Cyllid ychwanegol TAR
Efallai y bydd gan fyfyrwyr TAR sy'n dilyn cwrs yma ym Mhrifysgol Bangor hawl i dderbyn cymorth ariannol ychwanegol.
Cymhellion hyfforddi athrawon yng Nghymru – blwyddyn academaidd 2020/21
Mae canllawiau Grantiau Hyfforddiant Athrawon yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn flynyddol. Mae'r Grantiau Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer myfyrwyr sy'n cychwyn astudio cwrs TAR yn y flwyddyn academaidd 2018/19 fel a ganlyn ar gyfer y pynciau a addysgir ym Mhrifysgol Bangor:
Swm y grant hyfforddi | Pwnc | Dosbarth cymhwyster gradd |
---|---|---|
£20,000 | Cyrsiau ôl-raddedig uwchradd mewn mathemateg, ffiseg, cemeg neu Gymraeg | 1af a / neu Radd Meistr / PhD |
£10,000 | Cyrsiau ôl-raddedig uwchradd mewn mathemateg, ffiseg, cemeg a Cymraeg | 2:1 |
£6,000 | Cyrsiau ôl-raddedig uwchradd mewn mathemateg, ffiseg, cemeg a Cymraeg | 2:2 |
£3,000 | Cyrsiau ôl-raddedig uwchradd mewn dylunio a thechnoleg, bioleg, addysg grefyddol, celf, addysg gorfforol, cerddoriaeth, astudiaethau awyr agored.. | 1af a / neu Radd Meistr / PhD |
£3,000 | Cyrsiau cynradd ôl-raddedig | 1af a / neu Radd Meistr / PhD |
Additional £3,000 supplements | Cyrsiau cynradd ôl-raddedig gydag arbenigedd pwnc gradd mewn Cymraeg, Saesneg, mathemateg, ffiseg neu gemeg | 1af a / neu Radd Meistr / PhD |
£6,000 | Cyrsiau uwchradd ôl-raddedig mewn tramor modernieithoedd |
2:1 |
Am fanylion llawn am gynllyn Cymhelliant Hyfforddi Athrawon 2020/21 yng Nghymru cliciwch yma
Bwrsariaethau i fyfyrwyr TAR nad ydynt yn gymwys ar gyfer Grantiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA)
Mae Prifysgol Bangor wedi cyflwyno bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr or EU / DU tu allan i Gymru yn unig*, nad ydynt yn gymwys i dderbyn Grantiau Addysgu. Bydd y bwrsariaethau’n cael eu hasesu ar incwm trethadwy cartref y myfyriwr yn ystod yr ail semester.
Bwrsariaethau Bangor:
Incwm y cartref | Bwrsari Bangor |
yn llai na £25,000 | £1,000 |
£25,001 - £40,000 | £500 |
Mae rhagor o wybodaeth am y Bwrsariaethau Bangor ar gael ar wefan y Brifysgol:
*Bydd pob myfyriwr o Gymru yn derbyn Grant o £1,000 gan Llywodraeth Cymru.
Disgownt Teyrngarwch Graddedigion
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig gostyngiad ffioedd o £500 i holl gyn-fyfyrwyr Cartref / UE Prifysgol Bangor sy’n hunan-gyllidol ac sydd wedi graddio â gradd anrhydedd, a gostyngiad o £1,000 i holl gyn-fyfyrwyr hunan-gyllidol Rhyngwladol Prifysgol Bangor sydd wedi graddio â gradd anrhydedd*.
I fod yn gymwys am y Gostyngiad Teyrngarwch i Raddedigion, mae'n rhaid i chi:
-
fod wedi graddio o raglen israddedig ym Mhrifysgol Bangor
-
ymgeisio'n llwyddiannus ac yna cofrestru ar gyfer astudiaeth llawn amser ar un o'n graddau cymwys Meistr Hyfforddedig (e.e. TAR Cynradd neu Uwchradd, MA, MSc, MBA, LLM. Nid yw'n cynnwys graddau MRes)
Am fwy o wybodaeth ewch i’r dudalen gwe yma: /studentfinance/scholarships/loyalty.php.cy