Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio y Gyfraith
Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni'r Gyfraith yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.
Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.
Llongyfarchiadau ar gael eich lle i astudio efo ni yma ym Mhrifysgol Bangor.
Fy enw i ydi Lois a dwi'n ddarlithydd y Gyfraith ym maes cyfraith trosedd. Wrth astudio efo ni chewch fynediad at gyfleusterau gwych gan gynnwys y ffug lys a'r clinig cyfreithiol lle gewch gyfle ymchwilio a rhoi eich barn ar faterion cyfreithiol a chynghori aelodau o'r cyhoedd.
Dwi'n edrych ymlaen at eich croesawu chi yma.
Cwestiynau Cyffredin
Bydd wythnos arferol ar y campws yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd mewn grŵp mawr, seminarau llai yn seiliedig ar drafodaeth, a thiwtorialau personol. Gallwch ddisgwyl ategu eich astudiaethau yn y dosbarth trwy hunan-astudio, lle byddwch yn gweithio tuag at gwblhau aseiniadau, paratoi at ddosbarthiadau, a gwneud gwaith darllen a argymhellir/darllen pellach.
Does dim rhestr darllen cyn i chi ymuno â ni ym mis Medi, ond efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn gwylio rhai rhaglenni teledu, gwrando ar lyfrau sain a phodlediadau sy'n ymdrin â gwahanol feysydd y Gyfraith.
Gallwch ddisgwyl amserlen sy’n cynnwys 12-15 o oriau cyswllt ar y campws. Bydd hyn yn cynnwys darlithoedd wedi eu hamserlennu, seminarau, a/neu diwtorialau. Bydd disgwyl i chi baratoi at y sesiynau hynny trwy gwblhau'r gwaith darllen a argymhellir ac ymgymryd ag unrhyw dasgau eraill sydd wedi eu gosod.
Mae blwyddyn gyntaf gradd yn y gyfraith fel arfer yn eich cyflwyno i'r cysyniadau ac egwyddorion cyfreithiol sylfaenol. Byddwch yn astudio pynciau megis Cyfraith, Cyfiawnder a Gweithdrefnau (cyflwyniad i System Gyfreithiol Cymru a Lloegr), Cyfraith Contract, Cyfraith Trosedd, Sgiliau Cyfreithiol a Chyfraith Gyhoeddus. Bydd y cyrsiau hyn yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer eich blynyddoedd astudio dilynol.
I baratoi cyn dechrau ar eich gradd yn y Gyfraith, gallwch ddarllen yn eang trwy archwilio newyddion cyfreithiol, darnau barn a thestunau clasurol. Gallwch hefyd ymarfer eich sgiliau meddwl beirniadol trwy gymryd rhan mewn dadleuon, trafodaethau ac ymarferion dadansoddol. Byddai darllen ynghylch eich maes diddordeb yn fuddiol, gan y byddwch yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth fwy trylwyr o'r pwnc cyn dechrau eich astudiaethau.
Rydym wedi cael blwyddyn brysur, o efelychiadau llys i fewnwelediadau cyfreithiol byd-eang. Dyma gipolwg ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar.
Blog Y Gyfraith Caryl
Mae Prifysgol Bangor yn opsiwn perffaith oherwydd bod y darlithwyr yn angerddol iawn am y pwnc maent yn ei addysgu. Mi roedd yr opsiwn i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a chael addysg mewn grwpiau tiwtorialau bach, cartrefol a cyfeillgar yn fy nenu i Fangor.
Roedd y profiad yn dda iawn ac fe ges i’r cyfle i gwrdd â myfyrwyr o’r Almaen a Gwlad Pwyl. Mi wnes i ddysgu am faterion fel digartrefedd a’r ffordd y roedd gwahanol wledydd yn ymdrin â’r pwnc. Yn ystod y trip ges i gyflwyno am ddigartrefedd yn y Deyrnas Unedig a’r polisïau gwahanol sydd yma. Cefais hefyd ymweld ag ysgolion lleol, ble roedd systemau cadarn mewn lle i gefnogi plant a phobl ifanc, oedd hi’n brofiad diddorol iawn.
Fe wnaeth y profiad o weithio yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol roi’r cyfle i mi helpu pobl mewn sefyllfaoedd gwirioneddol a chael profiad o ysgrifennu llythyrau.
Yn y dyfodol, rydw i’n sicr eisiau defnyddio’r radd a gweithio yn y maes cyfreithiol. Ar hyn o bryd, rwyf yn gweithio gyda Menter Môn ac mae’r profiad wedi bod yn un gwerthfawr i mi.
Cwrdd rhai o'ch darlithwyr
Tracey Horton
Cefais fy mherswadio gan un o fy narlithwyr Lefel A i fynd i'r brifysgol a chymhwyso fel cyfreithiwr. Roeddwn i’n fyfyriwr prifysgol cenhedlaeth gyntaf ac felly roedd hwn yn gam mawr i mi.
Wrth redeg y Clinig Cyngor Cyfreithiol rydym yn delio â rhan fwyaf o feysydd y gyfraith ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gymuned leol.
Mae'r clinig wedi cael cefnogaeth aruthrol gan y gymuned leol sy'n gwneud fy swydd yn llawer haws. Wrth gwrs mae mynediad at draethau a mynyddoedd hardd hefyd yn fonws.
Meddwl am brofiad gwaith o'r diwrnod cyntaf. Peidiwch â'i adael tan eich blwyddyn olaf.
Un o'r uchafbwyntiau yn bendant yw cyfarfod â'r Arglwyddes Hale yn un o ddigwyddiadau LawWorks. Roedd y myfyrwyr wrth eu boddau hefyd. Dynes wirioneddol ysbrydoledig.
Dr Natasha Hooker
Mae'r gyfraith yn bwnc heriol a difyr iawn oherwydd ei fod yn datblygu’n barhaus. Mae hyn yn cadw'r pwnc yn ddiddorol ar ôl gorffen astudio yn y brifysgol gan eich bod yn gallu gweld ei ddatblygiad mewn bywyd bob dydd!
Mae'r grwpiau dysgu llai yn galluogi darlithwyr i ddatblygu perthynas waith dda gyda'r myfyrwyr. Mae hyn yn arwain at ddarlithwyr yn dod i adnabod arddulliau dysgu unigol ac anghenion myfyrwyr.
Grym a hyblygrwydd rhaglenni gradd cydanrhydedd! Trwy astudio fel hyn, rydych yn gallu symud ymlaen i yrfa gyfreithiol, ac ehangu eich rhagolygon gyrfa ar yr un pryd!
Peidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar dasgau heriol a dysgu o'ch camgymeriadau.