Musical Wellsprings in a Parched Landscape: Harmonic Sources for Steve Reich’s The Desert Music (1984)
Yr Athro/Professor Pwyll ap Sion (Prifysgol Bangor University)
Perfformiwyd am y tro cyntaf yn Cologne, Gorllewin yr Almaen, ar 17 Mawrth 1984, ac yn Academi Gerdd Brooklyn gyda'r Brooklyn Philharmonic and Chorus dan Michael Tilson Thomas yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Mae The Desert Music gan Steve Reich wedi dod yn un o'i gyfansoddiadau pwysicaf. Yn ogystal â bod yn waith cyntaf gan Reich ar gyfer cerddorfa symffoni a chorws, mae’r ‘symffoni gorawl’ hanner can munud ddi-dor yn gosod geiriau Saesneg am y tro cyntaf (yn yr achos hwn, detholiadau o gerddi gan William Carlos Williams) ac roedd yn un o weithiau cyntaf Reich i archwilio strwythur tebyg i balindrom ABCBA (fel a ffefrir gan Bartók ac eraill), a ddefnyddiwyd wedyn gan y cyfansoddwr mewn llawer o weithiau eraill, yn cynnwys Sextet (1985) a Runner (2016).
Yn bwysicach efallai, mae The Desert Music yn nodi ymadawiad i fyd sain newydd, wedi’i ysgogi’n rhannol gan naws testunau Williams, y mae eu harmonïau bygythiol wedi’u disgrifio gan Reich fel rhai mwy cromatig a thywyllach na gweithiau blaenorol. Ysgogodd hyn i K. Robert Schwarz awgrymu mai agwedd fwyaf syfrdanol The Desert Music oedd ei ‘amrediad emosiynol neilltuol', wedi'i hategu gan ei harmonïau cynhyrfus, a lwyddodd i '[ehangu] geirfa fynegiannol Reich.'
Mae’r cyflwyniad i’r gwaith, sy'n cynnwys patrwm pum cord cylchol bedair gwaith, yn gosod y naws bygythiol hwn. Mae Reich wedi disgrifio’r cordiau hyn fel harmonïau trechol wedi’u newid yn eu hanfod, y gellir olrhain eu tarddiad i astudiaethau preifat y cyfansoddwr gyda’r cerddor jazz, y cyfansoddwr a’r trefnydd Hall Overton rhwng 1957–58, cyn cofrestru yn Ysgol Gerdd Juilliard y flwyddyn ganlynol, a’i ddiddordeb cyffredinol ar y pryd mewn iaith gordiol cerddorion jazz fel Thelonious Monk a John Coltrane.
Serch hynny, mae brasluniau Reich sy’n dyddio o'r cyfnod pan oedd yn cyfansoddi The Desert Music yn awgrymu ei fod mewn gwirionedd yn bwrw ei rwyd harmonig llawer ehangach i ganfod y sain iawn. Mae cordiau a gopïwyd i'r llyfrau brasluniau o Wagner, Debussy, Ravel, Stravinsky, Bartók (y mae'n ymddangos bod rhai ohonynt wedi'u cymryd o lyfr Harmony Walter Piston), ac efallai’n fwyaf arwyddocaol, Charles Ives, yn awgrymu bod Reich wedi ceisio alinio ei hun lawn gymaint â mawrion sefydledig cerddoriaeth gerddorfaol diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif â gyda meistri jazz fel Monk a Coltrane, fel y dangosir pan gaiff harmonïau agoriadol The Desert Music eu dadansoddi yng ngoleuni'r deunyddiau braslunio.