Mae'r Institute for Fiscal Studies a Phrifysgol Bangor yn eich gwahodd i ymuno â ni am noson o wybodaeth a thrafodaeth am y dewisiadau polisi cyllidol, economaidd a chyhoeddus sy'n wynebu Cymru cyn etholiadau Cymru 2026.
Wrth i bobl baratoi at bleidleisio ar 7 Mai 2026, bydd y digwyddiad hwn yn trafod cynlluniau'r pleidiau ynglŷn â threthi, gwariant a'r economi, a'r heriau a'r cyfleoedd ehangach sy'n wynebu llywodraeth nesaf Cymru.
Rhaglen y Digwyddiad
Yn y digwyddiad ar y cyd hwn rhwng yr Institute for Fiscal Studies (IFS) a Phrifysgol Bangor, bydd arbenigwyr blaenllaw yn disgrifio’r dirwedd gyllidol gyfredol ac yn dadansoddi'r cynigion a gyflwynwyd gan bleidiau gwleidyddol Cymru:
David Phillips, Head of Devolved and Local Government Finance, IFS
Trosolwg ar gyllid, gwariant a pherfformiad gwasanaethau cyhoeddus a pholisi treth a budd-daliadau Llywodraeth Cymru, ac yna dadansoddiad o gynlluniau treth a gwariant y pleidiau.Yr Athro Michael Butler, Athro Rheolaeth, Ysgol Fusness Albert Gubay
Trafodaeth o'r heriau a'r cyfleoedd i economi a marchnad lafur Cymru sy'n deillio o ddatgarboneiddio a'r newid i ynni adnewyddadwy, gan gynnwys effeithiau yng ngogledd Cymru.Dr Rhys ap Gwilym, Uwch Ddarlithydd Economeg, Ysgol Fusness Albert Gubay
Asesiad o newidiadau diweddar a chynigion y pleidiau ar drethi lleol a chyllid llywodraeth leol, gyda phwyslais ar y goblygiadau i gynghorau yng ngogledd Cymru.
Marian Wyn Jones, Cadeirydd Cyngor y Brifysgol, fydd yn cadeirio'r drafodaeth a'r sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa.