Fy ngwlad:
Hen Goleg

Cynhadledd Sefydliad Cyllid Ewropeaidd (IEF) 2025  

Prif Siaradwr:

Yr Athro Sabri Boubaker, Ysgol Fusnes EM Normandie (Paris, Ffrainc)

Yr Athro Sabri Boubaker

 

Profile picture of Professor Sabri Boubaker

Ein prif siaradwr fydd yr Athro Sabri Boubaker o Ysgol Fusnes EM Normandie. (Paris, Ffrainc). Ef yw prif olygydd y Journal of International Financial Management & Accounting (Wiley, Ffactor Effaith o 9.4, Sgôr Cyfeiriadau: 12.5). 

Ef yw derbynnydd Gwobr Ymchwil 2022 y Sefydliad Ymchwil gan y "Centrum fôr Forskning om Ekonomiska Relationer, Sweden," gwobr y papur cyllid corfforaethol gorau yng Nghynhadledd Cyllid Asia 2023, ac mae wedi'i gynnwys yn rhestr cronfa ddata Prifysgol Stanford o ymchwilwyr sydd ymysg y 2% uchaf yn y byd. 

Yn ddiweddar, mae Sabri Boubaker wedi cyhoeddi llawer o bapurau academaidd (+120 o bapurau) mewn cyfnodolion rhyngwladol a adolygwyd gan gymheiriaid gan gynnwys Journal of Corporate Finance, Journal of Banking and Finance, Journal of International Money and Finance, Financial Management, Journal of Business Ethics, Journal of Economic Dynamics and Control, Auditing: A Journal of Theory & Practice, British Journal of Management, British Accounting Review, a Journal of Financial Research. 

Mae’r Athro Boubaker yn gwasanaethu ar fyrddau golygyddol sawl cyfnodolyn academaidd cyfrifeg a chyllid, megis British Journal of Management, Journal of International Financial Markets, Institutions & Money (Golygydd Pwnc), International Review of Financial Analysis (Golygydd Cyswllt), Journal of Accounting Literature (Golygydd Arbenigol – Ewrop), ac International Journal of Finance & Economics (Golygydd Cyswllt).  

Nod y gynhadledd ar-lein hon yw archwilio ac yn trafod yr ymchwil ariannol ddiweddaraf yn ystod y cyfnod hwn o newid mawr. Ers ei sefydlu yn 1973, cenhadaeth y Sefydliad Cyllid Ewropeaidd (IEF) yw arwain ymchwil arloesol sydd â dylanwad gwirioneddol ar y diwydiannau bancio a chyllid. Ers yr 1970au, mae'r byd wedi profi trawsffurfiadau cymdeithasol, technolegol, gwleidyddol ac amgylcheddol mawr. Ar hyn o bryd, rydym yn profi newid cyflym iawn, a bydd y gynhadledd hon yn ceisio gwella ein dealltwriaeth o sut y gall cyllid sbarduno canlyniadau cadarnhaol mewn byd sy'n trawsnewid.  

Mae'r gynhadledd hon yn gwahodd cyfraniadau sy'n ymwneud ag ymchwil ariannol gyfoes mewn  

byd yn trawsnewid. Dylai pynciau a ystyrir fod yn gysylltiedig â themâu'r pedwar grŵp ymchwil o fewn y Sefydliad Cyllid Ewropeaidd:  

  • Cyfrifeg a Llywodraethu: Ansawdd a llywodraethu cyfrifeg yn oes deallusrwydd artiffisial  

  • Risg Credyd: Effaith technoleg a newidiadau hinsawdd ar risg credyd a sgôr credyd  

  • Dadansoddeg Data ac Arloesedd Ariannol: Deallusrwydd Artiffisial a rhagweld  

  • Bancio Cyfrifol: Bancio cyfrifol mewn oes o ansicrwydd 

Rydym yn rhagweld y bydd cyfraniadau i'r gynhadledd hon yn hyrwyddo dealltwriaeth o'r rhyngweithiadau cymhleth rhwng cyllid a thrawsnewid cymdeithasol, technolegol, gwleidyddol ac amgylcheddol. Gwahoddir cyflwyniadau sy'n cynrychioli amrywiaeth o safbwyntiau a dulliau, gan gwmpasu ymchwil econometreg a damcaniaethol.  

Dylid anfon cynigion ar gyfer papurau i'w cyflwyno yn y gynhadledd i iefconference@bangor.ac.uk. 

 

Nid oes unrhyw ffioedd cyflwyno.  

  

Ni chaiff unrhyw gyfranogwr gyflwyno mwy nag un papur. Bydd aelodau'r Sefydliad Cyllid Ewropeaidd yn gweithredu fel trafodwyr ar gyfer y papurau a ddewiswyd yn ystod y digwyddiad.  

  

Dyddiadau pwysig

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion: Dydd Llun, 1 Medi 2025  

Cadarnhau Cyflwyniadau Llwyddiannus: Dydd Gwener, 3 Hydref 2025   

Agor y Cyfnod Cofrestru: Dydd Llun 6 Hydref 2025  

Dyddiad y Gynhadledd Ar-lein: Dydd Mercher, 5 Tachwedd 2025  

  

Anfonwch unrhyw ymholiadau am y digwyddiad at: etjones@bangor.ac.uk (Dr Edward Thomas Jones, Cyfarwyddwr Sefydliad Cyllid Ewropeaidd) neu iefconference@bangor.ac.uk