Darganfod Diwylliant Tsieina – Gweithdai Amser Cinio Am Ddim!
Darganfod Dian Cha: Profiad Te Tsieineaidd Traddodiadol wedi’i Chwisgio
Ymunwch â ni am gyfres o weithdai creadigol a hamddenol amser cinio sy’n dathlu harddwch celfyddydau a chrefftau Tsieineaidd. Bob wythnos, cewch gyfle i archwilio sgil draddodiadol wahanol, dan arweiniad tiwtoriaid o Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Mynediad: Am ddim – nid oes angen cofrestru
Mynediad i bawb: Ar sail y cyntaf i’r felin
Mae’r gweithdy hwn yn cyflwyno Dian Cha, dull traddodiadol o baratoi te Tsieineaidd sy’n dyddio’n ôl i gyfnod Brenhinllin y Song. Trwy arddangosiad a chyfranogiad ymarferol, bydd cyfranogwyr yn archwilio sut roedd te yn cael ei baratoi, ei rannu, a’i werthfawrogi yn Tsieina hynafol.
Yn y gweithdy hwn, byddwch yn:
- Dysgu am darddiad ac arwyddocâd diwylliannol Dian Cha yn hanes te Tsieina
- Darganfod sut roedd te yn cael ei baratoi a’i fwynhau yn ystod Brenhinllin y Song
- Ymarfer chwisgio te i greu gwead llyfn ac ewynnog
- Profi cyflwyniad tawel a myfyriol i ddiwylliant te Tsieineaidd
Darperir yr holl ddeunyddiau. Mae’r sesiwn hon yn cynnig profiad diwylliannol hamddenol a synhwyraidd.