Cynhelir gwasanaeth i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2026 ym Mhrifysgol Bangor.
Bydd y gwasanaeth yn cynnwys cerddoriaeth a darlleniadau gan ysgolion lleol, aelodau o’r gymuned leol a’r cyngor lleol, Undeb y Myfyrwyr, Tîm y Gaplaniaeth, a staff y Brifysgol.
Rhwng 1941 a 1945, ceisiodd y Natsïaid ladd holl Iddewon Ewrop. Yr enw am yr ymdrech systematig a bwriadol hon i lofruddio holl Iddewon Ewrop yw'r Holocost (Y Shoah yn Hebraeg). Wedi iddynt ddod i rym ym 1933, defnyddiodd y Natsïaid bropaganda, erledigaeth a deddfwriaeth i atal hawliau dynol a hawliau sifil Iddewon. Fe wnaethant ddefnyddio canrifoedd o wrthsemitiaeth fel sylfaen i hynny. Erbyn diwedd yr Holocost, roedd chwe miliwn o Iddewon, yn ddynion, merched a phlant, wedi marw mewn ghettos, mewn achosion o saethu torfol, mewn gwersylloedd crynhoi ac mewn gwersylloedd difodi.
‘Pontio’r Cenedlaethau’ yw thema Diwrnod Cofio’r Holocost 2026, sydd yn alwad i weithredu.
Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, mae’r Holocost, a hil-laddiadau mwy diweddar sy’n cael eu coffáu fel rhan o Ddiwrnod Cofio’r Holocost, yn mynd yn bellach i’r gorffennol. Mae’r pellter hwnnw’n dod â risg, mae cof am y digwyddiadau hyn yn pylu ac mae realiti chwerw’r hyn a ddigwyddodd yn dechrau mynd yn aneglur, yn haniaethol neu hyd yn oed yn cael ei gwestiynu.
Mae Pontio’r Cenedlaethau yn amlygu rôl hollbwysig y genhedlaeth nesaf wrth gadw’r cof am yr Holocost yn fyw a’i drosglwyddo i’r cenedlaethau nesaf. Mae’n dangos pa mor bwerus yw deialog rhwng y cenedlaethau, gwrando ar bobl a ddaeth o’n blaenau a rhannu’r straeon hyn gyda’r cenedlaethau a ddaw ar ein holau. Wrth wneud hynny, nid yn unig ein bod yn cadw cof am y pethau hyn yn fyw, rydym hefyd yn eu cysylltu â’r presennol. Mae’r thema’n ein gwahodd i anrhydeddu pob bywyd, ac i anrhydeddu’r rhai nad oes ganddynt deulu i fedru dwyn y gynhysgaeth hon yn ei blaen.
Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac yn agored i'r cyhoedd.
Mae angen cofrestru.
Croeso i bawb!