Mae’r Ysgol Seicoleg yn falch o gyhoeddi lansiad Cyfres Seminarau Seicoleg Celfyddydau John Shrigley; cyfres seminarau flynyddol a fydd yn amlygu ymchwil yn ymwneud â Seicoleg Celf a phynciau cysylltiedig.
I ddechrau'r gyfres, byddwn yn cynnal darlith gyhoeddus ddydd Iau, Mai 28ain, 6-7yp yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrifysgol Bangor.
Ein siaradwr cyntaf fydd Dr Rebecca Chamberlain o Brifysgol Goldsmiths Llundain.
Crynodeb
Mae lluniadu yn weithgaredd dynol hynafol, un sy’n gaffed iawn yn ystod plentyndod ond un sy’n llai cyffredin yn ystod oedolaeth. Ac eto, hyd yn oed fel oedolion rydym wedi ein hamgylchynu gan ddelweddau wedi'u llunio y mae'n rhaid i ni eu datgodio er mwyn i ni allu deall bwriadau'r artist. Sut ydym ni'n dysgu sut i luniadu a deall lluniadau? I ateb y cwestiynau hyn, byddaf yn dadansoddi'r mecanweithiau seicolegol a niwral sy'n gysylltiedig â dysgu lluniadu, gan ganolbwyntio'n benodol ar ganfyddiad gweledol a sylw. Yna byddaf yn darparu tystiolaeth bod edrych ar luniadau yn ymgysylltu â'r corff, gan ddal drych i'r broses o luniadu ei hun. Mae'r safbwyntiau cyflenwol hyn yn taflu goleuni ar luniadu fel gweithred a chanlyniad.
Bywgraffiad byr
Ymhlith y nifer o sgiliau a esblygodd bodau dynol i ddylunio eu hamgylcheddau, mae gwneud celf ymhlith yr hynaf, gyda thystiolaeth ohono sy'n llawer cynharach na chyfathrebu ysgrifenedig. Mae ymchwil Rebecca yn ceisio deall sut a pham mae unigolion yn creu ac yn ymateb i ddarnau celf mewn ffordd mor bwerus. Astudiodd Rebecca am radd sylfaen mewn Celf a Dylunio ym Mhrifysgol y Celfyddydau, Llundain cyn symud i wyddoniaeth wybyddol. Cwblhaodd ei hastudiaethau israddedig ac ôl-raddedig mewn Seicoleg Arbrofol yng Ngholeg Prifysgol Llundain gan ymchwilio i seicoleg a niwrowyddoniaeth lluniadu cynrychioliadol. Ymunodd Rebecca â Goldsmiths fel darlithydd yn 2017. Ar hyn o bryd mae hi'n Gyfarwyddwr Rhaglen y radd MSc mewn Seicoleg y Celfyddydau, Niwroestheteg a Chreadigrwydd ac yn Brif Olygydd y cyfnodolyn Empirical Studies of the Arts.