Bydd Cymrodoriaeth P.J.C. Field hefyd yn cael ei lansio yn y digwyddiad. Crëwyd cronfa’r Gymrodoriaeth i gefnogi ymchwilwyr gwadd sy’n dymuno cydweithio â’n hymchwilwyr, a defnyddio adnoddau digyffelyb y Ganolfan Astudiaethau Arturaidd a’i chasgliadau.
Ar y noson bydd cyfle i weld detholiad o lyfrau prin o’n casgliadau Arthuraidd, mewn arddangosfa arbennig wedi curadu ar gyfer y digwyddiad gan yr Athro Raluca Radulescu, cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan. Bydd hefyd bosteri ymchwil a chyflwyniadau gan ein hymchwilwyr ôl-raddedig.
Darllenwch y stori newyddion yma,

'King Arthur's Masterpiece: The Battle of Badon' Dathlu pumed penblwydd Canolfan Astudiaethau Arturaidd
Ar 8 Chwefror eleni, daw’r Athro P.J.C. Field yn ôl i Brifysgol Bangor i roi darlith gyweirnod, 'Dating the Battle of Badon' ar bumed pen-blwydd lansiad swyddogol y Ganolfan.