Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr
Archwiliwch beth sy'n gwneud Prifysgol Bangor yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis Ffilm, Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Drama ym Mangor yn ddechrau taith gyffrous. Mae astudio ym Mangor yn golygu dysgu gan arbenigwyr angerddol sy'n rhoi eich llwyddiant chi yn gyntaf. Yma, byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau i lunio'ch gyrfa gyda hyder.
Eich Hyb Ymgeiswyr yw eich lle i fynd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwiliwch beth sy'n aros amdanoch chi a dechreuwch gynllunio'ch dyfodol heddiw.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Ffilm, Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Drama
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Gwyliwch ein fideo
Helo, fy enw i yw Dafydd Palfrey. Dwi'n ddarlithydd ysgrifennu ar gyfer y sgrin yma ym Mhrifysgol Bangor. Llongyfarchiadau mawr i chi am gael y cynnig i ymuno gyda ni ym Mangor.
Wnewch chi weld bod yna ddigon o amrywiaeth o fodiwlau yma i ddewis yn y maes, modiwlau ymarferol a modiwlau mwy dadansoddol, a byddwn yn plethu'r elfennau yna gyda’i gilydd. Mae hefyd cyfleoedd gwych gyda chi i ymuno gyda Chymdeithasau, cymdeithasau byrlymus sydd yn cynhyrchu nifer o bethau fel cynyrchiadau llwyfan ac ati.
Mae lleoliad yma yn ardderchog ar gyfer unrhyw beth creadigol a wnewch chi ffeindio bod yna ddiwydiant llewyrchus yma ym myd teledu a ffilm gyda chymuned glos a chroesawgar iawn yma. Dwi yn sicr gewch chi groeso cynnes iawn os ydych yn penderfynu dod i ymuno gyda ni ym Mangor.
Cwestiynau Cyffredin
Mae eich wythnos arferol yn cynnwys amrywiaeth o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ymarferol, ymarferion o bosib, gwylio ffilmiau yn y sinema, ffilmio, recordio ar leoliad gydag eich cyd-fyfyrwyr a darlithwyr. Weithiau bydd gofyn i chi gwblhau tasgau ar gyfer y sesiwn nesaf ar gyfer y modiwl, yn annibynnol neu/ac mewn grŵp tuag at eich astudiaethau. Mae yna hefyd gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol gyda chymdeithasau bywiog y coleg, er enghraifft, Y Gymdeithas Ffilm, Cymdeithas Sioeau Cerdd Bangor, Papur newydd y Brifysgol, ac amryw o gymdeithasau cerddorol, megis corau a cherddorfa o fri. Gallwch fod mor brysur â 'da chi eisiau bod neu gyfle i ymlacio ar adegau yn lle!
Fel arfer, rydych yn astudio tri modiwl yn bob semester sydd yn golygu 9-12 awr o amser cyswllt yn wythnosol. Yn dilyn hyn, mi fydd gofyn i chi gwblhau gwaith annibynnol, er enghraifft darllen yn wythnosol, mynd i wylio perfformiadau, ffilmiau, sgyrsiau byw yn llefydd fel ein Canolfan Celfyddydau, Pontio. Ac ar rhai wythnosau mi fyddwch yn cyfarfod yn ychwanegol o fewn eich grwpiau dosbarth er mwy ymarfer tuag at berfformiad, ffilmio ffilmiau byr/dogfen, recordio podlediad, golygu, sgriptio a gweithio ar eich portffolio creadigol.
Paratowch ar gyfer eich gyrfa mewn newyddiaduraeth, ffilm cyfryngau neu/a drama gydag offer ffilm, recordio a golygu o safon yn ogystal â gofodau perfformio gwych.
Mae ein gennym Gamerâu Black Magic, Meddalwedd golygu Adobe Creative Suite a DaVinci Resolve yn ogystal ag ystafell radio a phodledau, Theatr Bryn Terfel sydd a 450 o seddi, Stiwdio theatr gyda 150 o seddi a Sinema!
Pontio ein Canolfan Celfyddydau ac Arloesi yw’r lle rydym o dro i dro yn arddangos eich ffilmiau a’ch projectau creadigol. Bydd Pontio hefyd yn rhoi rhaglen ymlaen sy'n cynnwys ffilmiau celf a’r ffilmiau mawr diweddaraf, a chynyrchiadau dawns a theatr gyfoes gallwch fynd i fwynhau yn amser eich hun (bydd cost ychwanegol).
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag enwau blaenllaw ym myd ffilm, theledu a theatr Cymraeg, gan gynnwys:
- Ffilm Cymru Wales, yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilm yng Nghymru
- Stiwdios Ffilm Aria - Llangefni
- Fran Wen - cwmni theatr yn Mangor
Ni fydd angen i chi deithio'n bell i ddysgu be ydy be! Bydd cyfle i gael teithiau tywysiedig o amgylch setiau teledu Rownd a Rownd. Bydd gweithdai a dosbarthiadau meistri yn cael eu cynnal yn y Brifysgol gyda chriwiau proffesiynol llawrydd trwy Academi Sgrin Cymru. Byddwn hefyd yn dod ag arbenigwyr o’r diwydiant i mewn i gynnal sesiynau sgiliau i hybu eich cyflogadwyedd. Mae ein graddedigion wedi cael llwyddiant yng Ngwobrau BAFTA Cymru.
Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr
Dr Ffion Evans
Ein bod ni’n cael archwilio disgyblaeth Drama, Theatr a Pherfformio’n barhaus ochr yn ochr â sut mae’n datblygu o fewn y sector diwydiannau creadigol. Mae drama yn ffurf fywiog iawn sy'n esblygu ar gyflymder sy'n gyffrous!
Mae Bangor yn lleoliad o harddwch naturiol eithriadol. Mae cael y cyfle i fod yn greadigol mewn lleoliad sy’n brydferth bob dydd yn gwneud y broses o greu yn fwy pleserus.
Mae llawer o’m profiadau o weithio gyda myfyrwyr ar ymchwil trwy brojectau creadigol. Mae adeiladu cwmni o fyfyrwyr dros dair blynedd a'u gweld yn datblygu'n artistig, yn greadigol, yn feddylgar ac yn gydweithredol â'i gilydd yn fraint i'w gweld.
Yn aml, mae myfyrwyr yn ymgysylltu â'r gymuned ar sawl lefel wahanol, o weithio gyda chwmnïau theatr lleol, stiwdios ffilm a theledu, i fentrau celfyddydau ac iechyd a chelfyddydau mewn addysg a gweld sut mae syniadau a gweithredoedd ein myfyrwyr yn cael effaith ar fywydau beunyddiol yn caniatáu i'r daith ymchwil fod yn ystyrlon ar sawl lefel wahanol.
Daliwch ati ac ymddiriedwch yn y broses! Mae cael y cyfle i ddysgu pethau newydd drwy gydol eich bywyd yn fraint llwyr; felly, manteisio i'r eithaf ar y profiadau cyfoethog y byddwch chi'n rhan ohonynt yw'r hyn sy'n gwneud y daith yn un feithringar.
Yr Athro Nathan Abrams
Rydw i’n cael addysgu fy hobi a dangos ffilmiau newydd bob blwyddyn.
Rydw i wedi mwynhau dysgu am fywyd a gwaith y cyfarwyddwr chwedlonol Stanley Kubrick.
Stanley Kubrick! Rydw i wedi bod yn addysgu amdano ac yn ymchwilio iddo ers 2007. Mae gen i lawer o gwestiynau!
Rydyn ni bob amser yn gwylio’r cyfryngau ac yn rhoi'r sgiliau hanfodol i chi ei ddadansoddi a'i ddeall yn ogystal â'i greu.
Dr Stephanie Steventon
Heb os nac oni bai, gweld sut mae cynhyrchu ffilm a chyfryngau yn helpu myfyrwyr i dyfu mewn hyder. Boed hynny o ddatblygu'r gallu i gyfleu eu syniadau (a all fod yn rhywbeth sy’n gwneud iddynt deimlo’n fregus iawn) i ddod yn hyderus wrth ddefnyddio offer a meddalwedd gwneud ffilmiau, i rannu eu gwaith â chynulleidfaoedd.
Byddai'n rhaid i mi daflu ceiniog i ddewis rhwng y cyfarwyddwr ffilm David Lynch a'r pypedwr Jim Henson, ond am yr un rheswm. Byddwn wedi bod wrth fy modd cael y cyfle i siarad â'r naill neu'r llall ohonyn nhw am eu proses greadigol, o ble mae syniadau’n dod ac am eu gwaith.
Yn 2025, enillodd grŵp o fyfyrwyr o fy modiwl Cynhyrchu Ffilmiau Byrion wobr myfyrwyr y Gymdeithas Deledu Frenhinol yng Nghymru am eu ffilm fer, Tape 15. Roedd yn bleser eu goruchwylio a gweld y ffilm yn datblygu, o gynhyrchu syniadau i ôl-gynhyrchu, a chael ei chydnabod mewn gwyliau ffilm yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
I fod yn bendant eich penderfyniadau. Pan roeddwn i’n fyfyriwr israddedig, dywedodd darlithydd roeddwn i'n eu hedmygu, “Y rhan orau o wneud penderfyniad yw, os mai'r penderfyniad anghywir ydyw, y gallwch chi wneud penderfyniad arall sy'n fwy gwybodus”. Mae diffyg gweithredu oherwydd perffeithiaeth yn broblem wirioneddol i ymarferwyr creadigol, a'r ateb bob amser yw: gwnewch y gwaith!
Dr Elena Hristova
Dysgu beth mae myfyrwyr yn ymddiddori ynddo - y llynedd, roedd fy nosbarth Diwylliannau Gweledol blwyddyn gyntaf wedi cyffroi'n lân ar gyfer ein hwythnos graffiti, ac ysgrifennodd llawer ohonynt draethodau ar graffiti yng Nghymru, Lloegr a’r Unol Daleithiau. Ac felly, cymerais eu cyffro a datblygu'r modiwl ymhellach i wneud ymchwil ar graffiti. Felly yn ystod semester y gwanwyn hwn, byddwn yn dogfennu graffiti yn yr ardal leol ac yn datblygu ein dealltwriaeth o sut mae graffiti’n cyfleu ymdeimlad o le a pherthyn.
Graddio a’r Arddangosfa Diwedd Blwyddyn lle mae myfyrwyr blwyddyn olaf Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau’n arddangos eu gwaith ymchwil ac ymarfer creadigol - mae’n wych gweld ein myfyrwyr mor falch o’u cyflawniadau, a hefyd gweld eu rhieni balch.
Dwi wrth fy modd yn gweithio gyda myfyrwyr ar ymchwil. Y llynedd, cafodd un fyfyrwyr eu penodi fel fy intern cyflogedig i greu cyfres o bodlediadau a oedd yn tarddu o fy llyfr 'The Ghost Reader: Recovering Women's Contributions to Media Studies' (Goldsmiths Press, 2024) - roedd yn brofiad gwych.
Darllenwch, a defnyddiwch 'The Elements of Style' gan Strunk a White - sef llyfr bychan am ysgrifennu'n dda: Dwi bellach yn ei argymell i bob myfyriwr - pan fyddwch yn dysgu rheolau ysgrifennu da, rydych yn gallu eu torri mewn ffordd effeithiol a phwrpasol, er mwyn cael yr effaith fwyaf.