Digwyddiad Ôl-raddedig
Ymunwch â ni yn ein Digwyddiad Ôl-raddedig i gael gywbod mwy am ein cyrsiau ôl-radd trwy ddysgu ac ymchwil. Mae'r digwyddiad hwn yn agored i fyfyrwyr presennol Prifysgol Bangor a phobl o du allan i'r Brifysgol sydd â diddordeb mewn astudio gyda ni.
Yn ystod y digwyddiad cewch:
- drafod eich opsiynau gyda staff
- wybodaeth am sut i ariannu eich cwrs
- ddod i wybod mwy am y gefnogaeth fydd ar gael i chi fel myfyriwr ôl-radd
Trefn y dydd
12:30: Cyrraedd a chofrestru
12:30-1:30: Ffair gyrsiau Ôl-raddedig
1:30: Cyflwyniad - Astudio a Chyllid
1:30: Cyflwyniad - Gyda diddordeb mewn Ymchwil Ôl-raddedig?
2:00-3:30: Sesiwn galw mewn Academaidd
3:30-4:30: Teithiau llety