Fy ngwlad:
Hyfforddwr yn gwirio cyfradd curiad calon myfyriwr mewn baddon trochi gyda chyfarpar anadlu

Datblygu eich Gyrfa: Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor

Profwch wyddor chwaraeon ac ymarfer corff ym Mhrifysgol Bangor, lle mae lleoliadau ymarferol a chydweithrediadau ymchwil arloesol yn darparu amgylchedd dysgu heb ei ail.

Sport Coach
Credit:guyen Thu Hoai @ Unsplash

Cychwyn eich Gyrfa Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mangor!

Ydych chi eisiau dilyn gyrfa ym myd cyffrous Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer? Ym Mhrifysgol Bangor, byddwn yn eich helpu i gyrraedd yno. Mae ein hymagwedd at gyflogadwyedd yn ymwneud â rhoi mantais i chi:

Cysylltiadau â’r Diwydiant: Rydym yn gweithio'n agos gyda’r cyflogwyr gorau yn y sector chwaraeon, iechyd ac ymarfer corff i wneud yn siŵr eich bod yn dysgu'r sgiliau y maent yn chwilio amdanynt.

  • Sgiliau sydd eu Hangen arnoch: Rydym yn plethu'r sgiliau allweddol hyn yn uniongyrchol i'ch cwrs, felly byddwch yn graddio gyda'r cymwysterau a'r galluoedd ymarferol i lwyddo.
  • Profiadau Byd Go Iawn: Byddwch yn ennill profiad ymarferol trwy leoliadau gwaith a gwirfoddoli, gan droi eich gwybodaeth yn effaith yn y byd go iawn.
  • Cefnogaeth Barhaus: Rydym yma i chi, yn ystod eich astudiaethau a thu hwnt! Bydd ein staff academaidd ymroddedig, Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, a rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd.
orange kayaks on a river, person paddling

Lleoliadau Myfyrwyr Barod am y Byd Go Iawn: Ennill Profiad Ymarferol:

Ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn credu mewn dysgu trwy wneud. Dyna pam ein bod yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd lleoliadau cyffrous gyda sefydliadau blaenllaw yn y sector chwaraeon ac ymarfer corff. Yn ddiweddar, mae ein myfyrwyr wedi cwblhau lleoliadau yn Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru, gan ennill profiad amhrisiadwy mewn dadansoddi perfformiad chwaraeon. Mae eraill wedi hogi eu sgiliau cryfder a chyflyru yn RGC (Rygbi Gogledd Cymru). Rydym hefyd yn cydweithio â chanolfannau hamdden lleol megis Plas Menai a Chanolfannau Conwy, ac yn cynnig lleoliadau mewn meysydd gan gynnwys datblygu chwaraeon ac arweinyddiaeth antur awyr agored. Yn ogystal â gwella'ch CV, mae’r lleoliadau hyn hefyd yn rhoi mantais hollbwysig i chi wrth ymuno â'r farchnad swyddi gystadleuol. Mae llawer o'n lleoliadau’n arwain yn uniongyrchol at gyflogaeth i raddedigion, gan roi dechrau da i chi yn eich gyrfa.

Female Rugby Players on the field.
Credit:Quino Al @ unsplash

Cydweithrediadau Ymchwil Ymchwil Arloesol, Effaith Go Iawn yn y Byd

Mae Prifysgol Bangor yn ganolbwynt ymchwil o'r radd flaenaf ym maes gwyddorau chwaraeon ac ymarfer. Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid yn y diwydiant i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn a gwthio ffiniau gwybodaeth. Er enghraifft, mae ein hymchwilwyr wedi cydweithio â Rygbi Gogledd Cymru (RGC) i ymchwilio i sut y gall deallusrwydd artiffisial ragfynegi anafiadau. Mae ein partneriaeth ag UK Sport wedi arwain at ddatblygiadau arloesol o ran adnabod a datblygu talent Rydym hefyd yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar brojectau ymchwil sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo gweithgarwch corfforol mewn cymunedau. Mae’r dull cydweithredol hwn yn sicrhau bod ein hymchwil yn drylwyr yn academaidd yn ogystal â chael effaith sylweddol ar y diwydiant chwaraeon ac ymarfer corff. Bydd astudio ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi’r cyfle ichi ddysgu o'r gwaith arloesol hwn, a hyd yn oed gyfrannu ato.