Tirlun cyllido ar gyfer ymchwilwyr ac academyddion yn y DU
Rhaglen Hyfforddi IRIS
Sylwch y bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg.
Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyflwyniad a throsolwg i chi o’r prif ffynonellau cyllido cyhoeddus ac elusennol sydd ar gael i ymchwilwyr ac academyddion yn y DU, gan gynnwys cynlluniau cyllido gan lywodraethau’r DU a Chymru a chyfleoedd cyllido gan y cynghorau ymchwil. Byddwn yn eich tywys drwy’r prif gynlluniau cyllido ac yn tynnu sylw at y tueddiadau a’r datblygiadau presennol. Mae’r sesiwn yn cynnwys gwybodaeth am sut i gael cymorth ar gyfer ceisiadau cyllido drwy swyddfa ymchwil Prifysgol Bangor. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau ar ddiwedd y sesiwn.
Cyflwynydd: Markus Gellesch, Gwasanaeth Effaith ac Ymchwil Integredig