Fy ngwlad:

Rydym Ni'n Bobol Go Iawn

Rydym wrth ein bodd eich croesawu i'n cymuned. Ym Mangor rydym yn gwneud pethau'n wahanol. Y tu ôl i bopeth a wnawn mae tîm o bobl go iawn sydd yma i wrando, rhoi arweiniad i chi a'ch cefnogi, os oes gennych gwestiwn, rydym wir eisiau i chi gysylltu â nil.

Gallwch gysylltu â'n timau cyfeillgar derbyniadau a phynciau drwy Unibuddy e-bostio neu ffonio, a byddwn yn ymateb yn gyflym. Mae croeso i rieni, gofalwyr a chefnogwyr gysylltu â ni hefyd.

Ydi’n well gennych chi edrych ar bethau yn eich amser eich hun? Mae gennym hefyd adran Cwestiynau Cyffredin glir a chyfredol lle gallwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin. 

Sut bynnag y byddwch chi'n dewis cysylltu, mi gewch chi hyd i bobl go iawn ym Mangor sydd wir eisiau eich helpu chi i wneud penderfyniadau hyderus am eich dyfodol. Siaradwch efo ni nawr!

Ymweld â'r Hwb Cymorth

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ffôn symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Ymunwch â 'Campus Connect'

Byddwch yn gallu ymuno ag ymgeiswyr eraill a dod yn rhan o gymuned Bangor cyn cyrraedd hyd yn oed! Byddwch yn gallu cofrestru i ymuno â 'Campus Connect' pan fydd yr ap yn mynd yn fyw ym mis Chwefror. Yn yr ap, bydd modd gofyn cwestiynau, sgwrsio gyda myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau ag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn y llety o'ch dewis. Cewch wahoddiad i ymuno â'r ap dros e-bost, a chewch hefyd rif adnabod Prifysgol Bangor, y byddwch ei angen i gofrestru.

Pam Dewis Prifysgol Bangor?

Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol

Dewch i Ddiwrnod i Ymgeiswyr

Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr. Bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi - cewch fynd i sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc.

Darganfod Mwy

Cofrestru Nawr

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd

Eich camau nesaf