Ein Neuaddau

Ein Pentrefi Llety

Neuadd Breswyl Alaw ym Mhentref Ffriddoedd

Pentref Ffriddoedd

Yn Ffriddoedd mae tua 1,800 o ystafelloedd, y mwyafrif ohonynt yn en-suite. Wedi'i leoli ym Mangor Uchaf, mae'n ychydig funudau o gerdded i adeiladau'r Brifysgol ar Ffordd y Coleg a Ffordd Deiniol.

Pentref Santes Fair

Pentref Santes Fair

Mae'r pentref yn ddatblygiad modern o tua 600 o ystafelloedd, sydd wedi ei lleoli'n agos at ganol y ddinas.  Mae amrywiaeth o lety ar y safle, gan gynnwys fflatiau, stiwdios a threfi tref.

Opsiynau Llety

Edrychwch ar wybodaeth am ein pentrefi llety a gweld manylion neuaddau unigol.

En-suite yn Ffriddoedd

Mae'r neuaddau isod i gyd o fath tebyg, gydag ystafelloedd ymolchi preifat a cheginau wedi eu rhannu rhwng 8 o fyfyrwyr. Mae rhai ystafelloedd mwy ar gael am gost ychwanegol.

Mae'r neuaddau isod i gyd o fath tebyg, gydag ystafelloedd ymolchi preifat a cheginau wedi eu rhannu rhwng 8 o fyfyrwyr.

Ystafelloedd Safonol

Mae’r neuaddau yma'n cynnig ystafelloedd safonol, gydag ystafelloedd ymolchi a cheginau i'w rhannu.

Ystafelloedd i Ôl-raddedigion

Dyma restr o neuaddau sydd yn cynnwys ystafelloedd Ôl-raddedig, yn cynnwys ystafelloedd safonol, en-suite, fflatiau stiwdio a thai tref.

Myfyrwyr gydag anghenion ychwanegol

Gellir gwneud trefniadau lle bo’n bosibl i ddarparu ar gyfer ceisiadau unigol gan fyfyrwyr sy’n gysylltiedig ag anabledd.

Os oes gennych chi ofynion arbennig, a fyddech cystal â thrafod y rhain gyda’r Cynghorwr Anableddau ar  01248 382032 neu e-bostiwch gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk. Bydd y cynghorwr yn gallu trafod unrhyw anghenion am gymorth a fydd gennych, yn ogystal â’ch cymhwyster ar gyfer cyllid ychwanegol.

Cewch weld ystafell sydd wedi ei haddasu yma.

En-suite yn Santes Fair

Mae'r neuaddau canlynol yn cynnig ystafelloedd ymolchi preifat. Rhennig ceginau mewn fflatiau en-suite rhwng 5 i 8 o bobl.

Stiwdios

Mae Stiwdio yn cynnwys cegin fach breifat ac ystafell ymolchi preifat.

Tai Tref

Rhennig ceginau yn y Tai Tref rhwng 8-12 o bobl a rhennig ystafelloedd ymolchi rhwng 2.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?