#GraddioBangor: dyddiadau seremoniau, amserlen a gwybodaeth allweddol
Bydd y dolenni hyn yn fyw 9 Mawrth 2026
Cofrestru yma; Myfyriwr Presennol
Mae angen i'r holl fyfyrwyr sydd â hawl i ddod i'r Seremonïau Graddio roi gwybod i ni erbyn 30 Mawrth 2026 a fyddant yn dod i'r seremoni neu beidio. Dilynnwch y bwtwm 'Cofrestru Yma' (uchod)) o 9 Mawrth 2026 ymlaen er mwyn cofrestru.
Ni chaniateir i fyfyrwyr fynychu'r seremoni os nad ydynt wedi cofrestru eu presenoldeb erbyn 30 Mawrth 2026
Ar y diwrnod:
Mae'r holl Seremonïau'n cael eu dangos yn fyw ar wefan y Brifysgol felly gellir eu gwylio'n fyw.
Dylai myfyrwyr gyrraedd y Prif Ddarlithfa'r Celfyddydau o leiaf 90 munud cyn ddechrau'r seremoni i gofrestru eu presenoldeb,
Mae mynediad i'r seremoni ar gyfer pob gwestai DRWY DOCYN YN UNIG Nid oes ar fyfyrwyr angen tocyn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn hoffi dod â ffrindiau a theulu gyda nhw i'w seremoni raddio. Gan fod nifer y seddi yn Neuadd Prichard-Jones yn gyfyngedig, ni allwn warantu ond DAU DOCYN GWESTAI i bob myfyriwr os ydych yn eu prynu erbyn 30 Mawrth 2026. Dylid prynu tocynnau wrth gofrestru eich presenoldeb. (am gost o £15 yr un)
Os methwch â phrynu'ch tocynnau gwesteion erbyn 30 Mawrth 2026. ni allwn warantu y bydd eich gwesteion yn gallu bod yn bresennol yn y seremoni.
Gellir prynu tocynnau ychwanegol, (os ydynt ar gael), ar sail y cyntaf i'r felin ar 8 Mehefin 2026 drwy ddilyn y ddolen hon here
Mae tocynnau'n £15 y gwestai - bydd pob myfyriwr yn gyfyngedig i ddau docyn gwestai ychwanegol.
Mae tocynnau gwesteion ychwanegol ar gael ar gyfer y seremonïau canlynol:
6 Gorffennaf 2.30pm
7 Gorffennaf 10.30am a 2.30pm
8 Gorffennaf 10.30am a 2.30pm
9 Gorffennaf 2.30pm
10 Gorffennaf 10.30am
Mae'r seremonïau canlynol yn llawn.
Gall gwesteion ychwanegol wylio'r seremoni ar y ffrydiau byw yn Pontio PL5
6 Gorffennaf 10.30am
9 Gorffenna 10.30am
10 Gorffennaf 2.30pm
Os bydd y seremoni yn llawn – efallai y bydd tocynnau ychwanegol ar gael ar ddiwrnod y seremoni . Gofynnwch wrth y ddesg docynnau wrth gyrraedd.
Dim ond ar-lein y gellir archebu tocynnau
Ni anfonir y tocynnau atoch trwy’r post, byddant ar gael i’w casglu ar ddiwrnod eich seremoni o Brif Ddarlithfa’r Celfyddydau.
Casglu Tocynnau
Bydd holl docynnau gwesteion ar gael i’w casglu wrth y ddesg cofrestru myfyrwyr ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.
Mae'n rhaid i docynnau gael eu casglu o leiaf 30 munud cyn dechrau'r seremoni.
Ym Mhrifysgol Bangor mae graddio'n achlysur teuluol ac mae croeso i blant ddod i'r seremoni. Fodd bynnag, mae'n rhaid i oedolyn fod efo nhw. Mae'r seremonïau’n para oddeutu 90 munud ac rydym wedi gweld trwy brofiad bod plant yn diflasu a mynd yn aflonydd; felly nid ydynt yn addas i blant ifanc iawn. O ran parch at westeion eraill rydym yn gofyn am i blant gael eu hebrwng allan o'r neuadd os byddant yn mynd yn aflonydd yn ystod y seremoni rhag iddynt darfu ar y digwyddiadau a mwynhad gwesteion eraill.
Rhaid i blant dan 3 oed (dim mwy na dau i bob myfyriwr) eistedd ar lin oedolyn ac nid ar sedd. Nid oes angen tocyn arnynt. Rhaid i blant 3 oed a hŷn gael tocyn i westeion i gael mynd i'r seremoni.Os ydych yn dod â babi sy'n dal mewn pram neu goets fach i'r seremoni, a fyddech cystal â nodi hynny pan fyddwch yn prynu eich tocynnau. Gofynnir i chi p'un a ydyw unrhyw rai o'ch gwesteion angen unrhyw drefniadau arbennig. Ein cyngor yw i blant wylio'r seremoni o Brif Ddarlithfa'r Celfyddydau, lle nad oes angen tocynnau.
Gwesteion ychwanegol:
Mae croeso i chi ddod â gwesteion ychwanegol a gallant wylio’r seremoni a ddarlledir ar sgrin fawr mewn darlithfa gerllaw - nid oes angen tocynnau ar gyfer hyn.
Mae graddio yn achlysur ffurfiol ac mae gofyn i fyfyrwyr wisgo gwisg academaidd.
Mae'r wisg yn cael ei harchebu drwy Ede and Ravenscroft fan yma o 9 Mawrth 2026 ymlaen Gwisg Academaidd. Dyddiad cau i archebu ar-lein yw 21 Mehefin 2026
Mae'r dyddiadau ar gyfer Seremoniau yr HAf wedi'u cadarnhau fel 6 - 10 Gorffennaf 2026
Bydd Myfyrwyr rhyngwladol sydd angen llythyr fisa ar gyfer eu gwesteion yn gallu trefnu hyn wrth archebu tocynnau gwestai ar lein yn mis Hydref.
| Diwrnod | Dyddiad | Ysgol |
| Llun | 6 Gorffennaf | |
1 | 10.30 am | Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau (holl) Ysgol Y Gymraeg (holl) Addysg (graddau israddedig) |
2 | 2.30 pm | Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas (graddau ôl-raddedig ac ymchwil) Cyfrifiadureg a Pheirianneg (holl) |
Mawrth | 7 Gorffennaf | |
3 | 10.30 am | Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas (graddau israddedig) Addysg (graddau ôl-raddedig ac ymchwil) |
4 | 2.30 pm | Gwyddorau Iechyd (holl) |
Mercher | 8 Gorffennaf | |
5 | 10.30 am | Ysgol Busnes Bangor (graddau israddedig) |
6 | 2.30 pm | Ysgol Busnes Bangor (graddau ôl-raddedig ac ymchwil) |
Iau | 9 Gorffennaf | |
7 | 10.30 am | Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon (graddau israddedig) Ysgol Feddygol Gogledd Cymru (holl) |
8 | 2.30 pm | Gwyddorau Eigion (holl) Gwyddorau Amgylcheddol Naturiol (graddau ôl-raddedig ac ymchwil) |
Gwener | 10 Gorffennaf | |
9 | 10.30 am | Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon (graddau ôl-raddedig ac ymchwil)
Gwyddorau Amgylcheddol Naturiol (graddau israddedig) |
10 | 2.30 pm | Gwyddorau Amgylcheddol Naturiol (graddau israddedig) |
Hysbysiad Preifatrwydd Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor
Gwybodaeth ddefnyddiol
Prifysgol Bangor yw'r Rheolydd Data ar gyfer data personol a brosesir mewn cysylltiad â seremonïau graddio.
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol yn:
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol
Gwasanaethau Cyfreithiol a Chydymffurfio
Prifysgol Bangor
Ffordd y Coleg
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
E-bost: info-compliance@bangor.ac.uk
Mae'r hysbysiad hwn yn egluro sut fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio mewn cysylltiad â seremonïau graddio Prifysgol Bangor.
I weld gwybodaeth am sut mae Prifysgol Bangor yn prosesu data personol yn fwy cyffredinol, cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd y Brifysgol i Fyfyrwyr, sydd ar gael ar wefan Prifysgol Bangor.
Y wybodaeth rydym yn ei chasglu a’i defnyddio
Mae Prifysgol Bangor yn defnyddio gwybodaeth bersonol o'i systemau cofnodion myfyrwyr i drefnu a chyflwyno seremonïau graddio.
Gall hyn gynnwys:
Eich enw
Manylion myfyriwr a manylion cyswllt
Rhaglen astudio
Manylion y dyfarniad a'r dosbarthiad
Defnyddir y wybodaeth hon i wneud y canlynol:
Eich gwahodd i fod yn bresennol yn eich seremoni graddio
Rheoli trefniadau'r seremonïau
Cynhyrchu rhaglenni graddio
Cadarnhau a dathlu llwyddiannau academaidd
Gan fod seremonïau graddio’n ddigwyddiadau cyhoeddus:
Efallai y bydd eich enw a manylion y dyfarniad yn cael eu cyhoeddi yn ystod y seremoni.
Gall manylion eich enw, eich rhaglen a’ch dyfarniad ymddangos yn y rhaglen raddio swyddogol.
Gellir tynnu lluniau a recordiadau fideo yn ystod y seremonïau. Gall y delweddau a'r recordiadau hyn gael eu defnyddio yng nghyhoeddiadau'r Brifysgol, gan gynnwys ar ein gwefan ac ar ein sianeli swyddogol ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd seremonïau’n cael eu ffrydio’n fyw, byddant ar gael i’r cyhoedd, a chânt eu recordio er budd graddedigion, gwesteion ac unigolion na allant fod yn bresennol yn y cnawd.
Rheolir trefniadau gwisg academaidd gan Ede & Ravenscroft, a gellir rhannu gwybodaeth bersonol berthnasol gyda nhw at y diben hwn.
Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu
Mae Prifysgol Bangor yn prosesu data personol at ddibenion seremonïau graddio fel rhan o'i thasg gyhoeddus fel sefydliad addysg uwch a, lle bo'n briodol, wrth ddilyn ei buddiannau dilys mewn dathlu llwyddiannau myfyrwyr, cynnal cofnodion sefydliadol, galluogi cyfranogiad mewn seremonïau, a hyrwyddo gweithgareddau'r Brifysgol.
Gyda phwy rydym yn rhannu'r wybodaeth hon
Gellir rhannu eich gwybodaeth gyda’r canlynol:
Staff Prifysgol Bangor sy'n ymwneud â threfnu a chyflwyno seremonïau graddio
Ede & Ravenscroft at ddibenion darparu gwisg academaidd
Darparwyr gwasanaethau ffotograffiaeth, ffilmio a digwyddiadau swyddogol sy'n gweithredu ar ran y Brifysgol
Gwesteion sy'n bresennol yn y seremoni ac unigolion sy'n gwylio cynnwys wedi'i ffrydio'n fyw neu wedi'i recordio lle mae enwau, delweddau neu fanylion dyfarniadau’n rhan o'r seremoni gyhoeddus
Mae'n ofynnol i bob cyflenwr trydydd parti drin data personol yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol.
Eich hawliau
Mae gennych hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad at eich data personol, gofyn am gywiriad i wybodaeth anghywir, gwrthwynebu gweithgareddau prosesu penodol, a, lle bo’n berthnasol, gofyn am gyfyngiad neu i ddileu eich data personol.
I arfer eich hawliau neu i godi unrhyw bryderon, cysylltwch â’r canlynol:
Rhagor o wybodaeth
Nid oes rhaid bod yn bresennol yn y seremoni graddio, ac nid yw'n ofynnol i dderbyn eich dyfarniad.
Os oes gennych bryderon ynghylch cyhoeddi eich enw, ffotograffiaeth, ffilmio neu ffrydio byw neu unrhyw fater arall sy'n gysylltiedig â thrin eich data personol o ran seremonïau graddio, cysylltwch â'r Tîm Graddio ymlaen llaw i drafod trefniadau priodol – graddio@bangor.ac.uk
Os ydych yn anfodlon â sut mae eich data personol wedi cael ei drin, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Prifysgol Bangor neu gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Cyfle i longyfarch ein Graddedigion a rhannu eich dathliadau Graddio.
Defnyddiwch #GraddioBangor a #PrifysgolBangor ar Instagram - gall eich cynnwys ymddangos yma.
WEDI I CHI RADDIO
Arolwg Hynt Graddedigion
Ar ôl i chi raddio o Brifysgol Bangor, byddwch yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yn arolwg cymdeithasol blynyddol mwyaf y Deyrnas Unedig – yr Arolwg Canlyniadau Graddedigion, 15 mis ar ôl i'ch cwrs ddod i ben.
Wedi'i lansio yn 2018, mae'r arolwg cenedlaethol hwn yn casglu mewnwelediadau i gyrchfannau a phrofiadau graddedigion.
Mae eich ymateb yn helpu myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus ac yn caniatáu inni werthuso a hyrwyddo ein cyrsiau. Mae'r arolwg yn cymryd 10 munud i'w gwblhau ar-lein ac mae ar gael ar unrhyw ddyfais.
Sicrhau bod eich manylion cyswllt yn gywir
Mae angen i'r brifysgol gadw manylion cyswllt personol cyfredol er mwyn i'r tîm Canlyniadau Graddedigion allu cysylltu â chi gyda’r arolwg. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhannu’r canlynol gyda ni:
- Cyfeiriad e-bost personol
- O leiaf un rhif ffôn uniongyrchol
- Cyfeiriad post cartref (gall hwn fod yn gyfeiriad rhiant/gwarcheidwad)
diweddaru eich manylion cyswllt
Bydd yr arolwg yn cael ei gyflwyno gan y tîm Canlyniadau Graddedigion sy'n rhan o'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ar ran y cyrff ariannu a rheoleiddio addysg uwch a darparwyr addysg uwch. Mae'r cyrff ariannu a rheoleiddio’n comisiynu'r arolwg Canlyniadau Graddedigion ac yn ei gwneud yn ofynnol i HESA a darparwyr addysg uwch gydweithio i gyflawni'r arolwg. Mae HESA wedi cyhoeddi gwybodaeth preifatrwydd i fyfyrwyr ynghylch sut y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio.
Unrhyw ymholiad?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi anfon e-bost atom neu gallwch ymweld â Thudalen we Canlyniadau Graddedigion.
Agor Eich Cyfrif Graddedig
Os ydych angen cefnogaeth i wneud y naid o’r Brifysgol i’r byd Gwaith, mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yma i’ch helpu ar ôl graddio!
Fel myfyriwr graddedig newydd o Brifysgol Bangor, bydd angen i chi agor eich cyfrif Graddedig i barhau i gael mynediad at CyswlltGyrfa.
sut gall y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd helpu
Newyddion Graddio
Dillad Graddio a Rhoddion Swyddogol
Rwyt ti wedi cael y radd, dim ond prynu'r crys-t sydd ei angen! Rydym wedi ymuno â Campus Clothing i ddarparu ystod unigryw o nwyddau i'n graddedigion. O hwdis a chrysau-t moethus gydag enwau graddedigion wedi'u hargraffu ar y cefn, i fygiau, tedis graddio, a bathodynnau pin. Dewiswch rywbeth arbennig i'w gadw i gofio am eich amser ym Mhrifysgol Bangor.
Sut i Brynu Dillad Graddio a Rhoddion Swyddogol
Dewch i ymweld â stondin fflach Campus Clothing yn eich seremoni raddio, lle bydd detholiad o nwyddau graddio ar gael i'w prynu. Bydd yr holl stoc ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. Gallwch hefyd archebu eitemau yr hoffech eu personoli yn y digwyddiad, a byddant yn cael eu postio i'ch cyfeiriad cartref, ledled y byd!
Porwch drwy’r ystod lawn o nwyddau graddio Prifysgol Bangor yn ein Siop Graddio Ar-lein Swyddogol. Yma, gallwch archebu a phersonoli nwyddau graddio i'w gwneud yn gwbl unigryw i chi. Gall archebion a osodir ar-lein gael eu danfon ledled y byd, felly peidiwch â phoeni os na allwch gyrraedd eich seremoni raddio.
Peidiwch â phoeni, mae hwdis a chrysau-t gydag enwau graddedigion wedi'u hargraffu ar y cefn yn dal i fod ar gael i holl raddedigion y gorffennol trwy ein Siop Graddio Ar-lein Swyddogol.
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG