
Mae cyfres ffilmiau The Terminator wedi gadael ei hôl yn ddigamsyniol ar ddiwylliant poblogaidd. Yn 1984, llwyddodd gweledigaeth dywyll James Cameron o’r dyfodol i greu sioc ddiwylliannol sy’n parhau i atseinio hyd heddiw, nid yn unig mewn sinema, ond hefyd ym meysydd llenyddiaeth, celf, dylunio, gemau cyfrifiadurol a theori feirniadol. Mae’r gyfres hyd yn oed yn cael y clod am ysgogi nifer o dueddiadau esthetig, megis tech-noir. Mae'r hyn a ddechreuodd fel ffilm bellach wedi dod yn fydysawd amlgyfrwng sy'n cynnwys dilyniannau, cyfres deledu, cyfres ar y we, comics, gemau fideo, gemau bwrdd, nofelau a reidiau mewn parciau thema. Mae'r gyfres hefyd yn cael ei dyfynnu'n aml mewn dadleuon sy'n ymwneud â chorfforaethau amlwladol, roboteg, biowleidyddiaeth, ôl-ddynoliaeth a thrawsddynoliaeth, deallusrwydd artiffisial, ac apocalyps niwclear. Bydd y symposiwm hwn, a gynhelir gan y Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin ym Mhrifysgol Bangor, yn dod ag ysgolheigion o amryw o gefndiroedd a disgyblaethau ynghyd - megis astudiaethau diwylliannol ac astudiaethau sgrin; hanes celf, dylunio, ffasiwn a phensaernïaeth; cerddoleg; athroniaeth; gwyddorau gwleidyddol; cyfrifiadureg a roboteg; llenyddiaeth; astudiaethau trefol ac ecolegol; ac astudiaethau hil, rhywedd, cwiar a rhywioldeb. Eu nod fydd archwilio The Terminator ddeugain mlynedd ar ôl ei rhyddhau, archwilio ei gwreiddiau a'i gwaddol, ac ystyried ei safle o fewn diwylliant gweledol ehangach.