gyfnod y rhaglen ddoethuriaeth.
- Gall y cyrsiau fod yn rhai amser llawn neu’n rhanamser, rhwng tair ac wyth blynedd o hyd. Gwneir y taliadau dros nifer blynyddoedd y rhaglen ddoethuriaeth.
- Ni fydd y rheini sy’n cael cyllid myfyrwyr gan unrhyw un o saith Cyngor Ymchwil y DU (cyllid llawn neu ffioedd yn unig) yn gymwys i gael benthyciad.
- Ni fydd y rheini sy’n cael ffurfiau uniongyrchol eraill ar gymorth y Llywodraeth tuag at gostau cynhaliaeth a ffioedd, gan gynnwys unrhyw gyfraniadau cyflog neu ffioedd a ddarperir gan y GIG at ddibenion cyrsiau doethuriaeth, a chynllun KESS 2, yn gymwys chwaith.
- Mi fydd porth gais yn cael ei agor yn fuan: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/myfyrwyr-ol-raddedig/cwrs-doethurol-ôl-raddedig.aspx
Gwelwch hefyd gwybodaeth am Bwrsariaeth Newydd ar gyfer Ôl-raddedigion yng Nghymru a'r Bwrsariaeth Newydd ar gyfer Ôl-raddedigion dros 60 oed.