Beth sy'n Newydd?
MA mewn Astudiaethau Arthuraidd
Mae'r MA mewn Astudiaethau Arthuraidd yn cynnig rhaglen o fodiwlau wedi'u dewis yn ofalus i'ch tywys trwy'r maes ymchwil rhyngddisgyblaethol cyfoethog hwn a'ch paratoi ar gyfer ymchwil ar lefel uwch.
Y newyddion diweddaraf, erthyglau, a chyfweliadau sy’n cynnwys ein haelodau am bopeth Arthuraidd.
Darlithoedd o gyfres 2020 - 2021 a drefnwyd gan y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yn ymwneud â thraddodiadau Arthuraidd a Cheltaidd, gyda ffocws ar berthnasedd chwedlau a’r modd y cânt eu traddodi, o fewn eu cyd-destunau Cymreig gwreiddiol, a’r tu hwnt iddynt. Mae croesi ffiniau (yn ddaearyddol, yn ieithyddol, ac yn amseryddol) yn allweddol i’n dealltwriaeth o effaith straeon Arthuraidd.
Aelodau'r Ganolfan
Aelodau Presennol
Bwrdd Allanol
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Bryste
Prifysgol Rhydychen
Prifysgol Rochester
Prifysgol Gorllewin Awstralia
Prifysgol Glasgow
Prifysgol Bryste
Gyda thristwch mawr yr adroddwn am farwolaeth ddiweddar Dr. Roger Simpson, aelod o Gangen Prydain o'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol, a chefnogwr a chyfaill mawr i Gangen Gogledd America a chyfrannwr cyson i Arthuriana fel awdur ac adolygydd cyflwyniadau a llyfrau. Cafodd Roger yrfa academaidd wirioneddol anhygoel. Ar ôl ennill BA mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ym 1960 o Goleg Wadham, Rhydychen, cwblhaodd Ddiploma mewn Addysg yn Rhydychen ddwy flynedd yn ddiweddarach. Rhwng 1962 a 1963, bu'n Feistr Cynorthwyol Saesneg yn Ysgol Ramadeg Verdin yn Lloegr. Rhwng 1963-1965, bu’n Uwch Feistr Saesneg yn Ysgol Uwchradd Hŷn Old Kampala yn Uganda. Rhwng 1965-1966, dychwelodd i Loegr a gwasanaethu fel Meistr Saesneg Cynorthwyol yn Ysgol Uwchradd y Merched Aylesbury. Rhwng 1966-1968, bu’n Uwch Feistr Saesneg yng Ngholeg Cadetiaid Momenshahi yn Nwyrain Pacistan (Bangladesh bellach). Rhwng 1969-1982, bu'n Uwch Ddarlithydd ac yn Bennaeth Saesneg yng Ngholeg Polytechnig y Gwlff yn Bahrain. Dychwelodd i Loegr ym 1982 i swydd ym Mhrifysgol East Anglia yn Norwich lle bu'n dysgu ac yr arhosodd tan 2003. Ym 1988, cwblhaodd ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol East Anglia gyda thesis ynghylch The Arthurian Revival and Tennyson, 1800-1849. Ym 1998, bu'n ysgolhaig gwadd yn yr Amgueddfa Ethnograffeg Genedlaethol yn Osaka, Japan. Ysgrifennodd Roger ddau fonograff Arthuraidd pwysig: The Arthurian Revival and Tennyson, 1800-1849 (1990) and Radio Camelot: Ymhlith ei gyhoeddiadau eraill mae dwsinau o draethodau ac adolygiadau ar agweddau lluosog ar Arthuriana. Ysgolhaig o’r ysgolheigion oedd Roger. Roedd wrth ei fodd â’r gwaith manwl a thrylwyr o ddarganfod gweithiau ac awduron Arthuraidd anghofiedig. A gallai gyflwyno ei ymchwil mewn ffordd gynhwysfawr ac effeithiol a heintio eraill â'i frwdfrydedd dros ei ddarganfyddiadau. Ac, fel y tystia ei ddau lyfr a’i draethodau lu, astudiaethau Arthuraidd a âi â’i fryd ac fe gyfrannodd at hynny mewn diwylliant “uchel” a diwylliant poblogaidd fel ei gilydd. Boed yn ymateb i gwestiynau mewn cynadleddau gan hen gydweithiwr neu gan fyfyrwyr a oedd newydd raddo, roedd Roger bob amser yn batrwm o ddifrifwch, gras a chwrteisi. Ef oedd y mwynaf o’r gwŷr bonheddig. I'r rhai a'i hadwaenai, yr oedd yn gydweithiwr caredig, yn swynol ei groeso, a'r haelaf o ysgolheigion. Fel Clerc Chaucer, yn llawen y dysgodd a dysgodd yn llawen. Ymhlith y rhai a’i goroesodd mae ei wraig, Paddy, a'u mab, Dr St John Simpson, Ceidwad Cynorthwyol Iran, Canolbarth Asia ac Arabia yn yr Amgueddfa Brydeinig.
Alan Lupack, Cyfarwyddwr Emeritws, Llyfrgell Robbins, Prifysgol Rochester
Barbara Tepa Lupack, Rochester, Efrog Newydd
Kevin J. Harty, Athro Saesneg, Prifysgol La Salle
Aelodau Cyswllt
Prifysgol Wisconsin, Madison
Prifysgol East Tennessee
Prifysgol Acadia
Sam Houston State University
Prifysgol De Montfort
Prifysgol Keio
University of Latvia
Ysgolhaig Annibynnol
Ysgolhaig Annibynnol
Boydell & Brewer
*Fill in
Prifysgol Halmstad, Sweden (Cymrawd Ymchwil ar Ymweliad, Chwefror/Mawrth 2018)
Cymrodyr
Brno University
Bangor Alumna and Bristol University, Alumna Prifysgolion Bangor a Bryste, a hefyd Cymrodor o Ganolfan Stephen Colclough ar gyfer Hanes a Diwylliant y Llyfr
Prifysgol Halmstad, Sweden (Cymrawd Ymchwil ar Ymweliad, Chwefror/Mawrth 2018)
Prifysgol Belgrad (Cymrawd Ymchwil ar Ymweliad, Ebrill 2018)
Llenyddiaeth Arthuraidd
Ein Cymuned Ymchwil ar Gynnydd: Ôl-raddedigion, Cyn-fyfyrwyr, Cymrodorion ar Ddechrau eu Gyrfa ac Aelodau Cyswllt o'r Ganolfan
PhD yn y 3edd flwyddyn, mewn cyd-diwtoriaeth gan Brifysgol Bangor-Prifysgol Lorraine
PhD yn yr 2il flwyddyn, Prifysgol Bangor
ymgeisydd PhD - cam y cywiriadau ôl-viva
ymgeisydd PhD - cam y cywiriadau ôl-viva
PhD y flwyddyn 1af, Prifysgol Bangor
PhD Bangor 2014, Darlithydd ym Mhrifysgol Latfia
Cyn-fyfyriwr MA 2021
Cyn-fyfyriwr MA 2021
Cyn-fyfyriwr MA 2021
Jessika Brandon
Merlynn Spencer
Ein Partneriaid
Hanes y Casgliadau
Mae hanes casgliadau Arthuraidd a Cheltaidd Llyfrgell Prifysgol Bangor yn dyddio i adeg sefydlu'r Brifysgol ei hun yn 1884, pan dderbyniwyd rhoddion gan gymwynaswyr lleol yn ogystal â chan ysgolheigion ac aelodau o staff y Brifysgol.
Yn ddiweddar, bu Llyfrgelloedd Sir y Fflint mor garedig â rhoi eu Casgliad Arthuraidd i Brifysgol Bangor, ac yma bellach y gofalir amdano gan y Gwasanaethau Llyfrgell, Archifau a Chasgliadau Arbennig. Cafodd y casgliad ei roi'n wreiddiol i Lyfrgelloedd Sir y Fflint yn 1952 gan E.R. Harries, cyn-lyfrgellydd y sir, ac ychwanegwyd yn helaeth ato wedyn. Y mae ynddo erbyn hyn dros ddwy fil o eitemau sydd o ddiddordeb i ysgolheigion a darllenwyr cyffredin, ac mae'n cyfoethogi casgliad blaenorol Bangor yn enwedig oherwydd y llyfrau prin. Mae'r holl adnoddau bellach ar gael i mewn un lleoliad, heb orfod teithio rhwng yr Wyddgrug a Bangor.
Dathlwyd derbyn Casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint yn 2015 gyda lansiad a darlith gyhoeddus gan Dr Roger Simpson, ac arddangosfa o lyfrau prin o gasgliadau Bangor a Harries Sir y Fflint, dan ofal yr Athro Raluca Radulescu a Shan Robinson [dolen yma].
Cartref y Chwedlau
Project gan y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yw 'Cartref y Chwedlau'. Caiff y project ei ariannu gan Gronfa Prifysgol Bangor, menter yr Is-Ganghellor, sy'n cefnogi meysydd o flaenoriaeth strategol i'r brifysgol ar 140 mlwyddiant Prifysgol Bangor (1884). Nodau’r project yw amlygu rôl ganolog Astudiaethau Cymreig, Celtaidd, ac Arthuraidd yn lleol yn ardal Prifysgol Bangor, ac yn y broses o sefydlu llyfrgell y brifysgol yn nechrau ei hanes, a hybu ysgolheictod, addysgu ac ymchwil pellach yn y meysydd hynny. Mae gwreiddiau'r project yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, ac yn fodd hefyd i ddathlu casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint.
I gyd-daro â’r arddangosfa ar-lein bydd y Ganolfan yn cynnal cyfres o Ddarlithoedd Arthuraidd yn 2024, fel rhan o ddathliad 140 Prifysgol Bangor. Bydd hefyd raglen addysgol i’r ysgolion cynradd lleol ar gyfer y Cwricwlwm Creadigol Newydd yng Nghymru, o dan arweiniad yr Athro Radulescu gyda Gillian Brownson, storïwraig leol ac artist perfformiadol, a Maria Hayes, artist yn y celfyddydau cain.
Dewch yn Aelod Cyswllt neu'n Gymrawd o'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd
Gwyddom fod nifer o unigolion a sefydliadau y tu hwnt i'r Ganolfan Astudiaethau Arthur yn rhannu ein diddordebau, ein nodau a'n dyheadau deallusol. Mae gweithio mewn partneriaeth â'r cydweithwyr a'r budd-ddeiliaid hyn yn hanfodol wrth inni ddatblygu. O'r herwydd, rydym yn cynnig aelodaeth gyswllt i unigolion a sefydliadau mewnol ac allanol sy'n cefnogi ac yn cyfrannu tuag at ein hamcanion hir-dymor. Cynigiwn hefyd statws Cymrawd i unigolion, yng nghyswllt prosiectau mwy byr-dymor.
Cynigir aelodaeth gyswllt a statws cymrawd fel ffordd o wella ein cyrhaeddiad academaidd a'n gallu cydweithredol, o fewn Prifysgol Bangor ac, yn bwysig ddigon, wrth ymgysylltu â rhwydwaith o bartneriaid allanol mewn sefydliadau ymchwil eraill a sectorau perthnasol eraill (e.e., treftadaeth ddiwylliannol; archifau). Bydd ein haelodau cyswllt a'n cymrodyr yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau cyrhaeddiad y Ganolfan ledled Cymru, ac yn cynorthwyo wrth inni ddangos perthnasedd pellgyrhaeddol a rhyngwladol ein gwaith.
Bwriedir aelodaeth gyswllt ar gyfer cysylltiad gweddol hir-dymor, y gellir ei adnewyddu'n flynyddol. Bydd hyn yn berthnasol nid yn unig i sefydliadau, ond hefyd i ysgolheigion y mae eu prosiectau ymchwil yn berthnasol i gasgliadau Arthuraidd Llyfrgell Prifysgol Bangor ac i ddiwylliant ymchwil y Ganolfan. Ni chaniateir aelodaeth gyswllt fel rheol heb dystiolaeth o gyrhaeddiad ysgolheigaidd. Bydd Aelodau Cyswllt unigol yn cyfranogi'n llawn o weithgareddau ymchwil y Ganolfan, ac yn cyflwyno papurau ymchwil yn seiliedig ar eu gwaith yn y Ganolfan.
Cynlluniwyd y cymrodoriaethau byr-dymor hyn (rhwng pythefnos a semester cyfan) i gefnogi prosiectau ymchwil unigol a ddiffiniwyd yn fanwl, ac sy'n berthnasol i gasgliadau Arthuraidd Llyfrgell Prifysgol Bangor. Bydd y cymrawd yn derbyn lle i weithio yn y Ganolfan, mynediad i adnoddau'r Brifysgol (gan gynnwys cyfrifiaduron), a chaiff gyfranogi o weithgareddau ymchwil y Ganolfan. Pan ddaw'r gymrodoriaeth i ben, gofynnir am bostiad neu flogiad byr, ar destun y prosiect ymchwil.
Rhaid i unigolion a sefydliadau sydd eisiau gwneud cais am statws aelod cyswllt (neu statws Cymrawd) fedru dangos cyfraniad gweithredol at nodau a dyheadau'r Ganolfan.
Yn achos unigolion gall hyn fod ar ffurf gweithgarwch ymchwil; cyhoeddiadau o safon; addysgu ar lefel addysg uwch; goruchwylio astudiaeth ôl-radd; gwybodaeth am gasgliad(au); ac/neu arbenigedd curadol mewn meysydd sy'n ymwneud â hunaniaeth ddeallusol y Ganolfan.*
Yn achos sefydliadau, cymdeithasau a grwpiau, gall hyn fod ar ffurf blaenoriaethau sefydliadol; gweithgarwch ymchwil; ac/neu arbenigedd curadol mewn meysydd sy'n ymwneud â hunaniaeth y Ganolfan. Gall sefydliadau o'r fath gynnwys archifdai; sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol; canolfannau ymchwil ac endidau academaidd eraill; cymdeithasau hanes/treftadaeth a grwpiau cymunedol; a chyrff sy'n weithredol mewn meysydd cyfagos perthnasol.
*Bydd pob ymchwilydd doethurol ac ôl-ddoethurol, pob cymrawd ymchwil er anrhydedd, pob athro gwadd a phob archifydd proffesiynol a benodir i weithio ar brosiectau sy'n deillio o'r Ganolfan yn dod yn aelod yn awtomatig.
Rhaid i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais. Nid oes dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau.
Dylid anfon ffurflenni cais wedi eu llenwi at arthur@bangor.ac.uk (neu trwy'r post).
Cyhoeddir rhestr o'r aelodau cyswllt ar wefan y Ganolfan Ymchwil.
Cewch wneud cyfraniad ariannol at waith Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru drwy fynd i'r dudalen berthnasol ar ein wefan.
arthur@bangor.ac.uk