Ceisiadau Tîm Bywyd Preswyl yn cau!
Dyma eich cyfle i ymuno â'r tîm Bywyd Preswyl!
Gellir gwneud cais ar gyfer ein rolau Campws Byw a Mentoriaid ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. Bydd disgwyl i fyfyrwyr weithio tua 40 awr y mis a bydd llety ensuite yn cael ei ddarparu i gyflawni’r rôl, wedi ei leoli naill ai ym Mhentref Myfyrwyr y Santes Fair neu Ffriddoedd.
Mae rhywfaint o’r profiad gwaith a rhai o’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu fel rhan o’r rôl yn cynnwys y canlynol:
- Arweinyddiaeth
- Delio â sefyllfaoedd anodd a heriol
- Gwaith tîm
- Cynllunio a rheoli digwyddiadau
- Sgiliau trefnu a rheoli amser
- Creu cynnwys i’r cyfryngau cymdeithasol
- Sgiliau gwrando a chyfryngu
- Cefnogaeth uniongyrchol i fyfyrwyr
Byddwch yn cael hyfforddiant llawn a chefnogaeth 24/7 trwy gydol y flwyddyn. Rhaid i fyfyrwyr fod wedi eu cofrestru ym Mhrifysgol Bangor o fis Medi 2026 - Mehefin 2027 er mwyn bod yn gymwys.
Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.bangor.ac.uk/cy/campwsbyw#Ymunwch Byw neu anfonwch e-bost at timpreswyl@bangor.ac.uk