Astudiaeth Arobryn yn Amlygu Niweidiau Parhaol Plismona Cudd

Mae Dr Bethan Loftus a’r Athro Martina Feilzer o Brifysgol Bangor a’r Athro Benjamin Goold o Brifysgol British Columbia wedi ennill y wobr ‘Erthygl Orau’ am eu papur, 'Being Watched: The Aftermath of Covert Policing', a gyhoeddwyd yn The Howard Journal of Crime and Justice (2024).
Nododd yr erthygl feysydd newydd ar gyfer ymgysylltiad damcaniaethol a methodolegol, gyda’r nod o ddeall yn well y niwed y gall gweithrediadau heddlu cudd ac o dan orchudd ei greu.

Dadleuodd yr awduron fod rhoi sylw i agosatrwydd cynhenid ac anorfod plismona cudd yn cynnig cyfle hanfodol i archwilio effeithiau parhaus arfer unigryw gan y wladwriaeth, sydd yn gallu newid bywydau unigolion dan oruchwyliaeth yn sylweddol ac yn herio dealltwriaethau confensiynol o gyfreithlondeb a therfynau grym, gorfodaeth a phŵer yr heddlu.
Cyflwynir y wobr bob blwyddyn i’r erthygl sydd, yn ôl golygyddion y cylchgrawn, wedi gwneud y cyfraniad mwyaf gwreiddiol at wybodaeth ym maes troseddeg a chyfiawnder.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Bethan: “Mae hwn yn un o’r cyfnodolion rhyngwladol mwyaf ei fri ac eang ei gyrhaeddiad yn ein disgyblaeth ac rydym yn hynod falch bod ein herthygl wedi cael ei chydnabod yn y modd hwn.”
Gallwch ddarllen yr erthygl arobryn yma: Being Watched: The Aftermath of Covert Policing.