Darganfod Diwylliant Tsieina – Gweithdai Amser Cinio Am Ddim!
Darganfod Torri Papur Tsieineaidd: Celf Werin a Thraddodiadau Gŵyliau
Ymunwch â ni am gyfres o weithdai creadigol a hamddenol amser cinio sy’n dathlu harddwch celfyddydau a chrefftau Tsieineaidd. Bob wythnos, cewch gyfle i archwilio sgil draddodiadol wahanol, dan arweiniad tiwtoriaid o Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Mynediad: Am ddim – nid oes angen cofrestru
Mynediad i bawb: Ar sail y cyntaf i’r felin
Mae’r gweithdy hwn yn archwilio torri papur Tsieineaidd, celf werin draddodiadol sy’n gysylltiedig yn agos â gwyliau a dathliadau. Bydd cyfranogwyr yn dysgu technegau sylfaenol ac yn creu eu dyluniadau addurnol eu hunain.
Yn y gweithdy hwn, byddwch yn:
- Dysgu technegau torri papur syml gam wrth gam
- Creu dyluniadau cymesur wedi’u hysbrydoli gan batrymau traddodiadol
- Archwilio ystyron diwylliannol patrymau clasurol
- Mynd adref gyda’ch gwaith gorffenedig
Darperir yr holl ddeunyddiau.