Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr
Dy Hyb Ymgeiswyr yw'r lle i fynd ar gyfer popeth sydd dy angen arnat ti i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwilia beth sy'n gwneud Prifysgol Bangor yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mangor yn ddechrau taith gyffrou
Helo, croeso cynnes iawn i chi. Rydym yn falch iawn eich bod wedi penderfynu gwneud cais i Brifysgol Bangor.
Mae astudio Troseddeg ym Mangor yn brofiad cyffrous iawn. Mae'r ddisgyblaeth yn cyflwyno damcaniaethau cymdeithasol gyda dealltwriaeth o system cyfiawnder troseddol, gan roi sgiliau i chi archwilio pam mae trosedd yn digwydd.
Mae ein darlithwyr sydd yn rhedeg y ffordd o fewn y maes, a'r dosbarthiad bach yn golygu y cewch gefnogaeth bersonol.
Mae lleoliad Bangor hefyd yn rhoi cynnig i chi ymchwilio a chyfleodd lleol, a phrosiectau ymchwil sydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
Ar yr hafan hon, fe gewch lawer o wybodaeth am y cwrs ei hun, am bethau sydd yn mynd ymlaen ym Mhrifysgol Bangor, profiadau myfyrwyr, a chyfleoedd gwaith a lleoliadau.
Gobeithio nawn weld chi ar y campws yn y fuan.
Pam dewis Troseddeg ym Mhrifysgol Bangor?
- Amgylchedd astudio cefnogol – Ymuna â chymuned gyfeillgar a chroesawgar lle bydd gen ti diwtor personol o'r diwrnod cyntaf ac mae ein diwylliant drws agored yn golygu bod cefnogaeth bob amser gerllaw.
- Cyd-destun y byd go iawn - Archwilia faterion trosedd a chyfiawnder byd go iawn, ac adeilada dy ddealltwriaeth o sut mae cymdeithas yn mynd i'r afael â throseddu.
- Gwellwch dy gyflogadwyedd – Cyfle i dyfu dy hyder a datblyga sgiliau ymarferol trwy gyfleoedd lleoliadau gwaith.
- Gwneud gwahaniaeth go iawn – Cei ddatblygu dy ddealltwriaeth o sut mae trosedd yn effeithio ar gymdeithas gyda chyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau ystyrlon sy'n cefnogi pobl a chymunedau.
- Paratoi ar gyfer dy yrfa – Graddio yn barod ar gyfer gyrfaoedd ystyrlon mewn gwasanaethau prawf, cyfiawnder ieuenctid, elusennau, gwasanaethau cyhoeddus, a mwy.
5 Awgrym da ar gyfer y Diwrnod Ymgeisydd!
Helo, fy enw i yw Lisa Suzanne Sparks, a dwi’n un o’r darlithydd yma ym Mhrifysgol Bangor mewn troseddeg a chyfiawnder troseddol. Fedrai ddim disgwyl i'ch croesawu i un o'n diwrnodau ymgeisio nesaf yma ym Mangor. Felly dyma fy mhum awgrym i wneud y gorau o'ch diwrnod.
Felly awgrym rhif un, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cwrdd â'ch darlithwyr, dewch i un o'n sgyrsiau. Dw i wrth fy modd yn siarad am lofruddion cyfresol. Felly dyma beth fyddwch chi'n ei ddysgu gyda fi. I gyd am lofruddion cyfresol gwrywaidd a benywaidd... pam maen nhw'n gwneud yr hyn maen nhw'n ei wneud ac edrych ar y dioddefwyr a'r hyn sy'n digwydd wedyn.
Awgrym rhif dau yw peidiwch ag anghofio mynd ar y bysiau. Ewch ar daith o amgylch ein hadeiladau, edrychwch ar ein llety myfyrwyr. Rydych chi fel myfyrwyr wedi'ch gwarantu llety yn y flwyddyn gyntaf, felly cymerwch yr amser i gael golwg ar ble byddwch chi'n aros yn ystod eich gradd.
Awgrym rhif tri yw cymerwch yr amser i fynd ar goll yn yr adeilad hardd hwn. Crwydrwch o gwmpas. Peidiwch â phoeni am ble rydych chi'n mynd. Cymerwch yr amser i fynd ar goll. Mae digon o bobl o gwmpas y gallwch chi ofyn am help.
Ond mae hyn yn arwain at brif awgrym rhif pedwar, y bobl yn y crysau coch, stopiwch a gofynnwch gwestiynau iddyn nhw. Nhw yw ein myfyrwyr presennol. Bydd ganddyn nhw gyfoeth o wybodaeth i chi o gwmpas y byd academaidd, yr ochr gymdeithasol, hyd yn oed clybiau'r gymdeithas chwaraeon yn undeb y myfyrwyr.Felly cymerwch yr amser i gael sgwrs gyda nhw hefyd.
A fy awgrym olaf rhif pump yw edrychwch o gwmpas yr ardal. Mae gennych chi'r mynyddoedd prydferth o Eryri ar un ochr a thraethau hardd Ynys Môn ar yr ochor arall. Mae rhywbeth i bawb i’w wneud. Felly tra byddwch chi yma ym Mangor, edrychwch o gwmpas ein lleoliad prydferth, y Coleg ar y Bryn,
Prifysgol Bangor, Gogledd Cymru.
Methu disgwyl i'ch gweld chi.
Cwestiynau Cyffredin
Yn ogystal â darlithoedd ac amser dysgu personol gallwch ddatblygu eich sgiliau ymhellach trwy sesiynau sgiliau astudio a gweithgareddau allgyrsiol.
Efallai hoffwch ymuno â chlybiau a chymdeithasau amrywiol ar gael trwy undeb y myfyrwyr, mae prynhawniau dydd Mercher wedi ei chadw'n benodol i chi gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau clwb. Trwy gydol y flwyddyn rydym yn trefnu digwyddiadau yn yr ysgol megis nosweithiau cwis sy'n rhoi'r cyfle i chi gwrdd â chymysgu â myfyrwyr eraill a'r gymuned academaidd ehangach.
Yn gyffredinol, bydd gennych 9 i 12 awr o amser cyswllt yr wythnos, all hyn gynnwys darlithoedd, seminarau neu weithdai. Yn ogystal, fe'ch anogir i ennill profiad ychwanegol trwy gyfleoedd fel ymweliadau carchar, diwrnodau hyfforddi gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant, a digwyddiadau eraill sy'n gysylltiedig â'r ddisgyblaeth. Byddai disgwyl i chi hefyd wneud hunan-astudio.
Oes, allwch ddewis modiwl profiad gwaith neu ddewis gwneud blwyddyn o brofiad gwaith rhwng blwyddyn 2 a 3.
Mae yna lawer o yrfaoedd y gallwch eu dilyn gyda gradd mewn troseddeg. Mae astudio troseddeg a chyfiawnder troseddol yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddeall troseddwyr a’u hymddygiad troseddol, a gall hyn arwain at yrfaoedd gwerth chweil a all wneud newid cadarnhaol mewn cymdeithas. Er enghraifft, gallech fynd ymlaen i weithio yn un o'r asiantaethau cyfiawnder troseddol fel yr heddlu, carchardai a gwasanaethau prawf. Mae graddedigion hefyd yn dilyn gyrfaoedd sy'n gweithio i fynd ar afael â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau lleol, megis troseddau ieuenctid a gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr, gyda rolau mewn awdurdodau lleol fel y gwasanaethau brys, awdurdodau iechyd a sefydliadau cymdeithasau tai.
Neidiwch i mewn â'ch holl galon. Trawsnewidiodd y brifysgol hon fi o fam sengl oedd yn ei chael hi'n anodd i rywun a raddiodd gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Nid yw Bangor yn unig yn eich addysgu, mae'n eich meithrin, yn eich herio ac yn eich helpu i ailddarganfod hyder nad oeddech chi'n gwybod ei fod gennych chi.
Cwrdd â rhai o dy ddarlithwyr
Dr Tim Holmes
Rydw i wedi bod â diddordeb mewn ymddygiad dynol erioed, a'r hyn sy'n digwydd pan fydd angen i grwpiau weithio gyda'i gilydd. Cynigiodd troseddeg lwybr uniongyrchol i astudio ymddygiad dynol gyda ffocws ar rai o’r materion a’r heriau diddorol mewn cymdeithas.
Dangos i bobl y gellir gweld llawer o ddamcaniaethau a syniadau cymhleth mewn ymddygiad a gweithgareddau pobl mewn cymdeithas bob dydd. Rydw i’n credu bod troseddeg yn un o'r meysydd mwyaf hygyrch yn y byd academaidd, rydym i gyd yn asesu bygythiadau ac yn cyfrifo risgiau a manteision yn ymwneud ag ymddygiad, ac mae gennym ni i gyd syniadau am yr hyn y dylai fod yn gywir ac yn anghywir. Rydw i'n hoffi trafod y pethau hynny gyda myfyrwyr.
Rydw i’n astudio twyllwyr ac mae byd dichell a thwyll yn ddiddorol iawn. Dangosodd y ffordd y mae pobl yn twyllo eraill, yn ffugio eu marwolaethau eu hunain, yn cymryd hunaniaeth rhywun arall lawer i mi am sut mae cymdeithas yn gweithio. Roedd dysgu am sgiliau manipiwleiddio a'r hyn y mae rhai o'r twyllwyr mwy drwg-enwog wedi llwyddo i'w gyflawni yn wirioneddol ddiddorol.
Defnyddiol, hygyrch, pwysig.
Ms Lisa Suzanne Sparkes
Dwi wedi bod â diddordeb mewn trosedd erioed, a dechreuodd y cyfan oherwydd mai heddwas oedd fy nhad cyn iddo ymddeol. Penderfynais pan oeddwn yn 34 fy mod eisiau dysgu mwy am y pwnc, a dyna sut y dechreuodd y cyfan, wel, yn academaidd.
Mae cymaint o wahanol feysydd y gallwch ganolbwyntio arnynt, boed hynny’r System Cyfiawnder Troseddol ei hun, yr asiantaethau amrywiol, y gwahanol fathau o droseddau a throseddwyr, y damcaniaethau y tu ôl i pam mae rhywun yn dod yn droseddwr. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd…
Y rhan orau i mi, yw graddio! Dwi bob amser yn mynd mor emosiynol yn gwylio ein myfyrwyr yn graddio, dwi’n llawn balchder ohonynt. Byddwn hefyd yn dweud bod y System Cyfiawnder Troseddol bob amser yn esblygu ac mae cymaint o achosion y gallwn eu cysylltu â’n dysgu.
Cyn dod yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor, roeddwn yn fyfyriwr yma. Y cyngor gorau i mi ei dderbyn oedd bod y staff yma i helpu, eu bod eisiau ichi lwyddo, ac mae ganddynt bolisi drws agored. Ymunwch â chlybiau a chymdeithasau hefyd.