Fy ngwlad:

Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr

Archwiliwch beth sy'n gwneud Prifysgol Bangor yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis Gwleidyddiaeth ym Mangor yn ddechrau taith gyffrous. Mae astudio ym Mangor yn golygu dysgu gan arbenigwyr angerddol sy'n rhoi eich llwyddiant chi yn gyntaf. Yma, byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau i lunio'ch gyrfa gyda hyder.

Eich Hyb Ymgeiswyr yw eich lle i fynd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwiliwch beth sy'n aros amdanoch chi a dechreuwch gynllunio'ch dyfodol heddiw.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Gwleidyddiaeth

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Gwyliwch ein fideo

Mari William - Gwleidyddiaeth

Fy enw i ydi Dr Mari Wiliam ac rwy'n ddarlithydd Hanes Modern yma ym Mhrifysgol Bangor.

Fel rhan o hyn rwy'n cyfrannu at nifer o fodiwlau Gwleidyddiaeth ni'r modiwlau sydd ar gael ar ein cwrs gradd Gwleidyddiaeth, a dwi'n meddwl rhan nodedig o'n cwrs gradd Gwleidyddiaeth ni ydi pa mor rhyngddisgyblaethol ydi o, rydym ni'n ffeindio synthesis rhwng gwahanol feysydd fel Hanes, Cymdeithaseg, Athroniaeth, Astudiaethau Cyfryngau a'r Gyfraith.

Felly mae yna ddarpariaeth eang iawn i chi sydd yn eich gwreiddio chi mewn dealltwriaeth o wahanol fathau o Wleidyddiaeth, achos mae Gwleidyddiaeth yn derm eang mae o yn gallu golygu lot o bethau ond beth sydd yn bwysig ydi eich bod yn cael eich yn y cwrs Gwleidyddiaeth yma ym Mangor efo dealltwriaeth o gymdeithas gyfredol a digwyddiadau cyfredol yn y newyddion ac mewn Gwleidyddiaeth byd eang.

Cwestiynau Cyffredin

Bydd wythnos arferol yn cynnwys mynychu’r darlithoedd a’r seminarau ar gyfer pob un o’r 3 modiwl y byddwch yn eu hastudio ym mhob semester. Bydd darlithoedd yn cyflwyno pynciau tra bod seminarau’n rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod gwaith darllen gosod a gweithgareddau ymchwil. Byddwch hefyd yn treulio amser yn y llyfrgell neu fannau astudio, yn paratoi at ddosbarth neu'n gweithio ar aseiniadau.

Tua 6-10 awr yr wythnos yn dibynnu ar y modiwl a ddewiswch. Mae rhai wedi eu strwythuro'n wahanol felly efallai y bydd dosbarthiadau’n wythnosol.

Byddwch yn siapio'ch gradd trwy'r modiwlau a ddewiswch. Mae modd canolbwyntio ar hanes gwleidyddol, athroniaeth wleidyddol a syniadau, neu gymryd diddordeb penodol mewn materion polisi cymdeithasol.

Byddwch hefyd yn datblygu nifer o sgiliau yn y modiwlau y byddwch yn eu hastudio. Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil a sgiliau dadansoddi ffynonellau’n feirniadol, ochr yn ochr â chyfathrebu ysgrifenedig a chyfathrebu llafar trwy gyflwyno asesiadau a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth. Yn bwysicach na dim, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a'ch ymwybyddiaeth o faterion gwleidyddol ac yn gwerthuso'n feirniadol sut mae'r llywodraeth a sefydliadau eraill yn gweithredu.

Mae nifer o fyfyrwyr wedi cael profiad gwaith gydag awdurdodau lleol, megis Cyngor Dinas Bangor a gydag Aelodau Seneddol lleol. Roeddent yn aml yn ymgymryd â'r lleoliadau hynny wrth astudio modiwl Lleoliad Gwaith yr Ysgol.

Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr

Dr Marc Collinson

Dr Marc Collinson

Dwi wedi bod â diddordeb mewn hanes a gwleidyddiaeth erioed, a hanes gwleidyddol oedd fy mhrif ddiddordeb. Gall rhai pobl droi eu trwynau ar y cymysgedd o uchelgais bonheddig a thwyll isel, ond i unigolion sydd â diddordeb, mae'n bell o fod yn sych.

Y gallu i edrych ar y newyddion a meddwl: Pam ddigwyddodd hynny? Pwy wnaeth hynny? Pam?

Mae fy ngwaith diweddar ar isetholiadau ac etholiadau cyffredinol wir wedi gwneud i mi gwestiynu sut mae system wleidyddol y Deyrnas Unedig yn gweithio, pwy sydd â phŵer, a pham mae'r byd fel y mae.

Peidiwch â gadael i berffeithrwydd fod yn elyn i’r da. Rydym yn gallu gosod nodau anghyraeddadwy i'n hunain.

Dau fyfyriwr mewn ystafell yn neuaddau'r Santes Fair. Mae un yn darllen ar y gwely ac un arall yn eistedd wrth ddesg yn teipio ar liniadur.

Sicrwydd o Lety i Ymgeiswyr Clirio

Os ydych ym ymgeisio drwy Clirio am gwrs sydd wedi ei lleoli ar ein campws ym Mangor, rydym yn sicrhau y cewch chi ystafell yn ein neuaddau preswyl cyn belled a'ch bod chi'n dewis Prifysgol Bangor ar UCAS erbyn Dydd Iau, 29 Awst ac yn archebu eich ystafell erbyn Dydd Llun, 2 Medi 2024. Yn anffodus, oherwydd y nifer cyfyngedig o ystafelloedd, nid ydym yn gallu sicrhau lle yn ein llety ar y campws yn Wrecsam.

Myfyrwyr yn cerdded a sgwrrsio yn adeilad Pontio

Cyfleoedd i Ymweld  Phrifysgol Bangor Yn Ystod Clirio 2026

Os ydych wedi cael cynnig i astudio yma, rydym yn eich hannog i ymweld â ni. Wrth ymweld â'r campws, cewch flas go iawn o fywyd myfyriwr yma a chael cyfle i ymgyfarwyddo ag adeiladau’r Brifysgol a dinas Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld.

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ffôn symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Sut i wneud ffrindiau cyn cychwyn yn y Brifysgol?

Ymunwch ag ymgeiswyr eraill a dod yn rhan o gymuned Bangor cyn cyrraedd hyd yn oed! Cofrestrwch i ymuno â'r ap - 'Campus Connect' a bydd modd gofyn cwestiynau, sgwrsio gyda myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau ag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn y llety o'ch dewis. Cewch wahoddiad i ymuno â'r ap dros e-bost, a chewch hefyd rif adnabod Prifysgol Bangor, y byddwch ei angen i gofrestru.

Myfyrwaraig yn ateb y ffon

Wedi newid eich meddwl? Nid chi yw’r unig un

Os ydych wedi bodloni’r amodau ar gyfer eich dewisiadau UCAS presennol ond yn teimlo nad yw’n iawn i chi, gallwch ddewis mynd drwy'r system Glirio. Archwiliwch eich opsiynau ym Mangor a llenwch y ffurflen ar-lein i gofrestru eich diddordeb yn y broses Glirio neu i wneud cais drwy Clirio os oes gennych eich canlyniadau eisoes.

Eisoes yn bwriadu ymuno â Bangor ond yn ystyried cwrs gwahanol? Rydym yma i helpu - llenwch y ffurflen ar-lein!

 

 

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd