Fy ngwlad:

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio yn Ysgol Fusnes Albert Gubay

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Marchnata yma yn Ysgol Fusnes Albert Gubay. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi. Dyma be allwch ddisgwyl fel myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor.

Mae ein cyrsiau Marchnata yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

O gystadlaethau cenedlaethol fel The Pitch a Universities Business Challenge Worldwide i leoliad gwaith a sgyrsiau gwadd mae digon o gyfleoedd fel myfyriwr marchnata i wella eich cyflogadwyedd ac ennill sgiliau gwerthfawr ar gyfer eich dyfodol.

Llun o Dr Sara Parry gyda dinas Bangor yn y cefndir
Fideo: Llongyfarchiadau gan Dr Sara Parry, Uwch Darlithydd mewn Marchnata

Helo, Sara ydw i. Dwi'n Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata yn Ysgol Fusnes Albert Gubay. Llongyfarchiadau ar gael cynnig i astudio marchnata hefo ni.

Os ydych chi yn dewis dod i Fangor, mi fyddwch yn dysgu am wahanol agweddau o farchnata, fel marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol, dylanwadwyr, pam mae brandiau mwyaf mor werthfawr â pham mae cwsmeriaid yn prynu beth maen nhw am brynu.

Mi fyddwch hefyd yn cael y cyfle i weithio yn agos gyda busnesau sydd yn setio prosiectau byw i'n myfyrwyr, oherwydd bod nhw angen cefnogaeth marchnata.

A chofiwch ein bod ein gradd BSc marchnata yn cael eu hachredu gan y Charted Institue of Marketing. Felly mae hyn yn bwst i'ch CV. Gobeithio gweld chi yn fuan.

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ffôn symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Ymunwch â 'Campus Connect'

Byddwch yn gallu ymuno ag ymgeiswyr eraill a dod yn rhan o'n cymuned myfyrwyr ym Mangor cyn cyrraedd hyd yn oed! Byddwch yn gallu cofrestru i ymuno â 'Campus Connect' pan fydd yr ap yn mynd yn fyw ym mis Chwefror. Yn yr ap, bydd modd gofyn cwestiynau, sgwrsio gyda myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau ag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn y llety o'ch dewis. Cewch wahoddiad i ymuno â'r ap dros e-byst, a chewch hefyd rif adnabod Prifysgol Bangor, y byddwch ei angen i gofrestru.

Cwestiynau Cyffredin

Byddwch yn cael 12 awr o addysgu yn y cnawd bob wythnos. Mae'r rhain yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai a thiwtorialau. Dylid treulio gweddill yr amser ar ddysgu hunangyfeiriedig/annibynnol h.y. darllen y bennod berthnasol yn y gwerslyfr marchnata i fodiwl penodol, gwneud ymchwil ar frand i aseiniad sydd i ddod, cymryd rhan mewn trafodaeth rithwir neu ddarllen astudiaeth achos i baratoi at diwtorial sydd ar ddod.

Bydd astudio un o’r rhaglenni gradd marchnata ym Mangor yn eich galluogi i ddatblygu i fod yn weithiwr marchnata proffesiynol rhagorol. Mae ein rhaglen BSc Marchnata wedi ei hachredu gan y Sefydliad Marchnata Siartredig, sy'n eich galluogi i gael eithriadau awtomatig o amrywiaeth o gymwysterau proffesiynol (e.e. Tystysgrif/Diploma mewn Marchnata Proffesiynol a Marchnata Digidol). Byddwch hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau marchnata cenedlaethol fel CIM 'The Pitch' a byddwch yn ennill sgiliau ymarferol defnyddiol y mae cyflogwyr yn eu disgwyl, megis datblygu gwefannau. Byddwch hefyd yn cael cyfle i glywed amrywiaeth o siaradwyr gwadd o faes marchnata.

Mae'r pynciau a drafodir ar y radd marchnata yn cynnwys Marchnata Digidol, Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol, Ymddygiad Defnyddwyr, Rheoli Brand a Manwerthu, Marchnata a Chymdeithas, Marchnata Rhyngwladol a Dadansoddeg Marchnata. Mae holl ddeunyddiau'r modiwl yn cael eu diweddaru'n barhaus i adlewyrchu tueddiadau cyfredol, ymchwil cyfredol ac arferion yn y diwydiant.

Mae ein hasesiadau yn adlewyrchu sefyllfaoedd ac amgylchiadau marchnata go iawn. Rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau asesu i sicrhau y byddwch yn meistroli sgiliau busnes eang ac yn datblygu'r rhain wrth ichi astudio am eich gradd. Mae'r rhain yn cynnwys sgiliau ysgrifennu, cyfathrebu, rhwydweithio a gwneud penderfyniadau gan gynnwys traethodau, adroddiadau marchnad, cyflwyniadau, blogiau, arholiadau, portffolios a phrojectau grŵp. Rydym hefyd yn defnyddio gemau efelychu sydd gyda’r gorau yn y diwydiant i greu heriau marchnata sydd mor agos at realiti â phosib yn ogystal â darparu cyfleoedd dysgu yn y gwaith i chi, a chyfle i chi ymgymryd â phrojectau byw yn eich blwyddyn olaf.

Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr

Dr Sara Parry

Dr Sara Parry

Dwi bob amser wedi ystyried Marchnata fel pwnc cyffrous a chyflym sy'n cynnig cyfleoedd i fod yn strategol ac yn greadigol. Yn bwysig, mae marchnata wedi'i seilio ar ddeall pobl (neu 'ddefnyddwyr') a'u hymddygiad, a dyna sy'n ddiddorol i mi.

Chanel sy’n gyfrifol am greu’r hysbyseb drytaf erioed yn 2004. Roedd yr hysbyseb yn cynnwys Nicole Kidman a chafodd ei chyfarwyddo gan Baz Luhrmann. $33 miliwn oedd y gost o’i chreu!

Dwi’n mwynhau addysgu gan ddefnyddio llawer o enghreifftiau o arferion Marchnata da a drwg, a chanolbwyntio ar y sgiliau y bydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddilyn gyrfa mewn Marchnata megis cyfathrebu, creadigrwydd, gwaith tîm a meddwl yn feirniadol.

Taylor Swift. Mae hi’n gerddor gwych, a dwi hefyd yn meddwl ei bod yn athrylith Marchnata! Mae hi’n feistr ar ddeall a bodloni ei chynulleidfa: y “Swifties.”

Cyflym - creadigol - strategol.
Dr Steffan Thomas

Dr Steffan Thomas

Fy rhwystredigaeth fwyaf yw’r canfyddiad bod y cyfryngau cymdeithasol yn rhoi cyfle i fusnesau farchnata am ddim. Mae hyn yn tanseilio gwerth deall y data, yr algorithmau a phroffiliau defnyddwyr. Mae marchnata’n bwnc cyffrous a deinamig sy'n gofyn am gynllunio a defnydd manwl.

Rydw i’n ffodus i weithio gyda sawl busnes sy’n cynnig cyngor ynghylch marchnata digidol ac ymgysylltu â defnyddwyr. Felly, rydw i’n lledaenu gwybodaeth yn rheolaidd ac yn gallu gweld sut y mae’n trosi’n llwyddiant masnachol.

Cymerwch ran mewn cymaint o weithgareddau â phosibl, rhowch gynnig ar bethau newydd a dysgwch beth rydych chi'n angerddol amdano.

Mae gradd yn garreg gamu wych i'ch gyrfa yn y dyfodol, a pho fwyaf o amser ac ymdrech y byddwch chi'n buddsoddi ynddi nawr, y mwyaf y byddwch chi'n ei gael allan ohoni yn nes ymlaen yn eich bywyd.

Reidio fy meic modur neu hedfan fy awyren.