Mae iaith yn un o'r nodweddion sy'n gosod y ddynoliaeth ar wahân i rywogaethau eraill y Ddaear, a lle bynnag y mae bodau dynol, y mae iaith. Mae'r ffaith honno’n peri bod lefel hynod o amrywiaeth, ac mae dros saith mil o ieithoedd yn cael eu siarad ledled y byd heddiw. O ystyried bod llai na 200 o wledydd yn y byd, cawn syniad pa mor amrywiol yw’r blaned yn ieithyddol, a pha mor gyfeiliornus y gall y syniad o “un wlad un iaith” fod.
Nid mewn gwledydd pell yn unig y ceir amrywiaeth ieithyddol: mae bron i 300 o ieithoedd brodorol yn Ewrop, er na ŵyr y mwyafrif am yr ieithoedd hynny, a lleihau mae’r niferoedd sy’n siarad nifer ohonynt. Yn wir, yn ôl Atlas Ieithoedd y Byd UNESCO, mae cymaint â 70% o ieithoedd y byd mewn perygl, rhai’n ddifrifol neu'n gritigol.
Yn y ddarlith hon rydym yn archwilio rhai o’r materion sy’n ymwneud ag amrywiaeth ieithyddol, ei nodweddion, a’r grymoedd sy’n bygwth ei goroesiad. Byddwn yn ymdrin â nifer o gwestiynau craidd a’u goblygiadau: A yw amrywiaeth ieithyddol yn beth da ac – os ydyw – pam? Ble rydyn ni'n dod o hyd i amrywiaeth ieithyddol, a sut olwg sydd arno yn Ewrop fodern? Ac yn olaf: Ym mha fodd y mae amrywiaeth ieithyddol o dan fygythiad, ac a oes modd gwneud rhywbeth i’w harbed?
Marco Tamburelli, athro Ieithyddiaeth, yw cyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymchwil Rhyngwladol ar Ieithoedd dadleuol eu Statws a phennaeth y Tîm Ymchwil Agweddau Ieithyddol. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddwyieithrwydd ac amlieithrwydd, o safbwynt meddylfryd/cynrychiolaeth yn ogystal ag o safbwynt sosioieithyddol a chymharol.
O safbwynt cynrychioliadol, mae’r Athro Marco Tamburelli wedi gweithio ar Gaffael Iaith Gyntaf Dwyieithrwydd, yn enwedig mewn perthynas ag effeithiau trosglwyddo cystrawenyddol a ffonolegol ymhlith pobl ddwyieithog sy’n caffael dwy iaith yr un pryd, ond hefyd ar gaffael a threfnu priodweddau geirfaol, natur paradeimau a’r mecanweithiau sy’n sail i drefniadaeth eirfaol (gan gynnwys mapio gwybodaeth draws-fodiwlaidd yn yr eirfa) ac ar ddatblygiad geirfaol a ffonolegol plant sy'n datblygu fel bo'n nodweddiadol ac mewn plant ag SLI.
Mae’r Athro Tamburelli hefyd yn gweithio ar yr agweddau mwy cymdeithasol a chymharol ar ddatblygiad dwyieithrwydd, yn enwedig ar ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol (polisi a chynnal iaith), ar faterion sy’n ymwneud ag amrywiaeth iaith (cloriannu agweddau ieithyddol), a chymunedau deuglosig/dwyieithog yr Eidal, ond hefyd ar fesur pellter ffonetig mewn continwa ieithyddol, ac ar fesur a chymhwyso graddfeydd deall fel maen prawf i ffiniau rhwng 'ieithoedd rhanbarthol' a 'thafodieithoedd rhanbarthol'.
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg.