Pam mae cymaint o gadwraethwyr yn dibynnu ar ddulliau milwriaethus i fynd i'r afael â'r fasnach anghyfreithlon mewn bywyd gwyllt? A pha niwed mae hynny'n ei achosi i bobl ac i fywyd gwyllt? Bydd y cyflwyniad hwn yn egluro sut y gall ecoleg wleidyddol ein cynorthwyo i ddeall y rhesymau dros ddefnyddio milwriaeth, a chyfyngiadau defnyddio dull gorfodi yn gyntaf. Bydd yn defnyddio’r enghraifft o gydweithio â chwmnïau milwrol preifat i ddarparu hyfforddiant gwrth-botsio a gorfodi’r gyfraith.
Mae Rosaleen Duffy yn Athro Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Ysgol Gymdeithaseg, Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, Prifysgol Sheffield. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ecoleg wleidyddol cadwraeth. Mae hi wedi ysgrifennu'n helaeth am fasnach anghyfreithlon mewn bywyd gwyllt, llywodraethu amgylcheddol byd-eang, gwleidyddiaeth cadwraeth ryngwladol ac ecodwristiaeth. Dyma ei llyfr diweddaraf Security and Conservation: the politics of the illegal wildlife trade (Yale UP, 2022). Cafodd grant uwch gan yr ERC (BIOSEC) a’r ESRC ar gyfer Beastly Business, a oedd yn canolbwyntio ar ddiogelwch a throseddau gwyrdd. Ar hyn o bryd mae hi'n datblygu ymchwil newydd ar ecolegau gwleidyddol anifeiliaid, ac mae hi'n brif ymchwilydd y project newydd. Multispecies Mutualisms a gyllidir gan Ymddiriedolaeth Wellcome, lle bydd hi'n canolbwyntio ar gadwraeth ac iechyd adar.