Fy ngwlad:

Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr

Archwiliwch beth sy'n gwneud Prifysgol Bangor yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis Y Gyfraith ym Mangor yn ddechrau taith gyffrous. Mae astudio ym Mangor yn golygu dysgu gan arbenigwyr angerddol sy'n rhoi eich llwyddiant chi yn gyntaf. Yma, byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau i lunio'ch gyrfa gyda hyder.

Eich Hyb Ymgeiswyr yw eich lle i fynd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwiliwch beth sy'n aros amdanoch chi a dechreuwch gynllunio'ch dyfodol heddiw.

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ffôn symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Ymunwch â 'Campus Connect'

Byddwch yn gallu ymuno ag ymgeiswyr eraill a dod yn rhan o gymuned Bangor cyn cyrraedd hyd yn oed! Byddwch yn gallu cofrestru i ymuno â 'Campus Connect' pan fydd yr ap yn mynd yn fyw ym mis Chwefror. Yn yr ap, bydd modd gofyn cwestiynau, sgwrsio gyda myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau ag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn y llety o'ch dewis. Cewch wahoddiad i ymuno â'r ap dros e-bost, a chewch hefyd rif adnabod Prifysgol Bangor, y byddwch ei angen i gofrestru.

Cwestiynau Cyffredin

Bydd wythnos arferol ar y campws yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd mewn grŵp mawr, seminarau llai yn seiliedig ar drafodaeth, a thiwtorialau personol. Gallwch ddisgwyl ategu eich astudiaethau yn y dosbarth trwy hunan-astudio, lle byddwch yn gweithio tuag at gwblhau aseiniadau, paratoi at ddosbarthiadau, a gwneud gwaith darllen a argymhellir/darllen pellach.

Does dim rhestr darllen cyn i chi ymuno â ni ym mis Medi, ond efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn gwylio rhai rhaglenni teledu, gwrando ar lyfrau sain a phodlediadau sy'n ymdrin â gwahanol feysydd y Gyfraith.

Gallwch ddisgwyl amserlen sy’n cynnwys 12-15 o oriau cyswllt ar y campws. Bydd hyn yn cynnwys darlithoedd wedi eu hamserlennu, seminarau, a/neu diwtorialau. Bydd disgwyl i chi baratoi at y sesiynau hynny trwy gwblhau'r gwaith darllen a argymhellir ac ymgymryd ag unrhyw dasgau eraill sydd wedi eu gosod.

Mae blwyddyn gyntaf gradd yn y gyfraith fel arfer yn eich cyflwyno i'r cysyniadau ac egwyddorion cyfreithiol sylfaenol. Byddwch yn astudio pynciau megis Cyfraith, Cyfiawnder a Gweithdrefnau (cyflwyniad i System Gyfreithiol Cymru a Lloegr), Cyfraith Contract, Cyfraith Trosedd, Sgiliau Cyfreithiol a Chyfraith Gyhoeddus. Bydd y cyrsiau hyn yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer eich blynyddoedd astudio dilynol.

I baratoi cyn dechrau ar eich gradd yn y Gyfraith, gallwch ddarllen yn eang trwy archwilio newyddion cyfreithiol, darnau barn a thestunau clasurol. Gallwch hefyd ymarfer eich sgiliau meddwl beirniadol trwy gymryd rhan mewn dadleuon, trafodaethau ac ymarferion dadansoddol. Byddai darllen ynghylch eich maes diddordeb yn fuddiol, gan y byddwch yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth fwy trylwyr o'r pwnc cyn dechrau eich astudiaethau.

Mae graddau yn y gyfraith yn heriol ac yn gofyn am lawer iawn o waith darllen ac ysgrifennu. Bydd angen i chi fod yn barod i ddarllen gwerslyfrau cyfreithiol, cyfraith achosion ac erthyglau academaidd a adolygir gan gymheiriaid, yn ogystal â ffynonellau eraill megis adroddiadau gwreiddiol. Bydd hyn oll yn dod yn rhan naturiol o'ch amser hunan-astudio. Byddwch yn cael arweiniad ynghylch pa ffynonellau cyfreithiol i'w hadolygu; fodd bynnag, mae angen gwneud ymchwil annibynnol hefyd.

Blog Y Gyfraith Caryl

Mae Prifysgol Bangor yn opsiwn perffaith oherwydd bod y darlithwyr yn angerddol iawn am y pwnc maent yn ei addysgu. Mi roedd yr opsiwn i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a chael addysg mewn grwpiau tiwtorialau bach, cartrefol a cyfeillgar yn fy nenu i Fangor.

Roedd y profiad yn dda iawn ac fe ges i’r cyfle i gwrdd â myfyrwyr o’r Almaen a Gwlad Pwyl. Mi wnes i ddysgu am faterion fel digartrefedd a’r ffordd y roedd gwahanol wledydd yn ymdrin â’r pwnc. Yn ystod y trip ges i gyflwyno am ddigartrefedd yn y Deyrnas Unedig a’r polisïau gwahanol sydd yma. Cefais hefyd ymweld ag ysgolion lleol, ble roedd systemau cadarn mewn lle i gefnogi plant a phobl ifanc, oedd hi’n brofiad diddorol iawn.

Fe wnaeth y profiad o weithio yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol roi’r cyfle i mi helpu pobl mewn sefyllfaoedd gwirioneddol a chael profiad o ysgrifennu llythyrau.

Yn y dyfodol, rydw i’n sicr eisiau defnyddio’r radd a gweithio yn y maes cyfreithiol. Ar hyn o bryd, rwyf yn gweithio gyda Menter Môn ac mae’r profiad wedi bod yn un gwerthfawr i mi.

Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr

Tracey Horton

Tracey Horton

Cefais fy mherswadio gan un o fy narlithwyr Lefel A i fynd i'r brifysgol a chymhwyso fel cyfreithiwr. Roeddwn i’n fyfyriwr prifysgol cenhedlaeth gyntaf ac felly roedd hwn yn gam mawr i mi.

Wrth redeg y Clinig Cyngor Cyfreithiol rydym yn delio â rhan fwyaf o feysydd y gyfraith ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gymuned leol.

Mae'r clinig wedi cael cefnogaeth aruthrol gan y gymuned leol sy'n gwneud fy swydd yn llawer haws. Wrth gwrs mae mynediad at draethau a mynyddoedd hardd hefyd yn fonws.

Meddwl am brofiad gwaith o'r diwrnod cyntaf. Peidiwch â'i adael tan eich blwyddyn olaf.

Un o'r uchafbwyntiau yn bendant yw cyfarfod â'r Arglwyddes Hale yn un o ddigwyddiadau LawWorks. Roedd y myfyrwyr wrth eu boddau hefyd. Dynes wirioneddol ysbrydoledig.

Dr Natasha Hooker

Natasha Hooker

Mae'r gyfraith yn bwnc heriol a difyr iawn oherwydd ei fod yn datblygu’n barhaus. Mae hyn yn cadw'r pwnc yn ddiddorol ar ôl gorffen astudio yn y brifysgol gan eich bod yn gallu gweld ei ddatblygiad mewn bywyd bob dydd!

Mae'r grwpiau dysgu llai yn galluogi darlithwyr i ddatblygu perthynas waith dda gyda'r myfyrwyr. Mae hyn yn arwain at ddarlithwyr yn dod i adnabod arddulliau dysgu unigol ac anghenion myfyrwyr.

Grym a hyblygrwydd rhaglenni gradd cydanrhydedd! Trwy astudio fel hyn, rydych yn gallu symud ymlaen i yrfa gyfreithiol, ac ehangu eich rhagolygon gyrfa ar yr un pryd!

Peidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar dasgau heriol a dysgu o'ch camgymeriadau.

Diddorol, heriol a gwerth chweil.

Pam dewis Prifysgol Bangor?

Eich camau nesaf

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd