Darganfod Diwylliant Tsieina – Gweithdai Amser Cinio Am Ddim!
Clymau a Symbolau Tsieineaidd: Creu Cadwyn Allweddi Draddodiadol
Ymunwch â ni am gyfres o weithdai creadigol a hamddenol amser cinio sy’n dathlu harddwch celfyddydau a chrefftau Tsieineaidd. Bob wythnos, cewch gyfle i archwilio sgil draddodiadol wahanol, dan arweiniad tiwtoriaid o Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Mynediad: Am ddim – nid oes angen cofrestru
Mynediad i bawb: Ar sail y cyntaf i’r felin
Mae’r gweithdy ymarferol hwn yn cyflwyno cyfranogwyr i glymu clymau Tsieineaidd traddodiadol, ffurf gelfyddydol sy’n llawn symbolaeth ac ystyr.
Yn y gweithdy hwn, byddwch yn:
- Dysgu hanfodion technegau clymu Tsieineaidd
- Creu cadwyn allweddi syml â llaw
- Darganfod y symbolaeth sy’n cynrychioli lwc, cytgord a ffyniant
- Mynd adref gyda chofrodd wedi’i wneud â llaw
Nid oes angen profiad blaenorol.