Mae Prifysgol Bangor yn ymdrechu i fod yn lle teg, amrywiol ac cynhwysol i weithio ac astudio. Er mwyn cyflawni gweledigaeth a chenhadaeth Prifysgol Bangor, mae'r Brifysgol yn cydnabod pwysigrwydd dileu unrhyw rwystr i gyfartaledd hil.
Ym mis Ebrill 2022, daeth Prifysgol Bangor yn aelod o Gorff Cynghrair Cydraddoldeb Hil (REC) Advance HE ac, ym mis Ebrill 2025, cyflawnodd y Brifysgol Wobr Efydd REC (Gweler ein llythyr ymuno yma). Cafodd Bangor Wobr Efydd ynghyd â saith Prifysgol arall yng Nghymru, gan arwyddaru ymrwymiad parhaus ledled addysg uwch yng Nghymru, i wella cynrychiolaeth, profiad, cynnydd a llwyddiatn staff a myfyrwyr o hiliadau du, Asiadd, a lleiafrifoedd ethnig mewn addysg uwch. Mae pob un o wyth prifysgol Cymru wedi enill Gwobr Efydd Cydraddoldeb Hil - Medr.
Meddai'r Athro Morag Macdonald, Dirprwy Is-ganghellor dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Cadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Llesiant y brifysgol, ac aelod gweithgar o Dîm Hunanasesu'r Siarter Cydraddoldeb Hil ar y pryd:
“Mae’r wobr hon yn tystio i’r gwaith gwych a wnaed gan Dîm Hunanasesu’r Siarter Cydraddoldeb Hil. Maent wedi ymgynghori’n helaeth â’n cymuned o staff a myfyrwyr, ac wedi gwneud gwaith sylweddol yn dadansoddi data i ddarparu darlun cynhwysfawr o’r heriau a’r cyfleoedd yn y Brifysgol. Y gwaith hwnnw sydd wedi arwain at ddatblygu’r cynllun gweithredu.” “Mae’r brifysgol yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i hyrwyddo cydraddoldeb hil a chreu amgylchedd cynhwysol i bawb.”
Beth yw'r Siarter Cydraddoldeb Hil (REC)?
Mae'r Siarter Cydraddoldeb Hil yn fframwaith addysg uwch ledled y Deyrnas Unedig, dan arweiniad Advance HE, gyda'r nod o wella cynrychiolaeth, dilyniant a llwyddiant staff a myfyrwyr du, Asiaidd ac ethnig leiafrifiedig.
Rhoddir 5 mlynedd i brifysgolion sy'n dod yn aelodau o'r Siarter Cydraddoldeb Hil gynnal hunanasesiad sefydliadol mewn perthynas â chydraddoldeb hil, datblygu Cynllun Gweithredu Hil a chyflwyno cais am wobr y Siarter Cydraddoldeb Hil (gweler tudalen Chynllun Gweithredu Hil Prifysgol Bangor).
Mae'r Siarter Cydraddoldeb Hil wedi'i seilio ar y pum egwyddor arweiniol sylfaenol ganlynol:
1. Mae hiliaeth yn agwedd bob dydd ar gymdeithas yn y Deyrnas Unedig ac mae anghydraddoldebau ar sail hil yn amlygu eu hunain mewn sefyllfaoedd, prosesau ac ymddygiadau bob dydd. Mae anghydraddoldebau ar sail hil yn fater hollbwysig o ran canlyniadau i staff a myfyrwyr, gan gydnabod nad yw anghydraddoldebau ar sail hil o reidrwydd yn ddigwyddiadau amlwg ac ynysig.
2. Ni all addysg uwch yn y Deyrnas Unedig gyflawni ei llawn botensial os na all elwa ar ddoniau'r boblogaeth gyfan, a hyd nes y gall pobl o bob cefndir ethnig elwa'n gyfartal ar y cyfleoedd mae'n eu cynnig.
3. Wrth ddatblygu atebion i anghydraddoldebau ar sail hil, mae'n bwysig bod gweithredoedd yn anelu at gyflawni newid diwylliant sefydliadol hirdymor a thrawsnewidiol, gan osgoi model diffyg lle mai nod y gweithredoedd yw newid yr unigolyn.
4. Nid grŵp homogenaidd yw staff a myfyrwyr o gefndiroedd ethnig leiafrifiedig. Mae gan bobl o wahanol gefndiroedd ethnig wahanol brofiadau o addysg uwch a deilliannau addysg uwch, ac mae angen ystyried y cymhlethdod hwnnw wrth ddadansoddi data, datblygu atebion, a rhoi camau gweithredu ar waith.
5. Gall cofleidio rhyngblethedd, o ddadansoddi data i ddatblygu camau gweithredu, gefnogi sefydliadau mewn ffordd well i fynd i'r afael â hiliaeth o fewn y sector addysg uwch.
Sut aethom ati i gyflawni gwobr efydd y Siarter Cydraddoldeb Hil?
Sefydlwyd Tîm Hunanasesu Siarter Cydraddoldeb Hil Prifysgol Bangor ym mis Mawrth 2023, gan ddod ag ystod amrywiol o gydweithwyr a myfyrwyr ynghyd, a ddewiswyd am eu rolau, eu harbenigedd a'u profiadau bywyd i gynrychioli cydweithwyr academaidd a chydweithwyr o’r gwasanaethau proffesiynol, ochr yn ochr â myfyrwyr a chynrychiolaeth undeb myfyrwyr.
Dros gyfnod o 18 mis mae’r tîm hunanasesu wedi dangos ymroddiad ac ymrwymiad i'r broses hunanasesu. Roedd eu cyfraniadau’n eang eu cwmpas ac yn fawr eu heffaith, gan gymryd rhan yng nghyfarfodydd y Tîm Hunanasesu, ymgysylltu â’r rhaglen ‘Deall Hil a Hiliaeth’ dan arweiniad Advance HE, cydweithredu â Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, arwain gweithgorau thematig, dadansoddi data sefydliadol, a gosod blaenoriaethau clir o ran Cynllun Gweithredu Hil y brifysgol (gweler Cynllun Gweithredu Hil Prifysgol Bangor).