Arbenigwyr yn galw am weithredu brys ar gam-drin geiriol yn ystod plentyndod yn Nhŷ’r Cyffredin
Daeth arbenigwyr blaenllaw ynghyd yn Nhŷ’r Cyffredin i alw am weithredu cenedlaethol brys i fynd i’r afael â cham-drin geiriol yn ystod plentyndod.
Wedi'i gynnal gan Sharon Hodgson AS a'i gynnull gan yr elusen Words Matter, amlygodd y drafodaeth dan arweiniad arbenigwyr yr angen hanfodol i gynnwys atal cam-drin geiriol yng nghenhadaeth y Llywodraeth er mwyn magu’r genhedlaeth iachaf o blant mewn hanes a chwalu rhwystrau i gyfleoedd.
Mae cam-drin geiriol yn ystod plentyndod yn cael ei gydnabod bellach fel y math mwyaf cyffredin o gam-drin plant .
Roedd y siaradwyr yn y digwyddiad cyntaf am gam-drin geiriol yn ystod plentyndod yn Nhŷ’r Cyffredin yn cynnwys yr Karen Hughes, Athro Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Bangor a chynghorydd arbenigol i Sefydliad Iechyd y Byd.
Mae ymchwil helaeth yn dangos y gall cam-drin geiriol – gan gynnwys beio, sarhau, sgaldio, beirniadu, neu fygwth plant – fod mor niweidiol â cham-drin corfforol neu rywiol. Mae ei effeithiau hirdymor yn cynnwys gorbryder, iselder ysbryd, anhwylderau bwyta, anawsterau cysgu, camddefnyddio sylweddau, hunan-niweidio a hunanladdiad.
Mae 2 o bob 5 plentyn (41%) yn y Deyrnas Unedig yn profi cam-drin geiriol, gyda dros hanner yn ei brofi bob wythnos, ac 1 o bob 10 bob dydd . Rhieni, gofalwyr, athrawon ac arweinwyr gweithgareddau/hyfforddwyr yw'r prif ffynonellau. Mae'r mater yn croesi'r holl ffiniau cymdeithasol a rhanbarthol – mae'n fater eang a diwahân.
Dywedodd yr Karen Hughes, Athro Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Bangor, a chynghorydd arbenigol i Sefydliad Iechyd y Byd, “Er bod cyfraddau cam-drin plant yn gorfforol yn lleihau, nid yw hyn yn wir o ran cam-drin geiriol. Gall cam-drin geiriol niweidio iechyd a lles hirdymor plentyn yn ddifrifol, gan gynyddu’r risg o brofi problemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a thrais. Mae atal cam-drin geiriol yr un mor hanfodol â mynd i'r afael â cham-drin corfforol. Mae creu amgylcheddau diogel ac anogol yn golygu sicrhau bod rhieni, llunwyr polisi, a phob oedolyn yn deall y niwed o gam-drin geiriol – a’u bod yn meddu ar y sgiliau a’r gefnogaeth sydd eu hangen i fagu plant mewn ffordd gadarnhaol.”
Dywedodd Sharon Hodgson AS, “Mae cynnydd pwysig wedi’i wneud wrth fynd i’r afael â cham-drin corfforol a rhywiol trwy ymwybyddiaeth ac ymyrraeth. Ond mae cam-drin geiriol wedi aros o dan y radar. Fel y clywsom heddiw, dyma’r math mwyaf cyffredin o gam-drin plant erbyn hyn, gyda niwed sylweddol a pharhaol. Rwy’n falch o gefnogi Words Matter i ddod ag arbenigwyr ynghyd i ddechrau’r sgyrsiau hanfodol sydd eu hangen i feithrin ymyriadau, chwalu rhwystrau i gyfleoedd, a helpu pob plentyn i ffynnu.”
Roedd siaradwyr eraill yn cynnwys Athro Peter Fonagy, Pennaeth yr Is-adran Seicoleg a Gwyddorau Iaith, Coleg Prifysgol Llundain (UCL) a chynghorydd i’r Llywodraeth; yr Athro Eamon McCrory, Prif Swyddog Gweithredol Anna Freud ac Athro Niwrowyddoniaeth Ddatblygiadol a Seicopatholeg, UCL; Yr Athro Andrea Danese, Athro Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc, King’s College, Llundain ac Ysgrifennydd Cyffredinol y European Association for Child & Adolescent Psychiatry; a Jessica Bondy, Sylfaenydd Words Matter.
Mae astudiaeth arloesol gan yr economegydd blaenllaw, Dr Xiangming Fang, yn amcangyfrif bod cost economaidd fyd-eang o gam-drin geiriol yn ystod plentyndod - drwy ei effeithiau ar iechyd yn unig - yn £239 biliwn y flwyddyn. Nid yw’r ffigur hwn hyd yn oed yn cyfrif am effeithiau ehangach ar addysg, cyflogadwyedd, a chynhyrchedd yn y dyfodol.
Dywedodd yr Athro Peter Fonagy, Pennaeth yr Is-adran Seicoleg a Gwyddorau Iaith yn UCL: “Rhaid i ni ddod â cham-drin geiriol allan o’r cysgodion a rhoi’r un sylw iddo â mathau eraill o gam-drin. Mae'n un o'r achosion mwyaf ataliadwy o broblemau iechyd meddwl. Gall geiriau llym wanhau sylfaen yr ymennydd yn ystod datblygiad. Mae angen i oedolion gyfathrebu â phlant mewn modd caredig a chefnogol – mae’n hanfodol wrth feithrin eu hunaniaeth a’u gwytnwch emosiynol.”
Dywedodd Jessica Bondy, Sylfaenydd Words Matter: “Os ydym wir eisiau magu’r genhedlaeth iachaf mewn hanes a chwalu’r rhwystrau i gyfleoedd, rhaid inni ganolbwyntio ar sut mae oedolion yn siarad â phlant. Mae geiriau’n bethau grymus. I blentyn, gall iaith galed eu rhwygo ac effeithio ar bob rhan o’u bywyd - gartref, yn yr ysgol, yn eu perthnasoedd yn y dyfodol a’u cyfraniad i gymdeithas. Wrth barchu plant â’n geiriau, rydym yn dangos iddynt i barchu eu hunain ac eraill.”
Wrth i'r Llywodraeth symud ymlaen â'i strategaeth iechyd meddwl a lles ar gyfer plant, mae Words Matter yn galw ar atal cam-drin geiriol i ddod yn bwyslais craidd – gyda hyfforddiant, ymwybyddiaeth, a chefnogaeth i bob oedolyn sy’n rhan o fywydau plant.