Darparwyr
Mae gan Lywodraeth Cymru darged o sicrhau am miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gyda phrifysgolion yn chwarae rhan bwysig wrth gyrraedd y nod hwn. Serch hynny, nid yw nifer y myfyrwyr dwyieithog sy'n dewis astudio cyfrwng Cymraeg wedi newid yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. Gallai hyrwyddo addysgu, asesu a chymorth cyfrwng Cymraeg hyblyg annog myfyrwyr i ddewis y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg y neu prifysgolion.
Mae'r astudiaeth 12 mis hon ar draws Prifysgolion Metropolitaidd Caerdydd a Bangor yn canolbwyntio ar dri prif peth:
- Canfod pa fodelau addysgu, asesu a chymorth sy'n ddeniadol i fyfyrwyr dwyieithog nad sydd yn dewis astudio trwy’r Gymraeg ar hyn o bryd..
- Adnabod ymyriadau addysgol llwyddiannus sy'n hybu hyder wrth ddefnyddio ieithoedd llai cyffredin mewn addysg uwch, sef y Gymraeg yng Nghymru a ieithoedd eraill llai eu defnydd mewn mannau eraill lle mae nod gan y llywodraeth yna o gefnogi addysg uwch dwyieithog.
- Rhoi arferion da ar waith ac archwilio a ydynt yn effeithiol.
Os ydych chi'n ddarparwr Addysg Uwch sydd â phrofiad o hyrwyddo'n addysg uwch trwy ieithoedd llai cyffredin ac sydd a thystiolaeth o lwyddiant, cliciwch ar Dulliau Dysgu: Ffurflen Casglu Arfer Da o ran hybu dewisiadau positif i astudio trwy ieithoedd llai eu defnydd





Myfyrwyr
Os ydych yn fyfyriwr dwyieithog ym Mangor neu ym Mhrifysgol Met Caerdydd nad yw'n dewis darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd, cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i gymryd rhan mewn arolwg byr. Byddwn yn gofyn am eich e-bost myfyriwr fel y gallwn drosglwyddo taliad bach i chi am eich amser a'ch gwaith.
Y tîm ymchwil
Mi Young Ahn -Awdur papurau ar amgyffred myfyrwyr o berthyn ar draws prifysgolion Cymru gan ystyried rôl iaith (Ahn, a Davis, 2019, 2023), mae Mi Young yn arbenigo mewn llunio a gweithredu arolygon. Ynghyd â Katherine Young a Myfanwy Davies hi fydd yn arwain ar dadansoddi’r arolwg.
Angela Dalrymple - Prif gymrawd gyda'r AAU gydag arbenigedd mewn ymchwil gydweithredol ar addysgeg, yn enwedig ymchwil ansoddol. Yn dilyn gyrfa ddisglair o fewn byd busnes, a darlithio ym Mhrifysgolion LSE a Rhydychen mae’n ddarlithydd yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. Ynghyd â Monica Ward, hi sydd yn arwain ar adnabod arfer da o ran hyrwyddo dewisiadau cadarnhaol myfyrwyr israddedig i astudio trwy gyfrwng iaith leiafrifiedig mewn lleoliadau ble mae polisi cyhoeddus bellach yn hybu’r dewisiadau hynny.
Myfanwy Davies – Deon y Gymraeg yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, mae hi wedi cyflawni ymchwil cymdeithasol (ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg) gwerth £1.5 miliwn gyda agos at filiwn fel arweinydd y gwaith. Mae’n Brif Gymrawd gyda'r AAU ac yn gadeirydd Bwrdd Golygyddol Gwerddon https://gwerddon.cymru/. Mae ganddi diddordeb penodol mewn modelau dysgu hyblyg a chydweithredol. Fel Prif Ymchwilydd y prosiect, hi sydd yn cydlynu’r gwaith a hi sydd yn arwain ar yr adolygiadau sgopio,
Phil Davies - Ieithydd, academydd, tiwtor iaith a rheolwr prosiectau profiadol. Efe sydd yn arwain ar sgiliau Cymraeg uwch ar ran Canolfan Bedwyr. Mae hefyd yn gyfrifol am nifer o brosiectau a mentrau gwella sgiliau Cymraeg yn y Brifysgol sydd yn cyfrannu at y prosiect. Mae Phil yn cyfrannau at lunio’r cynlluniau peilot a’u gwerthusiadau.
Gwawr Maelor - Arweinydd y Gymraeg o fewn Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor a darlithydd mewn rhaglenni Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA) cynradd ac uwchradd. Medda ar brofiad helaeth yn addysgu yn y sector addysg uwchradd. Mae wedi cyfrannu a chyd awduro ar brojectau CEN/ Rhwydwaith Tystiolaeth Cydweithredol ar bynciau megis mynediad i’r Gymraeg yn ystod pandemig COVID-19a thrawsieithu yn y dosbarth.
Monica Ward - Prif gymrawd gyda'r AAU a Deon Dysgu ac Addysgu ym Mhrifysgol Dublin City. Hi yw Cadeirydd Grŵp Diddordeb Arbennig ar gyfer Ieithoedd llai cyffredin eu haddysgu yn EUROCALL (European Association for CALL). Mae hi'n ymchwilio i ddysgu’r Wyddeleg yn bennaf o fewn ysgolion ond yn gynyddol gyda myfyrwyr AU hefyd. Ar hyn o bryd mae'n edrych ar y defnydd o AI (yn enwedig GenAI) yn y broses o ddysgu ieithoedd. Mae hi’n rhannu’r cyfrifoldeb o arwain y gwaith ar gasglu arfer da o ran hybu dewisiadau cadarnhaol ymhlith myfyrwyr ddwyieithog gydag Angela Dalrymple.
Mirain Rhys – Yn seicolegydd gyda chefndir ymchwil cryf, mae diddordebau ymchwil Mirain yn ymwneud â datblygu/pontio'r Gymraeg o fewn addysg, y gymuned a'r cartref a sut mae hyn yn cymharu ag enghreifftiau poblogaethau ieithoedd lleiafrifol mewn cyd-destunau dwyieithog eraill y tu hwnt i Gymru. Cafodd Mirain yn ddiweddar gyda'r thîm Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddol yn Llywodraeth Cymru fel Uwch Swyddog Ymchwil ar y Gymraeg.
Katharine Young– yn ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd, gyda ffocws addysgu cynradd ar ddulliau ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg, mae gan Katherine ddiddordeb mewn addysg, a dwyieithrwydd yng Nghymru a thu hwnt. Yn ddiweddar mae Katherine wedi cydweithio'n effeithiol ar ymchwil gyda'r Brifysgol Agored, gan archwilio canfyddiadau o ddinasyddiaeth yng nghwricwlwm newydd Cymru a chyfrannu at greu CorCenCC, corpws o Gymraeg cyfoes. Chwaraeodd Katherine ran allweddol wrth lunio'r arolwg ar gyfer myfyrwyr ac mae'n arwain ar yr agwedd hon ynghyd â Mi Young.