Fy ngwlad:

Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr

Archwiliwch beth sy'n gwneud Prifysgol Bangor yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis Cymraeg ym Mangor yn ddechrau taith gyffrous. Mae astudio ym Mangor yn golygu dysgu gan arbenigwyr angerddol sy'n rhoi eich llwyddiant chi yn gyntaf. Yma, byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau i lunio'ch gyrfa gyda hyder.

Eich Hyb Ymgeiswyr yw eich lle i fynd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwiliwch beth sy'n aros amdanoch chi a dechreuwch gynllunio'ch dyfodol heddiw.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Cymraeg

Mae ein cyrsiau yn cael eu harwain gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerddol.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.  

Gwyliwch ein fideo

Elis Dafydd - Darlithydd yn y Gymraeg
Fideo: Elis Dafydd - Darlithydd yn y Gymraeg (Hyb Ymgeiswyr)

Dr Elis Dafydd ydi fy enw i, dwi'n Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. 

Mi fysa dod yma i astudio'r Gymraeg efo ni yn ddewis ardderchog. O ran swyddi ac o ran cyflogadwyedd yn y lle cyntaf, mae'r sgiliau y byddwch chi yn eu magu a’u meithrin wrth astudio Cymraeg yn mynd i fod yn sylfaen ardderchog ar gyfer pa bynnag yrfa y byddech chi yn dewis ei dilyn ar ôl graddio. Dwi wastad yn deud: gyda gradd yn y Gymraeg o Fangor mi fedrwch chi neud unrhyw beth. 

Yn ail, hefyd, dw i yn sicr y byddwch chi wrth eich bodd efo'r cwrs. Mae'r dewis o fodiwlau sydd gennym yn eang ofnadwy, yn rhai galwedigaethol, yn rhai llenyddol, a rhai creadigol. Mi gewch chi gyfle i ddilyn eich diddordebau, mi gewch chi gyfle i ddarganfod pethau, syniadau, llyfrau, llenyddiaeth newydd, pethau fydd yn eich cyffroi a'ch ysbrydoli chi. 

Ac yn olaf, ac yn bwysig iawn hefyd, dan ni'n adran fach gartrefol, mae yna deimlad cryf o gymuned yma: mae pawb yn nabod ei gilydd ac yn edrych ar ôl ei gilydd. Os dewch chi yma i astudio Cymraeg ym Mangor mi gewch chi sylw arbenigol a sylw unigol. 

Dan ni'n edrych ymlaen at eich gweld chi yn fuan.

PROFIAD LILI JONES O ASTUDIO YN YR YSGOL GYMRAEG 

Mae Lili Jones yn astudio yn yr Ysgol Gymraeg.

"Doeddwn i ddim yn siwr os oeddwn i eisiau gwneud Cymraeg fel gradd cyn dod i’r brifysgol ond nes i sylwi ar y cyfleoedd ges i trwy pêl-droed yn gwneud cyfweliadau a chymryd rhan mewn rhaglenni dogfen ar S4C, nes i sylwi mae’r Gymraeg hefo gymaint o gyfleoedd. Dyna wnaeth dynnu fi i mewn i’r pwnc i gychwyn. Ond ers hynny dwi wedi dysgu gymaint. Dw i wedi dysgu am Gymraeg y canol oesoedd, dwi’n dysgu am llenyddiaeth dwi erioed wedi gweld o’r blaen ac mae hynny wedi cymryd fy niddordeb.

Dwi’m yn meddwl oeddwn i’n hollol siwr am Fangor cyn dod yma ond dwi wedi mwynhau bob munud yma, o’r darlithoedd, i fod allan hefo ffrindiau fi, i fyw yma. Yndi, mae o’n class o le!"

Fideo: Proffil myfyriwr - Lili Jones

Lili dwi, ond ella bod chi’n fy adnabod i o...Lili Jones yn derbyn, yn ergydio...o ‘na chi gôl! Lili Jones o bell. Lili Jones! Am daran o ergyd o bellter! Up the town!

Lili Mai Jones dwi o Wrecsam a dwi’n astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth. Doeddwn i ddim yn siwr os oeddwn i eisiau mynd i’r brifysgol ond gan fy mod yn chwarae pêl-droed i Wrecsam, doeddwn i ddim yn gallu bod yn rhy bell o gartref. Felly Bangor oedd lle roeddwn i eisiau bod. Digon pell o adref ond yn gallu mynd yn ôl hefyd i sesiynau ymarfer.

Doeddwn i ddim yn siwr os oeddwn i eisiau gwneud Cymraeg fel gradd cyn dod i’r brifysgol ond nes i sylwi ar y cyfleoedd ges i trwy pêl-droed yn gwneud cyfweliadau a chymryd rhan mewn rhaglenni dogfen ar S4C, nes i sylwi mae’r Gymraeg hefo gymaint o gyfleoedd. Dyna wnaeth dynnu fi i mewn i’r pwnc i gychwyn. Ond ers hynny dwi wedi dysgu gymaint. Dw i wedi dysgu am Gymraeg y canol oesoedd, dwi’n dysgu am llenyddiaeth dwi erioed wedi gweld o’r blaen ac mae hynny wedi cymryd fy niddordeb.

Dwi’n siarad Cymraeg bob dydd rwan. Pryd oeddwn i adref yn Wrecsam, roeddwn i’n siarad lot o Saesneg. Doeddwn i ddim yn cael y cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith bob dydd. Mae Bangor wedi helpu fi hefo hynny. Dwi’n siarad Cymraeg normal hefo fy ffrindiau bob dydd ond dwi hefyd yn cael hwb gan ddarlithwyr ar sut i ysgrifennu traethodau a meddwl am sut dwi’n ysgrifennu yn y Gymraeg hefyd.

Dwi’n caru chwarae pêl-droed a dwi hefyd yn caru’r Gymraeg. Mae Nain yn dweud bod fy nghyfweliadau pêl-droed yn mynd yn well ac yn well. Mae dod i Fangor wedi dangos i fi fod yna gymaint mwy ti’n gallu gwneud hefo gradd yn y Gymraeg. Mae’n radd cŵl i astudio!

Dwi wedi gwneud ffrindiau oes yma. Mae nhw’n dod i wylio gemau pêl-droed fi, a mae nhw efo fy nghefn i trwy bopeth. Mae byw bywyd ym Mangor yn class, mae pawb yn siarad Cymraeg yma! Mae o’n od i fi, mynd i’r siop cebab ar ddiwedd noson allan ac mae’r boi tu ôl i’r cownter yn siarad Cymraeg, mae o mor od i mi! Ond ia, dwi’n rili mwynhau fy hun yma!

Dwi’m yn meddwl oeddwn i’n hollol siwr am Fangor cyn dod yma ond dwi wedi mwynhau bob munud yma, o’r darlithoedd, i fod allan hefo ffrindiau fi, i fyw yma. Yndi, mae o’n class o le!

Lois Erin Jones

Lois Erin Jones Mae’r cwrs wedi agor fy llygaid i’r holl gyfleoedd sydd ar gael

Mae Lois yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor

Pam wnaethoch chi ddewis astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor?
"Fe wnes i ddewis astudio’r Gymraeg ym Mangor gan fod awyrgylch gartrefol a chefnogol iawn yn Adran y Gymraeg. Sylweddolais bod astudio’r Gymraeg yn agor cymaint o ddrysau, a gan fod y Brifysgol mewn ardal Gymraeg, roeddwn yn hyderus y byddai astudio’r Gymraeg yma yn brofiad gwych."

Pe gallech chi roi un darn o gyngor i fyfyrwyr sy'n ystyried astudio Cymraeg, beth fyddai?
"Mae astudio’r Gymraeg fel gradd yn wahanol iawn i Gymraeg TGAU/Lefel A – mae cymaint mwy o feysydd i’w hastudio ac fe allwch ddewis pa agweddau i ganolbwyntio arnynt yn ddibynnol ar beth rydych chi’n ei fwynhau. Yn syml, fy nghyngor i ydi – ewch amdani!"

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ffôn symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Sut i wneud ffrindiau cyn cychwyn yn y Brifysgol?

Byddwch yn gallu ymuno ag ymgeiswyr eraill a dod yn rhan o gymuned Bangor cyn cyrraedd hyd yn oed! Byddwch yn gallu cofrestru i ymuno â 'Campus Connect' pan fydd yr ap yn mynd yn fyw ym mis Chwefror. Yn yr ap, bydd modd gofyn cwestiynau, sgwrsio gyda myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau ag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn y llety o'ch dewis. Cewch wahoddiad i ymuno â'r ap dros e-bost, a chewch hefyd rif adnabod Prifysgol Bangor, y byddwch ei angen i gofrestru.

Dewch i gael blas ar ein cymuned glos

Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr

Angharad Price.jpg

Yr Athro Angharad Price

Wrth fy modd yn darllen ac astudio llenyddiaeth, a hefyd ysgrifennu'n greadigol.

Mae ysgrifennu creadigol yn broses o ddarganfod a gweld pethau o'r newydd, felly dydi'r gwaith bydd yn ddiflas nac yn ailadroddus. Mae'n antur bob tro.

Cael bod yng nghwmni'r myfyrwyr yn dysgu a siarad a chreu.

Mae 'na gymuned wych o fyfyrwyr o bob math ym Mangor ac mae'r Gymraeg yn rhan ganolog o holl fywyd y Brifysgol a'r ardal o'i chwmpas.

Dwi'n credu bod gan bawb y gallu i sgwennu'n greadigol. Mater o fynd amdani ydi hi. Mae'n broses o ddarganfod. 

Jerry Hunter

Yr Athro Jerry Hunter

Fel Americanwr, bu darganfod llenyddiaeth Gymraeg America yn agoriad llygad i mi: roedd yn anhygoel dysgu bod cymaint o lenyddiaeth Gymraeg wedi'i chyhoeddi yn yr Unol Daleithiau yn ystod y 19ganrif.

Mae'n ddiddorol iawn gweld sut mae'r traddodiad llenyddol Cymraeg wedi ymaddasu yn wyneb sawl her yn ystod ei hanes hir.

Mae astudio llenyddiaeth a dadansoddi iaith yn eich darparu â sgiliau gwych sy'n ddefnyddiol mewn nifer o gyd-destunau bob dydd - wrth ddatrys problemau neu wrth feddwl yn greadigol am unrhyw beth.

Manteisio'n llawn ar yr holl adnoddau - academaidd a chymdeithasol - sydd ar gael yn y Brifysgol. Yr un peth felly yw sicrhau'ch bod chi'n gwybod am yr holl bethau sydd ar gael i chi yma ym Mangor.

Cyffrous - Cyfoes - Cyfoethog. 

Pam Dewis Prifysgol Bangor?

Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol

Pam Dod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr?

Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr. Bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi - cewch fynd i sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc.

Darganfod Mwy

Cofrestru Nawr

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd

Eich camau nesaf