Ddydd Mercher, 29 Hydref bydd Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Gofalu a Chefnogi, sef diwrnod i gydnabod yr heriau niferus sy'n wynebu gofalwyr di-dâl ledled y byd. Mae llawer o bobl yn darparu gofal a chefnogaeth ddi-dâl i aelod o'r teulu, partner, ffrind neu gymydog sydd â chyflwr iechyd neu anabledd hirdymor. Yn y Deyrnas Unedig yn unig, amcangyfrifir bod gwerth economaidd gofal di-dâl yn £184 biliwn.
Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau byd-eang hyn, mae’r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd yn arwain ar ddarn o waith ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau gofalwyr di-dâl ac yn llywio polisi cenedlaethol.
Mae'r Athro Gill Windle, Cyfarwyddwr Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru, yn egluro, “Mae’r ymchwil dan ni wedi ei wneud yn tynnu sylw at sefyllfa gofalwyr iau sydd efo rhiant neu nain neu daid sy’n dioddef efo dementia cynnar. Mae’r gofalwyr yma’n cael eu disgrifio fel gofalwyr “cudd” sy’n “anodd eu cyrraedd” ac mi fyddan nhw’n aml yn cael trafferth efo gorbryder, straen ac unigedd. Er mwyn ymateb i hynny, fe aethon ni ati i ddatblygu'r rhaglen gyntaf erioed i gael ei chynnig ar-lein sy’n cynnig cefnogaeth efo hunanofal a chefnogaeth i ddatblygu sgiliau. Enw’r rhaglen honno ydy 'iSupport i Bobl Ifanc'. Mae’r rhaglen wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol ac wedi cael ei chyfieithu i'w defnyddio yn yr Eidal, Sbaen a Brasil.”
Mae Dr Patricia Masterson Algar yn adeiladu ymhellach ar y llwyddiant hwn ac yn arwain ar ddarn o waith ymchwil newydd mewn partneriaeth â Dementia UK i ddatblygu'r rhaglen gyntaf erioed i gynnig cefnogaeth gan gyfoedion i bobl ifanc sy’n gofalu am bobl â dementia.
Gwrandewch ar Patricia yn trafod profiadau gofalwyr ifanc mewn teuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan ddementia ar y podcast Dementia Researcher.
Yn y cyfamser, mae ymchwil dan arweiniad Dr Diane Seddon, sy’n Ddarllenydd mewn Gofal Cymdeithasol, yn amlygu pa mor bwysig yw hi bod gofalwyr di-dâl yn cael mynediad at seibiannau byr wedi'u personoli i’w galluogi i fyw eu bywydau eu hunain ochr yn ochr â gofalu. Pen draw’r gwaith hwnnw oedd i Lywodraeth Cymru gyflwyno Cynllun Seibiannau Byr Cenedlaethol sy’n werth £12.5m i ddarparu seibiannau wedi eu personoli i ofalwyr di-dâl, ac mae mwy na 21,000 o ofalwyr yng Nghymru eisoes wedi elwa ar y cynllun.
Dywedodd Dr Seddon, “Dan ni’n cynnal gwerthusiad cenedlaethol o’r cynllun. Mae’r canfyddiadau rhagarweiniol yn awgrymu bod gofalwyr di-dâl yn dweud eu bod nhw’n teimlo bod ganddyn nhw fwy o gysylltiad cymdeithasol efo pobl eraill, eu bod nhw’n llai ynysig, eu bod yn teimlo’n fwy optimistaidd am y dyfodol ac yn teimlo eu bod nhw’n cael cefnogaeth, a’u bod nhw bellach yn gallu gofalu amdanyn nhw eu hunain.”
Ychwanegodd yr Athro Windle, “Yn aml, mae gofalu am rywun arall yn effeithio’n andwyol ar iechyd corfforol a meddyliol rhywun, ac yn effeithio ar amgylchiadau rhywun yn nhermau arian, amser hamdden a chymdeithasu. Ac eto mi fydd y rhan fwyaf o bobl yn ofalwyr ar ryw adeg yn ystod eu hoes. Mae ein hymchwil ni yn helpu gofalwyr sy'n wynebu'r digwyddiadau bywyd ofnadwy o anodd yma ac yn helpu i ddatblygu polisi cenedlaethol.”