Gweithgaredd Gweithgaredd efelychu yn ystod hyfforddiant Remote Risk International Limited.
Mae Prifysgol Bangor yn gweithio mewn partneriaeth â’r cwmni hyfforddiant meddygol Remote Area Risk International a’r Institute for Remote Area Risk Management and Medicine, i wella gofal meddygol mewn sefyllfaoedd o argyfwng yn yr awyr agored ac mewn mannau anghysbell, megis alldeithiau, gweithrediadau milwrol a thrychinebau dyngarol.
Un o nodau pennaf y bartneriaeth yw datblygu dulliau effeithiol ac ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth y gall ymatebwyr eu defnyddio i rwystro tymheredd y corff rhag gostwng gormod wrth ddarparu gofal yn y maes ac mewn lleoliadau eraill lle mae adnoddau’n brin.
Bydd staff o Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol Prifysgol Bangor yn mynychu cyrsiau ar lefel broffesiynol ym maes meddygaeth mewn mannau anghysbell a gaiff eu cynnal gan Remote Area Risk International yn y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol ym Mhlas y Brenin yn Eryri. Wedi hynny gwneir ymchwil pellach a phrofi technegau ac offer gofal estynedig yn y maes, gan gynnwys defnyddio siambr amgylcheddol thermol arbenigol ym Mhrifysgol Bangor.
Gwneir y gwaith ymchwil diolch i Wobr Arloesi ac Effaith Prifysgol Bangor, sydd wedi ei hariannu gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru.
Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Remote Area Risk Internationali helpu i ddatblygu’r dulliau ymarferol a’r hyfforddiant y maent yn ei gynnig ar eu cyrsiau meddygaeth anghysbell a gofal estynedig yn y maes. Nhw yw un o ddarparwyr mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig yn y maes yma. Yr hyn sy’n gwneud y gwaith hwn yn werth chweil yw gwybod bod graddedigion y cwrs yn mynd yn eu blaenau i gymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau technegol y maent yn eu dysgu i wella gofal cyn-ysbyty a lleihau marwolaethau mewn lleoliadau lle mae adnoddau’n brin, megis ar allteithiau ac mewn trychinebau.
Cawsom ein cyflwyno i Sam gan gyswllt dibynadwy a phrofiadol iawn yn y maes Achub Mynydd. Mae gan y tîm yn y Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol brofiad helaeth o’r pwnc dan sylw. Fel gyda phopeth y byddwn ni yn ei wneud, mae’r ffocws ar wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r rhai sydd ei angen, mewn sefyllfaoedd eithafol.