Fy ngwlad:

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor

Llongyfarchiadau ar gael eich derbyn i astudio ym Mhrifysgol Bangor! Rydym wrth ein bodd eich croesawu i'n cymuned. Cadwch mewn cysylltiad trwy'r cyfryngau cymdeithasol lle cewch y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf. Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod yn fuan ac rydym yn dymuno'r gorau wrth i chi baratoi am ddod yma.

Gwyliwch ein fideo

Stella Farrar yn sefyll yn y labordy
Fideo: Llongyfarchiadau ar eich Cynnig
Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ffôn symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Ymunwch â 'Campus Connect'

Byddwch yn gallu ymuno ag ymgeiswyr eraill a dod yn rhan o'n cymuned myfyrwyr ym Mangor cyn cyrraedd hyd yn oed! Byddwch yn gallu cofrestru i ymuno â 'Campus Connect' pan fydd yr ap yn mynd yn fyw ym mis Chwefror. Yn yr ap, bydd modd gofyn cwestiynau, sgwrsio gyda myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau ag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn y llety o'ch dewis. Cewch wahoddiad i ymuno â'r ap dros e-byst, a chewch hefyd rif adnabod Prifysgol Bangor, y byddwch ei angen i gofrestru.