Ffilm arobryn yn archwilio moeseg deallusrwydd artiffisial empathig
Mae Automating Empathy, ffilm fer sy'n archwilio cymhlethdodau emosiynol deallusrwydd artiffisial, wedi ennill y wobr am y Dylunio Sain Gorau yng Ngŵyl Ffilm Indie Portiwgal. Dan arweiniad Andrew McStay, Athro mewn technoleg a chymdeithas, a Vian Bakir, Athro mewn newyddiaduraeth a chyfathrebu gwleidyddol, mae'r ffilm yn rhan o broject AEGIS, a ariennir gan fenter Responsible Ai UK y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC).
Cynhyrchwyd y ffilm gan Stephen Elton, Dave Elton, Conor Flanagan, Maria Figueiredo, a Ben Bland, ac fe’i chynghorwyd gan dîm project AEGIS - Andrew McStay, Vian Bakir, Alex Laffer, Phoebe Li, a Ben Bland.
Mae Automating Empathy yn dod â'r heriau moesegol a achosir gan dechnolegau cydymaith deallusrwydd artiffisial yn fyw, megis sgwrsfotiau a gynlluniwyd i efelychu empathi, a nod y ffilm yw egluro mewn termau syml beth a olygir gan ‘awtomeiddio empathi’.
Eglura'r Athro Andrew McStay, “Am y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio ar ganllawiau rhyngwladol er mwyn llunio sut y dylid dylunio a llywodraethu systemau deallusrwydd artiffisial pwerus, megis sgwrsfotiau cydymaith deallusrwydd artiffisial. Bwriad y canllawiau hyn yw gosod ffiniau i ddatblygwyr a llunwyr polisi. Mae'r ffilm hon yn dod â'r materion hynny'n fyw, gan ddangos pa mor gymhleth a chymhellol y gall y technolegau hyn fod.”
Ychwanegodd yr Athro Vian Bakir,“Pan fydd sgwrsfotiau deallusrwydd artiffisial yn ymddangos eu bod yn empatheiddio â ni, nid ydynt mewn gwirionedd yn teimlo dim byd, ac rydym yn gobeithio y bydd y ffilm hon yn helpu pobl i ddeall hynny. Gallant greu rhith argyhoeddiadol iawn o ofal, boed hynny’n ‘gariad’ neu’n gydymaith digidol deallusrwydd artiffisial, ond dim ond dynwared a wnânt. Mae bodau dynol, yn enwedig plant, yn naturiol yn tueddu i drin technoleg realistig fel pe bai ganddi deimladau go iawn. Os nad ydym yn ofalus, rydym mewn perygl o ddod yn emosiynol ynghlwm, yn rhy ddibynnol, neu'n rhannu gormod o wybodaeth bersonol gyda rhywbeth na all ofalu amdanom mewn gwirionedd, nac yn rhoi ein buddiannau ni yn gyntaf.”
Gwyliwch y ffilm yma https://lnkd.in/eVrMtvFk
Llun: Hawlfraint Automating Empathy – Possibilities, Illusions and Hazards of Human-Machine Intimacy