Mae'r Athro Stephanie Waterman o Brifysgol British Columbia, Canada yn gweithio ar flaen y gad mewn maes robotig newydd, ac yn defnyddio robotiaid o bell i arsylwi’r môr. Bydd yr Athro Waterman yn ymweld â Phrifysgol Bangor ddydd Llun 26 Mehefin i draddodi darlith gyhoeddus ar ddefnyddio robotiaid crwydrol i ddeall y môr yn well. Mae croeso i bawb ddod i’r ddarlith..
Mae'r môr yn parhau i fod yn ddirgelwch, ac mor estron i ni â'r gofod allanol er ei fod wedi cydblethu â holl fywyd y ddaear, ac yn chwarae rhan ganolog yn y broses o reoleiddio’r hinsawdd a chynhyrchu bwyd. Mae llawer o'r dirgelwch yn deillio o'r heriau sylweddol a niferus sy'n gysylltiedig ag arsylwi'r môr. Ond mae'r chwyldro robotiaid yn gyfnod newydd o arsylwi’r môr, gyda'r potensial i chwyldroi ein dealltwriaeth o weithrediad y môr.
