Teach Mór, Plasty, Mansion: a consideration of two Irish-Welsh estates
Seminar Ymchwil
Ar gyfer y Seminar Ymchwil hwn, bydd Dr Gareth Huws yn ymuno â ni i rannu cyflwyniad o'r enw 'Teach Mór, Plasty, Mansion: a consideration of two Irish-Welsh estates'.
Yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif, roedd gan rai ystadau tiroedd yn Iwerddon a Chymru. A oedd perchnogion yr ystadau hyn yn trin eu tenantiaid Cymreig a Gwyddelig yn yr un ffordd? A ystyriwyd ystadau o'r fath yn arbennig o Wyddelig neu'n arbennig o Gymreig? Gan ddefnyddio deunydd ffynhonnell sydd heb ei ystyried hyd yma, bydd y seminar ymchwil hwn yn archwilio'r materion hyn, ac yn eu gosod yn eu cyd-destun cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol.
Mae croeso i fynychwyr ymuno â ni ym Mhrifysgol Bangor, ac nid oes angen cofrestru ar gyfer hynny. Os hoffech ymuno'n ar-lein drwy Teams, yna cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen a ddarperir.