llyn o dyn yn drigo mynydd hefo tri  copaon i cyraedd, mewn tywydd eira

CYFFURIAU AC ALCOHOL

Mae cymdeithasu’n elfen fawr o fywyd prifysgol, ac yn aml mae yfed alcohol yn rhan o hynny. Os ydych chi'n mynd allan ac yn cael ychydig o ddiodydd, dyma rai awgrymiadau ar gyfer mwynhau'r noson: 

 

 

 

Mae bwyd yn helpu i arafu amsugniad alcohol, ac yn ei atal rhag mynd i’ch pen yn rhy gyflym. Carbohydradau a phrotein yw’r pethau gorau y gallwch eu bwyta cyn mynd allan. Byddwch hefyd yn arbed ychydig o bunnoedd trwy osgoi prynu cebab ddiwedd y nos …wel efallai!

Mae yfed pedwar diod safonol ar un achlysur yn fwy na dyblu’r risg o gael anaf yn yr oriau nesaf. Mae’r risg yn cynyddu’n gyflymach os ydych yn yfed mwy na phedwar diod ar un achlysur. Mae pawb o wahanol faint ac mae faint o alcohol y gallwn ddygymod ag ef yn amrywio, peidiwch â cheisio dal i fyny â phobl eraill.

Peidiwch â gadael i unrhyw un roi pwysau arnoch i yfed mwy neu yfed yn gyflymach, a Pheidiwch â bod yn ffrind gwael, os gofynnodd eich ffrind am fesur sengl yna peidiwch â rhoi mesur dwbl iddynt!

Gall yfed alcohol yn gyflym wneud i chi anghofio faint rydych wedi’i yfed a bydd yn gwneud i chi feddwi’n gyflymach felly cadwch at un ddiod neu lai bob awr ac osgowch gemau yfed. Ceisiwch yfed diodydd alcoholig a di-alcohol bob yn ail.

Os ydych yn cael eich hun ar eich pen eich hun ac yn teimlo’n anniogel ffoniwch 999 neu staff Diogelwch y Brifysgol ar 01248 382795 i gael cyngor a chymorth.

Gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn ysgrifennu rhifau cyswllt argyfwng ar ddarn o bapur.

Os na allwch ddefnyddio’ch ffôn mwyach gallwch bob amser ddefnyddio ffôn arall. Gallech ofyn i staff mewn unrhyw siop neu fan arlwyo sy’n agored.

Gwnewch yn siŵr fod eich ffôn symudol wedi’i wefru a bod credyd arno.

Cadwch rywfaint o arian 'argyfwng' ar wahân rhag ofn y byddwch ei angen. 

Peidiwch â gadael i neb ddwyn pwysau arnoch, na rhoi pwysau ar eich ffrindiau i yfed mwy nag y dymunant.

Byddwch yn ymwybodol o symptomau sbeicio diodydd. Cofiwch y gallwch chi ofyn wrth y bar am gaead i ddiodydd. 

Dyma rai o’r symptomau: Anhawster canolbwyntio, golwg aneglur, colli cof, cyfog / chwydu, paranoia, colli ymwybyddiaeth.

 

Gall cael eich diod wedi’i sbeicio ag ALCOHOL NEU GYFFURIAU eich gwneud yn agored i niwed. Efallai na fyddwch yn sylwi bod blas gwahanol ar eich diod ond gall yr effeithiau fod yn ddifrifol. Os ydych yn amau bod eich diod chi, neu ddiod rhywun arall wedi cael ei sbeicio, dywedwch wrth rywun rydych yn ymddiried ynddynt cyn gynted â phosibl. Siaradwch â staff y lleoliad, gofynnwch i’ch diod gael ei brofi. Os bydd eich cyflwr yn gwaethygu rhaid cael sylw meddygol.

  • Gwyliwch eich Diod bob amser a pheidiwch â’i adael heb fod rhywun yn cadw llygad arno.
  • Cadwch lygad ar ddiodydd eich ffrindiau.
  • Os byddwch yn sylwi ar rywun yn rhoi rhywbeth i mewn i ddiodydd rhywun arall, rhowch wybod iddyn nhw.
  • Ffordd syml o amddiffyn eich diod yw cadw eich bawd dros ben y botel neu’ch llaw dros ben eich gwydr.
  • Gofynnwch wrth y bar am orchudd i’ch diod.
  • Peidiwch â derbyn diodydd gan ddieithriaid.

Cynlluniwch eich taith adref a theithiwch mewn grwpiau. Archebwch dacsi ymlaen llaw - Defnyddiwch dacsis trwyddedig yn unig

Oes rhywun yn eich dilyn? Teimlo’n anghyfforddus? Angen help ar eich noson allan? Yna gofynnwch am ‘Angela’.

Bydd staff y bar yn gwybod bod angen help arnoch a byddant yn helpu mewn unrhyw ffordd y gallant, heb wneud ffws! Os yw rhywbeth yn ymddangos braidd yn rhyfedd, yna siaradwch â’r staff.

Syniad da o ran cadw'n hydradol a pheidio ag yfed gormod.

Os ydych chi'n poeni eich bod chi neu rywun arall yn yfed yn ormodol, mae digon o help ar gael. Mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan

Os nad ydych yn siŵr pwy i gysylltu â nhw, gallwch e-bostio Gwasanaeth Llesiant y Brifysgol i holi am y gefnogaeth sydd ar gael - gwasanaethaulles@bangor.ac.uk

Cefnogi

Gwasanaeth lleol wedi'i leoli yng Nghanolfan Abbey Road, Ffordd Farrar, Bangor

Ffôn:0345 06 121 12

"Mae CAIS yn darparu ystod o wasanaethau effeithiol ac ymyrraeth ac wrth weithio gydag eraill i atal niweidiau o achos alcohol neu gyffuriau fel gall unigolion a chymdeithasau gwneud y gorau o'i potensial cymdeithasol, iechyd ac economaidd."

Codi ymwybyddiaeth alcohol. 

Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth i'r rheini sy'n chwilio am help gyda phroblemau yfed.

Ffon: 0800 917 8282

Mae Drinkline yn rhoi gwybodaeth a chyngor cyfrinachol ac yn medru eich rhoi mewn cysylltiad gydag eich canolfan cynghori lleol sy'n gallu eich helpu gyda phroblemau alcohol ar sail un-i-un. Mae Drinkline yn croesawi alwadau oddi wrth bobl sy'n pryderi am yfed rhywun arall.

Wales Drug and Alcohol Helpline 0808 808 2234
Help a chyngor am ddim i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau mwy o wybodaeth a help yn ymwneud gyda chyffuriau neu alcohol.
Mae'r llinell gymorth ddwy-ieithog hon ar agor 24 awr y dydd am 7 diwrnod o'r wythnos ac mae galwadau o linellau ffon (ac eithrio ffonau symudol). Ynghyd â chynnig cyngor os oes angen arnoch fwy o gefnogaeth, gall y gwasanaeth yma eich rhoi mewn cyswllt gyda gwasanaethau lleol.

Adnodd iechyd meddwl a llesiant i fyfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg yw Myf.Cymru ac mae ganddynt offer a gwybodaeth ddefnyddiol gan gynnwys:   

Gallwch hefyd ddilyn Myf.Cymru ar Instagram neu TikTok am y newyddion diweddaraf ac awgrymiadau ynglŷn ag iechyd meddwl a llesiant. 

Eisiau cymdeithasu mewn amgylchedd di-alcohol? 

Mae Campws Byw’n cynnal gweithgareddau wythnosol di-alcohol ac mae llawer o weithgareddau gan glybiau a chymdeithasau Undeb Bangor hefyd yn ddi-alcohol ac yn digwydd mewn llefydd di-alcohol. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan, edrychwch ar eu gwefannau: 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?