Fy ngwlad:

Beth Yw Ymwybyddiaeth Ofalgar?

Fideo: Beth yw Meddwlgarwcch

Trawsgrifiad fideo

Ystyr ymwybyddiaeth ofalgar ydi dwyn ein sylw yn fwriadol at y foment bresennol, fel y mae, heb geisio ei newid na'i farnu. Mae'n sylwi ar feddyliau, emosiynau, teimladau'r corff, a'r amgylchoedd gyda chwilfrydedd a charedigrwydd. Yn hytrach na chael ein dal mewn pryderon am yfory neu edifeirwch am ddoe, mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ein helpu i aros yn gysylltiedig efo'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Dydi hyn ddim yn golygu gwagio'r meddwl na chyflawni rhyw gyflwr arbennig. Yn syml, mae’n golygu dod yn fwy ymwybodol o brofiad uniongyrchol a bod yn agored i’r profiad hwnnw, yn amyneddgar efo’r profiad a’i dderbyn.

Dydi ymwybyddiaeth ofalgar ddim yn dalent arbennig sydd gan rai pobl a ddim gan eraill. Mae'n allu naturiol sydd ar gael i bob un ohonom - yn un y gallwn ni ei gryfhau trwy ymarfer. 
Trwy fyfyrdod, rydan ni’n hyfforddi ein sylw'n raddol i aros efo'r foment bresennol. Dros amser, mae'r ymarfer hwn yn cryfhau ein gallu o ran ymwybyddiaeth ofalgar, fel bod modd i ni ei gynnwys ym mhob agwedd ar ein bywydau beunyddiol.
 

Grwp o bobl yn eistedd mewn stafell

Meistr mewn Ymwybyddiaeth Ofalgar: Gradd dysgu cyfunol

Ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar personol wrth astudio'n rhan-amser.

""

Hyfforddiant i Addysgu

Darganfyddwch gyfleoedd dysgu hyblyg ar draws ein cyrsiau byr, CPD a hyfforddiant arbenigol. Mae ein rhaglenni’n cefnogi datblygiad personol, uwchsgilio proffesiynol a dysgu gydol oes, gyda dewisiadau’n amrywio o gyrsiau cyflwyniadol i lwybrau hyfforddiant uwch.

YMUNWCH Â NI

Dilynwch ein cyfrifon ar Facebook ac Linkedin.

Facebook

Linkedin

Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Meddylgarwch, Adeilad Brigantia, Bangor, Gwynedd, LL57 2AS

Cysylltu

Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Meddylgarwch, Adeilad Brigantia, Bangor, Gwynedd, LL57 2AS