Mae'r sesiynau hyn wedi eu hanelu at....
- Y rhai sy'n astudio Gwleidyddiaeth, Cymdeithaseg neu Hanes fel pynciau Safon Uwch
- Y rhai sydd â diddordeb mewn astudio Gwleidyddiaeth, Cymdeithaseg, Hanes neu bwnc cysylltiedig yn y brifysgol
- Y rhai sydd â diddordeb cyffredinol mewn Gwleidyddiaeth a Hanes Cymdeithasol Cymru
Sylwch fod y sesiynau hyn ar agor i unrhyw un sy’n 16 oed neu hŷn.
Beth i'w ddisgwyl?
Tair sesiwn ar-lein, pob un yn archwilio agwedd wahanol ar Etholiadau’r Senedd 2026. Isod mae trosolwg o'r thema y bydd pob sesiwn yn ei ymdrin â hi.
Saesneg fydd iaith y sesiynau.
Sesiwn 1: O ble y tarddodd Llywodraeth Cymru a'r Senedd?
Pryd: 5-6pm, Dydd Mawrth 28 Ebrill 2026
Ble: Ar-lein trwy Microsoft Teams
Ymunwch â Dr Marc Collinson i drafod datblygiadau datganoli yng Nghymru. O'r galwadau cynnar am Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'r Senedd a welwn heddiw. Bydd y sesiwn hon yn edrych ar sut mae datganoli wedi bod yn broses, nid yn ddigwyddiad untro.
Sesiwn 2: Beth yw cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru?
Pryd: 5-6pm, Dydd Mawrth 5 Mai 2026
Ble: Ar-lein trwy Microsoft Teams
Dan arweiniad yr arbenigwr Polisi Cymdeithasol Dr Hefin Gwilym, bydd y sesiwn hon yn archwilio cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru, sy'n goruchwylio meysydd polisi megis iechyd, lles, tai a thrafnidiaeth. Byddwn yn archwilio sut mae polisi cymdeithasol yn ein helpu i ddeall cyfrifoldebau a gweithredoedd Llywodraeth Cymru.
Sesiwn 3: Beth allai canlyniad Etholiadau’r Senedd 2026 ei olygu i wleidyddiaeth Cymru?
Pryd: 5-6pm, Dydd Mawrth 12 Mai 2026
Ble: Ar-lein trwy Microsoft Teams
Bydd y cymdeithasegydd gwleidyddol Dr Robin Mann yn adolygu canlyniadau Etholiadau’r Senedd 2026 ac yn ystyried beth mae'r canlyniad yn ei awgrymu am y ddynameg sy’n newid yng nghymdeithas Cymru.
Sylwch: Cynhelir y sesiynau hyn yn amodol ar isafswm niferoedd (o leiaf 5 y sesiwn).
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu aildrefnu'r sesiynau.