Cydraddoldeb Hiliol mewn Ymchwil Ôl-raddedig - Gweithdy Arbenigol ar gyfer Ymchwilwyr Ôl-raddedig (Sesiwn wyneb yn wyneb)
Dysgwch sut:
- Mae Hil a Chydraddoldeb (Anghydraddoldeb) yn dod i’r amlwg yn y Tirwedd Ymchwil Ôl-radd.
- Adfyfyrio ar eich safle fel ymchwilydd.
- Gwreiddio paradeimau beirniadol, trawsnewidiol a rhyddfreiniol i'ch ymchwil.
- Ymgorffori iechyd meddwl a Llesiant yn eich taith ymchwil ôl-radd.
- Gwella dylanwad ac effaith eich ymchwil drwy ymarfer gwrth-hiliol.
Hanes a Chefndir
Sefydlwyd Black British Academics ym mis Ebrill 2013 gan Dr Deborah Gabriel i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ar sail hil mewn addysg uwch. Wrth ymateb i'r angen i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau strwythurol a systemig, defnyddiodd ei harbenigedd mewn cyfryngau, diwylliant a chyfathrebu, gan ddod yn eiriolwr, a thynnu sylw at faterion yn ymwneud ag anghydraddoldeb yn y cyfryngau newyddion. Gyda chenhadaeth glir wedi'i chanoli ar degwch a chyfiawnder cymdeithasol, dechreuodd adeiladu cymuned fyd-eang, gan rwydweithio ag ysgolheigion o'r un anian i ddatblygu projectau sy'n seiliedig ar ymchwil ac sy'n canolbwyntio ar drawsnewid. Mae hyn yn cynnwys y Project Tŵr Ifori ar brofiadau yn ôl hil a rhywedd yn y byd academaidd, a'r Fframwaith Addysgeg 3D a ddatblygwyd i ddad-drefedigaethu, democrateiddio ac amrywiaethu addysgu, ymchwil ac ymarfer proffesiynol addysg uwch. Ers ei sefydlu, mae Black British Academics wedi gweithio gyda thua 30 o sefydliadau yn y sector addysg uwch fel cleientiaid, partneriaid a chydweithwyr.