Fy ngwlad:

Castell Sain Ffagan

Prosiectau Doethurol

Teitl y prosiect: 'St Fagans Castle: its Architectural and Landscape History'

Goruchwylir gan: Dr Shaun Evans a Dr Lowri Ann Rees

Cefnogir yr ymchwil gan: Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen Foundation ac Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru

Wedi'i gwblhau: 2020-2025

Llun o prif ffasad plasdy o'r enw Castell Sain Ffagan, sydd wedi ei rendro a'i olchi â chalch.
Prif ffasâd Castell Sain Ffagan.

Mae Castell Sain Ffagan yn blasty Elisabethaidd yng Nghaerdydd sydd o arwyddocâd cenedlaethol fel adeilad rhestredig Gradd I a chartref i Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Wedi'i adeiladu tua 1569-80 ar safle castell canoloesol a chan gyfreithiwr bonheddig lleol o'r enw Dr John Gibbon (m.1581), trosglwyddwyd y tŷ i ddau deulu lleol pwerus yn gyflym ar ôl ei gilydd, yr Herbertiaid o Abertawe ym 1596 a'r Lewisiaid o'r Fan ym 1616. Ym 1736, daeth Castell Sain Ffagan i feddiant teulu Windsor (Windsor-Clive yn ddiweddarach), Ieirll Plymouth, a oedd â'u prif sedd yn Swydd Gaerwrangon. Parhaodd eu perchnogaeth heb ymyrraeth tan 1946, pan roddwyd y tŷ a'r gerddi i Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a oedd yn chwilio am safle addas ar gyfer sefydlu'r amgueddfa werin awyr agored, a agorodd yn ffurfiol ym mis Gorffennaf 1948.

Prif amcan prosiect doethuriaeth Bethan oedd darparu astudiaeth gynhwysfawr o Gastell Sain Ffagan. Mae ei thraethawd hir yn cymryd dull aml-gyfnod ac amlddisgyblaethol o adrodd stori'r adeilad, gyda phenodau'n rhychwantu'r ddeuddegfed ganrif i'r ugeinfed ganrif ac adrannau cydberthynol ar bensaernïaeth, gerddi, a pherchnogaeth. Er mwyn darparu darlun llawn, ehangodd Bethan ei hastudiaeth y tu hwnt i graidd yr ystâd - y tŷ, gerddi, ac adeiladau ystâd yn y cyffiniau uniongyrchol - i ystyried tai eraill sy'n 'perthyn' i Gastell Sain Ffagan, er enghraifft Hewell Grange yn Swydd Gaerwrangon, prif gartref y teulu Windsor.

Un o gyfraniadau allweddol y traethawd ymchwil yw tynnu sylw at rôl menywod mewn prosiectau pensaernïol a gerddi yng Nghastell Sain Ffagan, rhywbeth sydd wedi’i anwybyddu’n gyffredinol yn y llenyddiaeth gyfredol. Mae Bethan wedi dangos sut wnaeth tair cenhedlaeth olynol o fenywod Windsor-Clive – Harriet, Mary a Gay – cyfraniadau sylweddol i’r tŷ a’r gerddi yn y cyfnod Fictoraidd. Cyfraniad arall yw tynnu sylw at y cysylltiad rhwng Castell Sain Ffagan a’r gwladychwr drwg-enwog Robert Clive (1725-1774), a elwir yn aml yn ‘Clive o India’, yn ogystal â datgelu pa rannau’n union o’r tŷ a’r gerddi a adeiladwyd gyda’i ffortiwn trefedigaethol. Roedd y llinyn penodol hwn o ymchwil Bethan yn cyd-fynd ag ymdrechion Amgueddfa Cymru i ddad-wladychu eu casgliadau, ac i gydnabod ei hymchwil cafodd Bethan ei phenodi fel Ymgynghorydd ar y prosiect ‘Persbectif(au)’ a gomisiynwyd gan yr amgueddfa mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru.

Canfu Bethan hefyd fod Castell Sain Ffagan yn astudiaeth achos ardderchog ar gyfer ystyried themâu ehangach megis a oes unrhyw beth pensaernïol nodedig neu unigryw am blastai yng Nghymru, a sut effeithiodd y Dadeni Eidalaidd ar dai bonedd yng Nghymru yn ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg, dau bwnc y mae hi'n gobeithio ymchwilio iddynt ymhellach.

Cyflwynodd Bethan ei hymchwil mewn sawl cynhadledd yn ystod ei hastudiaethau, gan gynnwys cynhadledd flynyddol Archif Menywod Cymru ym mis Hydref 2023; cynhadledd 'New Insights into 16th and 17th Century Architecture' ym mis Ionawr 2024; a chynhadledd 'Researching, Writing and Presenting Welsh Country House Histories' ym mis Tachwedd 2024. Ar hyn o bryd mae hi yn y broses o addasu ei thraethawd hir i'w gyhoeddi gyda Gwasg Prifysgol Cymru.